Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 213.] EBRILL, 1853. [Cyf. XVIII Y MAE DYN I FYW BYTH. GAN Y PARCH. JOHN WILLIAMS, CASTELLNEWYDD. Eglur yw fod dyn i farw. Llais Dadguddiad Dwyfol, a hanesiaeth y teulu dynol, a gyd-dystiant am dano yn ei ogoniant mwyaf a'i harddwch penaf: "Y marwol hwn." Nid dygwyddiad annghyífredin, neu ddamwain anffodus, yw fod dyn yn marw, and deddf sefydlog Llywydd y byd : " Gosodwyd i ddynion farw unwaith." Mae marwoldeb dyn yn beth hollol amlwg: " Y byw a wyddant y byddant feirw." Y llinell olaf yn hanesiaeth goffadwriaethol pob un o enwogion yr oesoedd gynt yw : " Efe a fu farw." . Deallwn yn rhwydd, heb i neb fynegu i ni, mai cenedl ieuanc a breswjdia y ddaear yn bresenol; nid oes hen bobl yn y byd i'w cael. Y mae yma hen dyrau, cestyll, a choedydd—dim hen ddynion. Ceir ambell un yma a thraw wedi byw cant o flyneddoedd. Gŵr ieuanc yw hwnw wrth ei gymharu â'r dderwen gadarn, dewfrig, a leda ei gwraidd, ac a estyn ei changau wrth gefn ei dỳ. Yr oedd ei changau hi yn ddigon cryfion i dùri grym yr awelon y noswaith ystormus y ganwyd ei dadcn, yr oedd yn wyrddlas gan ddail y borau y daeth ei dad i'r bycl, a bjTdd ei brigau yn dyferu dagrau hiraeth dydd ei angladd yntau. Pobl ieuainc a dyfodiaid diweddar yw holl ddynion y byd. Mae barn pawb yn unol &m farwoldcb dyn ; ond hynod yw eu dychymygion, ac amrywiol eu tybiau am ei anfarwoldeb. Marwoldeb dyn sydd wirionedd a addefir yn mhob gwlad, ac yn erthygl gymeradwy yn mhob credo. Yr Ymneillduwr a'r Eglwyswr, y Pro- testant a'r Pabydd, yr íuddew a'r Cristion, y Mahomedan a'r Pagan, yr annuwiol a'r Anffyddiwr, oll a addefant fod dyn i farw. Medrwn yn rhwydd, ond cael lamp hanesyddiaeth yn ein llaw, ddilyn ôlion traed ein hynafiaid i'r bedd, a gwybod y fan y disgynodd "y pridd i'r pridd." Wedi rhoi y corff yn y bedd, dechreua y byw ddadleu am dynged y marw. Mŷn yr Anffyddiwr iddo fyned i lawr i'r bedä yn gyfan a chyflawn—ei fod ar ben ei daith, wedi cyrhaedd ei artref bythol, ac na bydd mwy o hono. Dychymyga y Pagan iddo fyned lawr yn gyfan, ond y cyfyd cyfran o hono rywbryd i rywle; nis gŵyr pa bryd y cyfyd, nac i ba le yr â wedi hyny. Solomon yntau, yn ngoleuni Iuddewaeth, a rydd ei farn ar y pwnc : "Ac y dychwel at Dduw yr hwn a'i rhoes ef." Iesu Grist, yn nameg y goludog a Lazarus, a rydd olau pellach, boddhaol a therfynoî, ar y pwnc pwysig hwn. Dygwyd "bywyd ac anllygredigaeth i oleuni drwy yr efengyl." Gofynwyd i mi unwaith gan blentyn bychan, A í'ydd dj'n byw ar ol iddo farw ? Atebais ar y pryd yn gadarnhaol, Bydd. Wedi hynjr, bum yn meddwl am ychydig ffeithiau i brofi fy ngosodiad, ac wele hwynt mewn dull sj'ml y gall plentyn eu hamgyffred. Bydd byw, oblegid y mae amfyw.—Mae bywyd yn anwyl gan ddyn ; hoffa fywyd pe byddai ganddô onid ychydig o'i gysuron. Dymuna y tylawd gaeí byw, er fod ei wisg yn garpiog, ei fwth yn wael, a'i damaid yn brin. Y claf ar ei wely yn " bwyta bara gofidiau, ac yn yfed dwfr blinder," sydd yn awyddus i gael byw. Gwell gan y carcharor yn ei gell dywell, dan ei gadwyn drom, gael byw i mewn na marw maes. Dewisa y troseddwr alltudiaeth am ei oes i wlad estronol yn hytrach na marw ar y pren. Cariad at fywyd yw y ddeddf; blino arno ydyw yr eithriad. Credwyf yr hoffai ambell adyn pechadurus gael ei ddifodi; nid am fod difodaeth yn beth dymunol ynddo ei hun, ond dewis y drwg lleiaf o ddau y mae— difodaeth yn hytrach na chosb. Gwelwyd cymydog weithiau yn dyfod ar neges at y tŷ pan oedd ychydig ymwelwyr trwsiadus i fewn ; gomeddodd ddyfod i fewn atynt, nid am nad hoffai yr ymwelwyr y buasai yn dda ganddo eu cwmni, a chael 14