Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 2110 HîwEFíÌORriëíí [Cyf. XVIII. A M H E U S R W Y D D. TltA buom yn dysgwyl wrth ein brodyr am y mis hwn, aeth yn ddiweddar, a gorfu i ni ysgrifenu a ganlyn mewn brys. Yr ydym yn ddyledus am y ineddylddrychau arweiniol i'r Parch. II. lieynolds, o Leeds.—Gol. Amheusrwydd, neu amheugarwch, neu betrusder, neu beth bynag a ellir ddeall wrth yr hyn y mae y Sais yn ei alw Scejjticism, ac a ddeillia oddiwrth y Groeg a^tTTTOfjiai, edrych yn betrusgar— edrych o gwmpas—brydffodi. Cymhwyswyd y gair at Pyrrho a'i ganlynwyr, philosopbydd o Elis, a dysgybl i Anaxarchus. Yr oedd ef, a'r rhai oedd yn ei ganlyn, yn amheu pob peth. Nid oeddynt un amser yn. gwneud casgliadau penderfynol. Wedi chwilio i'r manylrwydd mwyaf, buasent yn amheu cywirdeb y tystiolaethau, ac hyd yn nod eu synwyrau coríforol. Galwyd yr amheugarwch hwn yn Pyrrhoniaeth, a chanlynwyr Pyrrho a gyfenwyd yn Sceptiaid, neu Amheuwyr. Hònai y sect hon nad oedd dim byd a fynai teimlad â barnu, ac nad oeddynt yn teimlo o barthed i unrhyw beth, a bod bywyd ac angau yr un fath. Nid oedd Pyrrho, medd efe, yn ofni dim, nac yn teimlo am ddim. Pan oedd ei feistr wedi syrtbio i'r ífos, ac mewn perygl o golli ei fywyd, aeth Pyrrho heibio, gan ei adael yn ddigymhorth ; a phan oedd ef ei hun, yn nghyd â llawer ereill, mewn ystorom flin ar y môr, ac yn debyg o fod yn ymborth i'r pysg, a'r holl ddwylaw ar y bwrdd yn wylo a galaru mewn cyífroad mawr, dy- wedodd wrthynt, yn hollol ddigyffro, am edrych ar y mochyn oedd yn ymroddi i fwyta ar fwrdd y llestr, ac mai hwnw oedd y cynllun mwyaf priodol i ddyn. Nid edrychai yn ol, ac ni thröai oddiar ganol y flbrdd pan fyddai twrw certiau a cher- bydau ar ei ol, ac ni ysgogai fodfedd rhag unrhyw berygl; a bu yn dda iddo yn fynych bod ei gyfeillion yn gallach nag ef, amgen buasai wedi ei ladd. Yr oedd yn byw oddeutu tri chan mlynedd cyn Crist, ac y mae iddo gaulynwyr lawer wedi bod oddiar hyny hyd yn awr yn ei bethau gwaethaf, y rhai a gymerant arnynt i amheu pob peth, hyd yn nod dystiolaeth eu synwyrau eu hunain. Ond ystyr crefyddol neu dduwinyddol y gair yw, un yn amheu Dadguddiad Dwyfol, priodol- iaethau a bodolaeth Duw, parhad ein bodolaeth ein hunain, &c. Dywedir mai dyma y pechod sydd yn awr yn fwyaf ffynadwy yn ein gwlad. Y mae Tad y Celwydd yn ofalus iawn am ddilyn yr oes. Pan mae y werin oddeutu dryllio cebystrau offeiriadol, a symud hen ddefodau coel-grefyddoldeb, gwna ei orau ya awr, megys bob amser, i'w harwain ar eu rhedegfa i dir amheuaeth ac Anffyddiaeth. Y mae gwahaniaeth rhwng amheuaeth ac annghreainìaeth. Mae y dyn hwnw fyddo wedi meddwl ac ymchwilio, ag sydd yn ymdrechu credu yr hyn nad all ymddiried ynddo, am na wel sail ddigonol i hyny, er y dymunai ei gweled, yn gwybod beth yw amheuaeth o'r fath boenusaf. Mae y llalí yn mhell o deimlo yn awyddus i ddal yr hyn nid all yn rhwydd a chalonog ei gredu ; gesyd o'r neilldu ffydd ei riaint, a chredo ei febyd, mor rhwydd ag y teifl ei hen ddillad ymaith, heb un ymdrech meddwl, na hiraeth ar eu hol. Y mae hwnyna ynannghrediniwr, ond nid yn amheuwr. Mae amheuaeth yn arwain yn fynych i Anffyddiaeth; ond weithiau hefyd cynyrcha ffydd gryfach nag a feddai yr amheuwr o'r blaen. PJiaid cyfarfod â'r amheuwr à moddion moesol; rhaid ymosod ar yr Anffyddiwr âg arfau meddyliol—à rhesymau, ac nid âg awdurdod dadguddiedig. Gwrth- brofion dysgedig a gadarnhant amheuaeth yn fynych, a darbwylliad moesol a gynddeirioga Anffyddiaeth i wallgofrwydd. Ein hamcan, gan hyny, ddylai fod, i ddangos i'r Anffyddiwr pa fodd i amheu, ac i'r amheuwr pa l'odd i gredu. Bycid y defnydd a wnawn ni o'r gair amheuganoch yma ya goblygu ynddo ryw ffurfiau o annghrediaetb,.