Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWÍL Ilini'. 209.] wäÄGFYR^l&sSr ~CCyi:. XVÍI. TRACHWANT. GAN Y PARCH. M. REE8, Q R O E 3 W E N. Trachwant yw chwant mawr, neu awydd cryf, gwresog, ac annyoddefus am un- rhyw beth. Ý mae trachwant a chwant bob amser, ac yn mhob man, yn deilliaw o'r un gair gwreiddiol Epithumia, oddigerth pan sonir am chwant bwyd. Pina, sef newyn, newynu, yw y gair a arferir pryd hyn yn wastadol. Y mae'r gair Groeg Epithumia, yn cael ei gyfieithu yn y Testainent Newydd tua 25 o weithiau yn chwant, a thua 9 o weithiau yn drachwant, a phob amser yn dynodi chwant, awydd, neu fiys annghymedrol a phechadurus. Y mae chwantau cyfreithlon a naturiol yn bod, megys chwant bwyd, diod, dillad, tàn, gwely, &c.; ac y mae chwantau crefyddol ac ysbrydol yn bod, sef chwenychiad ac awydd i garu Duw, cadw ei orchymynion, a byw yn dduwiol. Ond chwantau annghyfreithlon aphech- adurus ydynt naill ai chwenychiadau am bethau gwaharddedig, neu ddymuniadau annghymedrol a gormodol am bethau cyfreithlon. Dyma yn briodol yw trachwant. Nid yw'r Bibl fyth yn son am drachwant ond fel peth pechadurus a drwg. Ni a ddangoswn drachwant-—■ Yn ei nodweddau naturiol a phriodol.—Y mae i drachwant amrywiol a gwahanol weddau, yn ol ansawdd, gwybodaeth, dysg, dawn, sefyllfa, cyfieusdra, ac oedran ei ddeiliaid. Anhawdd- cael un dau yn gyfartal hoílol mewn un peth amgen dyben; ac felly y mae i drachwant weddau lawer. Ymdrechwn ei egluro gorau y medrom, fel na byddo amheuaeth yn meddwl y gwanaf ei olygon o barthed iddo pan ei cyfarfyddo. Nid da camsynied am ddim, yn neillduol o berthynas i elyn a chyfaill, drwg a da, pechod a rhinwedd, cyfiawnder ac an- nghyfiawnder, &c. Felly y mae pwys mawr i ni allu adnabod trachwant. Gioedd Trachwant yw'r awydd didor sydd mewn llawer o ddynion am ohid a chy/oeth y byd hwn.—Pentyru golud yw prif lafur ac amcan miloedd, (nid pawb, trwy drugaredd) o drigolion ein byd. Caffont a fynont, nis digonir hwynt. Cydiant faes wrth faes, ond byth ni chydiant ddigon. "Y neb a garo arian, ni ddigonir âg arian" Y mae gras yn dysgu ei berchenog i fod yn foddlawn ar ychydig cystal a llawer. Cawn engraifft o hyn yn mywyd Jacob a Phaul. Yr oeddynt hwy yn nghanol gwasgfeuon a chaledi yn gallu gwaeddi " digon." Ond yr hwn a garo arian, ac a osodo ei galon arnynt, ni wel fyth mo'i ddigon—gwaedda o hyd fel merched y Gele, " Moes, moes," ac " a helaetha ei feddwl (am arian) fel uffern, ac y mae fel angau, yr hwn nis digonir,'' Hab. 2, 5. Pan fwyaf a gaffo, mwyaf oll y mae yn ymofyn. Diau mai i ddynion y rhodded y byd; ond ni rhodded ef i'w garu i neb, ond ei arfer a'i ddefnyddio er gogoniant y Rhoddwr. Nid hyfryd gweled neb yn wylo, ac yn colli dagrau fwy na mwy ar ol plant, gŵr, gwraig, tad, mam, &c.; ond gwarthus, cywilyddus, ì'e, pechadurus, yw gweled neb yn wylo ar ol aur, arian, tai, tiroedd, anifeiliaid, a meddianau y byd hwn!! Gwelir ambell i gybydd yn gwneud hyn, ac yn dangos llawer mwy o ofid ar ol colli ei arian, na cholli ei wraig a'i blant. Ac nid yw hyn yn annaturiol, gan mai yr hyn a gerir fwyal, yw yr hyn y gelerir fwyaf ar ei ol. Duw y cybydd yw ei aur a'i arian. O dduw tylawd i ymddyried yndäo! Owedd Trachwant yufr chwenychiadau cryfion sydd mewn dynioìi i gyrhaedd a pherchenogi pethau a meddianau rhai ereill, èrfod ganddynt lawn digon, a mwy na digon efaìlai, eu hunain.—Paham yr ymgeisia Uawéram dai a meusydd eu cymydog- 46