Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 208.] TACHWEDD, 1852. [Cyf. XVII. SYLWEDD DAftLITH AE 2 TIM. 2, 5, 6. GAN IORWERTH GLAN ALED. GosODiii crefydd allan gan yr apostol fel sefydliad Dwyfol tuag at gael y byd i'r drefn a'r agwedd yna, sef cael dynion yn gadwedig. Ei gwahanol ddosbeirth syl- faenol a osodir allan yn ngeiriau ein testyn, sylwedd pa rai yw, " Trefniant gor- uchel y Jehofah i ddwyn y byd i afael cadwedigaeth." Gelwir y trefniant hwn gan yr apostol yn wirionedd: dyfod i wybodaeth o honi fel y cyfryw ydyw y brif ddy- ledswydd. Gwirionedd sydd air cyferbyniol i Dwyll. Wrth icirionedd mewn ystyr gyífredinol y golygir hyn, sef cyfatebiad rhwng barn a phethau—bod golyg- iadau dyn am bethau, a'r pethau eu hunain, yn cyfateb i'w gilydd. Er engraifft, gallem gymeryd geiriau a meddyliau. Trwy eiriau y gosodir allan feddyliau; ac yn eu manylntydd priodol fel arddangosion, y mae gwirionedd yr esboniad yn gynwysedig. Dyna beth yw yr efengyl, sef darlun cywir o feddwl y Jehofah tuag at ddynion colledig; ac y mae yn cynwys "y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir." Y mae ystyr arall i'r gair gwirioneád yn ei gymhwysiad at yr efengyl, sef fel y mae yn gyferbyniol à'r hyn oedd anmherffaith ac aricyddluniol dan yr hen oruchwyl- iaeth: " Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a'r giririonedd a ddaeth trwy Iesu Grist." Nid oedd y gyfraith ond sefydìiad cysgodol ac arwydd- luniol, eithr yr eíengyl yn sylwedd y cyfan, am hyny yn wirionedd* y cysgodau. Y gwirionedd ardderchog hwn a osodir allan, o ran ei egwyddorion sylfaenol, yn ein testyn,— Canys un Düw sydd.—Hon ydyw egwyddor sylfaenol yr holl sefydliad go- goneddus; fel y cyfryw, y mae i'w hystyried fel flynoneil pob gwirioneddau ereill yn mhlith dynion. Duw.—Y mae i bob bôd, dynsawd, a pheth, ryw enw neillduol wrth yr hwn yr adnabyddir ac y gwahaniaethir ef. Golygir fod y cyfryw enw yn briodol i natur y cyfryw fôd, neu er ei wabaniaethu oddiwrth fôdau ereill er cyfleusdra cymdeithas- iad. Y mae enwau, gan hyny, a ddynodant naturiaeth bôdau, ac ereill er eu gwa- haniaethiad: yr olaf a ddemyddir fel enwau cyífredin dynion. Y mae i'r Boü Mawr wahanol enwau yn y Bibl, a hwn yn ein testyn yw un o'r cyfryw. Nid yw yr enw hwn yn cynwys eglurhad cyflawn o'r hyn sydd yn angenrheidiol mewn Bôd Cyntefig—afirst cause. Yr enwau cyferbyniol iddo mewn ieithoedd ereill ydynt yr un mor ddifl'ygiol. Theos yn y Groeg, Deus yn y Lladin, a Duw yn y Gymraeg. Y gair God yn y Saesoneg, yn ol barn rhai, a gynwys y meddylddrych am y Bôd Mawr fel Llywydd—the Supreme Magistrate. Golygirgan ereill ei fod yn tarddu ddûwch neu dywyllwch, h. y. goíeuni."—" That is beyond the state of blachness or darkncss—that is UgM." Gan hyny, yn ol yr ystyr Gymreig, gwneir y Bôd Maior yn oleuni; eithr ni chawn yno angenrheidiau Bôd Cyntefìg. Yr unig enwad sy genym yn y Bibl i arddangos natur y Bôd hwn ydyw Jehofah, yr hwn aneillduodd yn hollol iddo ei hunan. Ystyrir y Bôd hwn bob amser, un ai yn ei natur (nid ei hanfod) neu yn ei berthynasau : yn ei natur, sef yr hyn yw yn hollol ynddo ei hun; 42