Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 207.]"" ~HŸDRÌÎW852~~ [Cyf. XVII. SEFYLLFA Y BYD PAGANALDD. GAN Y PARCH. W. JENKINS, NANTYGLO. Y FA"RN gyffredin a goleddir yn eithaf priodol yn mhlith dynion y\v, fod dyn yn fôd crefyddol, a nodweddir ef, braidd yn ddyeithriad gan yr athronyddion dysgedicaf, yn greadur crefyddol. Pa un a oes greddf naturiol yn ei ogwyddo i gynyg addoliad i ryw wrthrych goruchel, yn annibynol ar amgylchiadau allanol, ai nid oes ? ni chaf gynyg benderfynu, ond ei fod wedi ei gynysgaethu â galluoedd priodol i garu, parchu, ac addoli y cyfryw wrthrych, sydd eithaf amîwg i bob sylwedydd diragfarn ; ond yr egwyddor sydd yn cyffroi y cyfryw gymhwysderau i ysbryd addolgar sy ddirgelwch y dadleuwyd cryn lawer yn ei gylch, a mwy na thebyg y dadleuir llawer yn mhellach cyn y Uwyddir i'w ddadrus a'i ddeongli i foddlonrwydd. Mỳn rhai fod greddf naturiol wedi ei phlanu gan Awdwr natur yn nghyfansoddiad pob creadur rhesymol, yr hon a'i gogwydda i gynyg addoliad i ryw wrthrych yn annibynol ar gymeliion allanol. Ereill a haerant nad oes ynddo yr un rhitheg (ideaj gynhenid (innate) am fôd goruchel, ac felly ei fod yn am- ddifad o reddf naturiol i addoli—fod yr oll rhitheigiau a thueddiadau a fedd, yn ífrwyth myfyrdod a sylw—fod Duw wedi ei gynysgaethu â galluoedd cymhwys i ymresymu ac olrheinio gwahanol effeithiau, adnabyddus iddo, i'w achosion gwreidd- iol, a thrwy iawn ddefnyddiad o'r galluoedd mawrwych hyn y geill olrheinio cad- wyn fawr creadigaeth o dorch i dorch, nes cyrhaedd y prif a'r dechreuol achos o'r cwbl, sef Duw; ac nad ydyw tueddiadau addolgar mewn dyn amgen effeithiau naturiol ymchwilion rheswm. Ereill a briodolant yr oll i ddylanwad traddodiadau : fod yr Anfeidrol yn gyntaf wedi rhoddi hysbysiaeth i ddyn o'i fodolaeth, ac i fod yr hysbysiaeth hòno wedi ei throsglwyddo i waered o dad i fab, trwy olynol oesau a dilynol genedlaethau'r ddaear, ac felly fod yr holl rhithegiau a fedd y byd am Dduw yn olrheiniedig i ddadguddiad a thraddodiad. Dywed Locke, yn ei draeth- awd anfarwol ar y Dealldwriaeth, fod teithwyr wedi cael allan amryw genedloedd cyfain, cwbl amddifaid o bob olion gwybodaeth am unrhyw wrthrych i'w addoli. Moífat hefyd, yn ei deithiau cenadol, a grybwÿlla am un genedlaeth a gyfarfydd- odd yntau wedi ymsuddo i'r sefyllfa ddiraddiol hon. Ond rhaid addef nad yw y profion yma ond eithriadau i'r rheol gyffredin, oblegid y rhif luosocaf o lawer o drigolion y byd a addolant rywbeth; pa un ai oddiar gyffroadau gwreiddiol eu natur, casgliadau rheswm, effaith traddodiad, neu unol ddylanwad yr oll, nis gwn; penderfyned yr arddansoddwyr, os gallant—dyna y pwnc iddynt. Ond trwy lewyrch lamp dadguddiad, a gweithredoedd aruthrol creadigaeth, gallwn ninau yn ê'ofn benderfynu hyn, sef, bod un, a dim ond un, Duw Goruchaf, tragwyddol, an- farwol, a hunanfodol, teilwng o addoliad a chrefyddol wasanaeth bôdau rhesymol; a thrwy gyfrwng hanesyddiaeth, cawn allan y ffaith dòrcalonus, fod y rhif luosocaf o resymolion ein daear ni wedi syrthio i afael eilun-addoliaeth a'i greulonderau cysylltiedig; yn lle addoli y gwir a'r bywiol Dduw, dyrchafant goed eu cerf- ddelwau, a gweddiant ar dduwiau nad allant achub. Dichon fod llawer yn barod i dybied, Avrth ddarllen y dysgrifiadau gwasgaredig ar hyd meusydd yr Ysgry- thyrau, o ddynion yn ymgrymu o flaen darnau difywyd o goed, a chynyg addoliâd i ddelwau cerfíedig, nad ydynt ond adroddiadau o ffolinebau yr oesoedd tywyllion cynteíìg, ond eu bod yn hollol anarferedig yn yr oes oleuedig hon, yr hon sy mor ymffrostgar yn ei diwygiadau addysgol, masnachol, a chelfyddydol. Ond O! ymgesglwch, a deuwch, cydneshewch rai diangol y cenedloedd, a gwelwch filiynau, 38