Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 206.] MEDL 1852 [Cyf. XVII. BYW A MARW l'R ARGLWYDD. GAN Y PARCH, M. LEWIS, TREFFYNON. Pregeth a draddodwyd yn Ebenezer, Gelli, (Hay,) Brycheiniog, nos Sul, Mehefîn 6fed, 1852, ar yr achlysur o farwolaeth y Parch. Ebeuezer Griffitbs, o Biliingshurst, Sussex, unig fab y Parch. David Griffiths, Gelli,(gynt o Fadagascar,) gweinidog yr addoldŷ uchod. " Canys nid oes yr un o honom yn byw iddo ei hun, ac nid yw yr un yn marw iddo ei hun ; canys pa un bynag yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw ; ai marw, i'r Arglwydd yr ydyni yn marw : am hyny, pa un bynag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydyni. Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr adgyfododd, ac y bu fyw drachefn hcfyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw hefyd," Ehuf. 14, 7—9. Y mae mwy nag un cysylltiad yn bod rhwng yr adegau pwysig a nodir yn y testyn, sef, bywyd a marwolaeth. Un ydyw y cysylltiad naturiol ac anianyddol sydd rhyngddynt ; ond y mae cysyllt- iad felly yn bod rhwng bywyd a marw- olaeth anifail. Mae cysylltiad moes- ol rhwng bywyd a marwolaeth dyn, â hflnw y bydd a wnelom yn y sylw- adau hyn. Y mae yr egwyddorion a'r ymddygiadau moesol a nodweddant fywyd dyn, yn dylanwadu ar ei farwol- aeth yn y fath fodd ag i'w wneuthur naill ai yn ddychrynllyd o druenus, neu yn orfoleddus o ddedwydd iddo ef ei hun ; ac yn achos naill ai o drallod annyddanad- wy neu o'r cysur melysijt' i'r cylch hwnw o berthynasau a chyfeillion â pha rai mewn bywyd yr oedd yn gysylltiedig. Arweinir ni at y pwnc yma yn awr gan farwolaeth un ag yr oedd ei fywyd yn addurnedig â phrydferthion rhinwedd a chrefydd, yr hwn a brofudd yn angau " y tangnefedd sydd uwchlaw pob deali;" y niae cylch ëang o gyfeillion a pher- thynasau yn tywallt dagrau galar o her- wydd ei ymadawiad, ond y maent yn gymysgedig â dagrau o lawenydd, o her- "Wydd y seiliau crytìon sydd ganddynt i predu ei fod heddyw yn y presenoldeb hwnw lle mae " digonolrwydd llawen- 5'dd," ac " ar y ddeheulaw" lle y mae " digrifwch yn dragywydd.'' Cyferfyad amryw bethau yn ei farwolaeth a'i gwna vn ddyddorawl. Y mae rhyw ddyddor- deb yn marwolaeth pob dyn. Pe trengai yr holl greadii>aeth anifeilaidd ar un waith, ni byddai ond peth dibwys mewn cy- mhariaeth i farwolaeth un dyn—un cre- adur rhesymol, cyfrifol, ac anfarwol. Y rnae dan ein sylw yn bresenol farwolaeth dyn ieuanc, nid un a fu byw i oedran teg, ac a fu farw yn unig am fod y tymor hwyaf a ganiateir i ddyn ar y ddaear wedi ei dreulio ganddo oedd ein brawd ymadawedig; ond un ag oedd newydd gyrhaedd y radd hòno o'i einioes a elwir dynoed—un ag oedd newydd ddyfod i feddiant o alluoedd diwylliedig ac ysbryd penderfynol dyn ; a phan yr oedd yn wynebu ar y cyleh ag oedd yn fwyaf eydunol â'i atrchwaeth, wele ef wedi ei dòri i lawr gan law ddiarbedol angau. Machludodd ei haul a hi eto yn ddydd, ie, y rhan foreol o'r dydd—ni chyrhaedd- odd nawn. Yr ydym yn cyfeirio at farwolaeth Cristion ieuanc, ac Ö ! na bae pob dyn ieuanc sydd yn marw yn Grist- ion—0 ! na bae pob dyn ieuanc sydd yn byw yn Gristion. Nid ydyw bod yn (iiistion yn diogelu dyn rhag " brenin y dychryniadau," ond y mae yn ei ddio- gelu rhag dychryniadau yBrenin. Ych- wauegir dyddordeb at yr amgylchiad hwn gan y fí'aith fod ein hanwyl frawd yn tceinidog ieuanc. Yr oedd wedi cof- îeidio crefydd Crist, wedi yfed yn hélaeth o'i bysbryd, wedi mwynhau ei chysuron, ac wedi cysegru ei alluoedd, ei ddysg- eidiaeth, a'i fywyd i enill ereill i wneu- thur hyny. Ganwyd Ebenezer GrifHths ar faes y Gcnadaeth Dramor, yn ynys hynod Madagascar, lle y bu ei dad yn llafurio am oddeutu ugain mlynedd. Mewn can- lyniad i waliarddiad creulawn brenines yr ynys hòno i'r Cenadau ddysgu ei deiliaid yn y grefydd Gristionogol, daeth gyda'i rieni i'r wlad hon yn 1836. Dych- welodd gyda'i dad i Fadagascar yn 1838 i gynorthwyo y Cristionogion erlidiedig. Gwnaeth y golygfeydd a welodd yno—yr erlidigaethau dychrynllyd, a sêl anorch- fygol y Cristionogion yn wyneb merthyr- d'od ei hun—argraff ddwys ar ei feddwl, yr hon a ddyfnhawyd pan gondemniwyd 34