Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 205.] AWST, 1852. [Cyf. XVII. GWLEIDIADAETH BRESENOL CYMRU. GAN Y PARCH, JOHN DAYIES, LLANELLI. Mah yn hysbys i'n darllenwyr i gyfnewidiad mawr gymeryd lle yn nghynrychioliad y werin yn Senedd-dŷ Prydain Fawr drwy Ysgrif y Diwygiad, yr hon a basiwyd yn y flwyddyn 1832. Cafodd Cymru, fel rhanau ereill o'r Deyrnas Gyfunol, ei chyfran o'r hawliau ychwanegol a ganiatawyd trwy yr ysgrif hon. Ceir gweled y cyfnewid- iadau a effeithiodd ar gynrychiolaeth ein gwlad yn ein sylwadau ar y gwahanol fwr- deisdrefi a'r siroedd, ac yn neillduol yn y casgliad byr a ddilyna hyny o'r prif gyfrifon a'r ffeithiau perthynol i Wleidiadaeth bresenol Cymru. Parodd yr ysgrif a nodwyd i gynrychiolaeth y deyrnas i sefyll yn y dull canlynol yn ganlynol i 1832 :— I. Elholwyr Sirol mewn cymhariaeth i boblogaeth y Siroedd. Lloegr—rhoddodd bleidlais i un yn mhob 24. Cymru—rhoddodd bleidlais i un yn mhob 23. Alban—rhoddodd bleidlais i uu yn rahob 45. Iwerddon—rheddoddbleidlaisiunyn mhob 115. Prydain Fawr—rhoddodd lais i un yo mhob 25. Y Deyrnas Gyfunol—llais i un yn mhob 37. II. Etholwyr Bwrdeisdrefol mewn cymhariaeth i boblogaeth y Bwrdeisdrefi. Lloegr—rhoddodd bleidlais i un yn mhob 17. Cymru—rhoddodd bleidlais i un yn mhob 17. Alban—rhoddodd bleidlais i un yn mhob 87. Iwerddon—rhoddodd bleidlais i un yn mhob22. Prydain Fawr—rhoddodd lais i un yn nihob 25. Y Deyrnas Gyfunol—llais i un yn mhob 18. III. bobl. Aelodau Seneddol mewn cymhariaeth í'r ogaelh. Lloegr—un aelod i bob 27,794 o bersonau. Cymru—un aelod i bob 27,799 o bersonau. Alban—un aelod i bob 44,624 o bersonau. Iwerddon—un aelod i bob 73,975 o bersonau. Prydain Fawr—aelod i bob 29,407 o bersonau Y Deyrnas Gyfunol—aelod i bob 36,519 eto. IV. Aelodau Seneddol mewn cymhariaelh i'r olwyr. Lloegr—un aelod i bob 1,314 o etholwyr. Cymru—un aelod i bob 1,280 o ethfilwyr. Alban—un aelod i bob 1,215 o etholwyr. Iwerddon—un aelod i bob 887 o etholwyr. Prydain Fawr—aelod i bob 1,303 o etholwyr. Y Deyrnas Gyfunol—aelod i bob 1,235 eto. eth- Fe allai mai nid cwbl anmherthynasol i'n testyn, nac hollol annyddorol i'n dar- Uenwyr, fyddai i ni nodi parhad y gwahanol Seneddau a eisteadasant oddiar pan basiwyd " Ysgrif y Diwygiad." Y Senedd ddiwygiedig gyntaf ydoedd y drydedd a gymerodd le o dan deyrnasiad Gwilym IV. Cyfarfu hon ar y 29ain o Ionawr, 1833. Newidiwyd y Weinyddiaeth yn Tachwedd, 1834, a diddymwyd y Senedd ar yr 28ain o Ragfjr canlynol. Par- haodd yr eisteddiad un flwyddyn ac un mis ar ddeg. Cyfarfu y Senedd ganlynol, yr hon ydoedd y ddiweddaf o dan Gwilym IV., ar y 19eg o Chwefror, 1834. O herwydd marwolaeth Gwilym, a dyfodiad Penadur newydd i*r orsedd ar yr 20fed o Fehefin, 1837, diddymwyd yr eisteddiad ar yr 17eg o Gorphenaf canlynol. Parhaodd ddwy flynedd, pedwar mis, ac wyth diwrnod ar ugain. Y Senedd nesaf, a'r gyntaf o dan deyrnasiad Victoria, a gyfarfu ar y lófed o Dachwedd, 1837. Enillwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn y Weinyddiaeth, drwy fwyafrif o un, yn mis Mai, 1841, a diddymwyd y Senedd ar y 22am o Fehefin can- tynol. Hŷd yr eisteddiad ydoedd tair blynedd, saith mis, a saith diwrnod. Ymgynullodd y nesaf, sef yr ail dan deyrnasiad Victoria, ar y 19eg o Awst, 1841, a diddymwyd hi ar y 23ain o Gorphenaf, 1847, wedi iddi eistedd am bum mlynedd, un mis ar ddeg, a phedwar diwrnod. Yn v Senedd hon yr enillodd^Syr Robert Peel ei fuddugoliaeth fyth-j." íiadwy ar y Diffyndollwyr drwy ddilead Deddfau yr Yd.^ Galwyd trydedd Senedd Victoria i gyfarfod ar y 18fed o Dachwedd, 1847. Gor- Phenodd hon y bedwaredd flwyddyn o'i heisteddiad ar y I8fed o Dachwedd, 1851, ao y 30