Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 204.] GORPHENAF, 1852. [Cyf. XVII. HUNAN-ADNABYDDIAETH. GAN Y PARCH- DAVID PHILLIPS, OARFAN. (Parhad o'r Rhifjn dìweddaf, tu-dal. 172.) Codir gwrthddadl eto oddiwrth Heb. 2, 15, "Ac y gwaredai hwynt y rhai drwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed." Nis gwn beth a all fod yn yr adnodyma ag sydd, yn y mesurlleiaf, yn gwrthdaro sicrwydd. Gallem feddwl ei fod yn cael ei brofi yma yn amlwg. Yr ydym yn meddwl ein bod wedi dangos yn eglurfod sicrwydd am y cyfiwr yn bosibl, oddiwrth amryw ymadroddion ysgrythyrol yn gystal ag oddiwrth deimladau duwiolion y Bibl; os felly, gallwn fod yn hollol sicr nad oes un rhan arall o'r Bibl yn gwrthdaro yr athrawiaeth yma. Mae y Bibl yn llyfr hollol gyson ; nid oes un rhan yn gwrthdaro neu yn tynu i lawr ran arall. Mae hyn yn un ddadl greí iawn dros ei Ddwyfoldeb. Pe fel arall, ni fuasai yn deilwng o Dduw. Yn awr, ni a gawn edrych ar y geiriau, i gaei gweled a oes rhywbeth ynddynt ag sydd yn gwrthdaro ein pwnc. Os wrth ofn marwolaeth yma y golygir ofn marwolaeth naturiol, ac fod dynion da yn byw drwy eu hoes dan ddylanwad yr ofn yma, yna gofynwn, beth a all fod yn hyn ag sydd yn gwrthdaro yr hyder cryfaf am ddiogelwch y cytìwr? Y'r ydym yn addef fod dynion da yn gyffredin yn ofni marw fel amgylchiad ; ond cydsaif hyn â'r hyder uwchaf am ddiogelwch y cyflwr • 2 Cor. 5, 1—4. Nid oedd Paul yn chwenych ei ddiosg, ond nid am ei fod yn amheu, yn y mesur lleiaf, ddiogelwch ei gyflwr; oblegid yn yr adnod flaenaf dywed, " Canyg ni a wyddom os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw," &c. Ond os wrth ofn marwolaeth yma y golygir ofn canlyn- iadau marw, neu gosb dragwyddol, yna beiddiwn ddywedyd, ar awdurdod y Bibl, nad yw y dyn duwiol drwy ei oes yn byw dan ddylanwad yr ofn hwn. Wrth yr " hwynt" yn yr adnod tan sylw, y mae Whitby a Macknight yn golygu y Cenedl- oedd, y rhai na feddent Ddadguddiad oddiwrth Dduw ; ac yn ngwyneb eu bod yn ymwybodol eu bod yn bechaduriaid, ac na wyddent am un drefn o eiddo Duw i faddeu pechod, eu bod trwy eu hoes dan ddylanwad ofn wrth feddwl am angau a byd dyfodol. Gellir dywedyd yr un peth am bawb ag sydd yn gwrthod yr iach- awdwriaeth ag sydd trwy Grist, er eu bod yn meddu Dadguddiad, maent drwy eu hoes yn byw dan ddylanwad ofn cosb. Ond nid felly gyda golwg ar y cyfryw sydd wedi dyfod at Grist, ar ol iddynt ddyfod ato. Cyn dyfod at Grist, yr oeddynt felly fel ereill, ond nid wedi hyny. Dywedir yma fod Crist wedi profi marwolaeth, fel y gwaredai hwynt, y rhai, drwy ofn marwolaeth, oeddynt dros eu holl fywyd mewn caethiwed. Mae yn amlwg, ni a allem feddwl, mai amcan yr apostol ymayw dangos cyflwr dynion cyn'clerbyn Crist fel Gwaredwr, ac nid wedi ei dderbyn. Cyn ei dderbyn, yr oeddynt dan ddylanwad ofn marwolaeth fel ereill ; ond wedi ei dderbyn, yr oedd Crist yn eu gwaredu oddiwrth ofn y gosb, yn gystal â'r gosb ei hun. Nodwn amryw adnodau er dangos hyn,—Ioan 8, 36; Rhuf. 8, 1, 2; Gal. 5, 1 ; íthuf. 8, 15 ; 1 Ioan 4, 18. Gallem feddwl, wrth sylwi ar.yr adnodau uchod, fod Cristyn gwaredu pawb sydd yn dyfod ato yn y byd hwn oddiwrth arglwyddiaeth pechod, yn nghyd âg oddiwrth ofn y gosb gysylltiedig âg ef; ac felly, nad yw dynion da, wedi dyfod ato, yn byw dan ddylanwad yr ofn yma. Mae hyn yn cael ei ddangos yn eglur hefyd yn addewid Crist i'r blinderog, &c. Beth all fod yr esmwythâd y sonia am dano os nad yw yn cynwys symudiad ymaith ofn canlyniadau pechod? Gwrthddadleuir yn erbyn y golygiad yma yn mhellaeh, drwy ddywedyd mai pwnc o obaith yw diogelwch eu cyflwr gan y dynion gorau tra yn y byd hwn. Mae pawb, am a wn I, yn cyduno mai pethau dyfodol yn unig ydyw gwrthrychau gobaith. " Trwy obaith y'n iachâwyd ; eithr y gobaith a welir, nid yw obaith : oblegid y peth 26