Skip to main content

Y DIWYGIWE. Rhif. 203.] MEHEFIN, 1852. [Cyf. XVII. HUNAN-ADNAB YDDIAE TH. GAN Y PARCHi DAVID PHILLIPS, CARFAN- " Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd í"—Paol. Tn y geiriau yma y mae'r apostol yn galw ar y Corinthiaid i brofi eu hunain. Mae yn debyg fod dosbarth yn eglwys Corinth, ag ydoedd yn esgeulus iawn o'r ddyled- swydd "hon, ac yn hoff iawn o brofi a barnu dynion ereill. Nid oedd yr apostol Paul ei hun wedi dianc eu beirniadaeth—amheuent ei Ddwyfol-neillduad i'r swydd apostolaidd. Yn y pennodau blaenorol y mae'r apostol yn dwyn amryw resymau yn mlaen er amddiffyn ei hun yn ngwyneb y fath farn gul ac anghywir, ac yna yn y testyn y mae yn galw arnynt at waith mwy priodol ac angenrheidiol iddynt eu hun- ain, sef edrych gartref. Peth anhawdd iawn yw cael gan ddynion i edrych gartref, gwell ganddynt edrych ar bawb a phob peth, nag edrych i'w calonau eu hunain, ac oblegid hyny y maent yn gwybod mwy am bawb a phob peth braidd, nag am eu calonau eu hunain. Er eu bod yn dwyn eu calonau gyda hwy i bob man, a chyf- leusdra ganddynt i droi i mewn a'u chwilio bob amser ; eto y mae dynion yn gyff- redin yn fwy dyeithr i sefyllfa ysbrydol eu meddyliau nag i ddim. arall. Diffyg na bai dynion yn edrych i mewn i'w calonau yn amlach, yw'r achos eu bod mor anwy- bodus am danynt eu hunain, ac mor aml yn twyllo eu hunain. Pe feai pawb yn fwy cydwybodol gyda hyn, buasent yn gwybod yn well eu gwir gyflwr gerbron Duw. Mae y rhan fwyaf yn gwybod pa le y maent yn sefyll gyda golwg ar eu hamgylch- iadau tymorol—gwyddant faint sydd yn myned allan ac yn dyfod i mewn bob tymor—pa fodd y mae eu hamgylchiadau yn sefyll yn eu perthynas à dynion—pa fodd y cadwant gyfrifon o'u holl amgylchiadau, ac edrychant drostynt yn aml. Pe bai dynion yn ymddwyn yr un fath mewn ystyr ysbrydol, yn cadw cyfrif manol o deimladau a gweithrediadau eu calonau, buasai yn hawdd iddynt fod yn adnabyddus o'u gwir nodweddiad ; ond os esgeulusir y ddyledswydd yma, y maent yn rhwym o fod mewn tywyllwch, a phwy ryfedd? Felly y byddent gyda phethau ereill pe ymddygent yr un fath. Yn hytrach gan hyny nag amheu y posiblrwydd o hunan- adnabyddiaeth, gwnaed pob dyn gyngor y testyn yn aml, yna os yw'r apostol yn dweyd y gwir, ceir hunan-adnabyddiaeth. AMCANWN BROFI FOD HUNAN-ADNABYDDIAETH TN B0SIBL ; MEWN GEIRIAU EREILL, Y GALL POB DYN DUWIOL WYBOD A YDYW YN Y FFYDD, FOD CRIST YNDDO, NEÜ EI FOD YN DDYN DUWIOL. Profir hyn gan amryw orchymynion y Bibl.—Nodwn rai o honynt.—Mae y testyn yn dangos hyn yn amlwg. Os nad yw yn bosibl i ni wybod a ydym yn y ffydd, h. y., yn meddu ar ffydd gadwedigol yn yr efengyl; os nad yw yn bosibl i ni wybod a ydyw Crist ynom, h. y., yn ei lywodraeth yn teyrnasu yn ein calonau, paham y gorchymynir ni holi ein hunain i'r cyfryw berwyí ? Ar y fath dybiaeth byddai y fath orchymyn yn gwbl afresymol. Golyger fod brenin daearol yn ffurfio deddf yn rhwymo pawb o'i ddeiliaid i wneud rhywbeth na feddai neb o honynt ar gymwysderau naturiol tuag at ei chyflawni, oni fyddai pawb yn edrych ar y fath ddeddf yn un orthrymus, ac ar y brenin a'i ffurfiai fel adyn creulon, calongaled, ac afresymol ? Byddai yn ddiamheu. Yn awr, a ydyw yn briodol i ni briodoli i Dduw yr hyn fuasai yn annheilwng o ddyn eyfiawn a gonest. Gorchymyna Duw ni yn y testyn i brofiein hunain, aydym yn y ffydd, &c, a rhaid gan hyny fod hyny yn bosibl, neu fod Duw yn gorchymyn yr hyn sydd afretymol a chreulon. Pa un o'r ddau sydd orau i'w gredu, onid y blaenaf ? •« Profed pob un ei waith ei hun,(medd yr apostol ttewn man arall) u yna caiff oifoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall: Gal. 6. 4 Gorchymynir yma fel yn y testyn, i bob un brofi ei waith ei hun, ac yna gosodir ef i lawr fel ffaith ddiamheuol, y caiff pob un orfoledd ynddo ei hun ; ond gofynaf pa fodd y gellir cael gorfoledd meddwl wrth brofi ein gwaith, os nad yw y 22