Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 202.] MAI, 1852. [Cyf. XVII. BETH YW CRIST10N0GAETH? GAN Y PARCHt RHYS JONES, RHAIADR. " Ni a chwenychem wybod genyt beth yw y ddysg newydd hon."—Athesiaid. Cristíonogaeth yw prif ryfeddod y byd—prif wrthrych sylw angelion—prif gampwaith y Duwdod—a phrif rodd Jehofa i ddyn. Nid rhyfedd, ynte, ei bod wedi tynu cymaint o sylw y byd, ac wedi effeithio cymaint ar gymdeithas yn gyff- redinol. Pa le bynag y mae Cristionogaeth wedi cyrhaedd, y mae wedi gwneud cyfnewidiad ar agweddau a moesau y trigolion. Mae wedi rhoddi iddynt ddrych- feddyliau newyddion, amlygu iddynt ddyledswyddau newyddion, a chynyrchu yn eu plith arferiadau newyddion. Canfyddir ei hol ar gymdeithas yn gyffredinol: teimlir ei dylanwad gan bob graddau, a gwelir ei heffeithiau ar holl lênoriaeth gwledydd cred. Ond er cymaint o ddylanwad fu gan Gristionogaeth ar y byd, tebyg na fu erioed gymaint o ddylanwad ganddi, a chymaint o sylw yn cael ei gymeryd o honi er dyddiau Crist ei hun, ag sydd yn yr oes bresenol. Nid oes yr un llyfr yn dyfod allan o'r wasg nad yw yr awdwr yn hòni rhyw berthynas â Christionogaeth. Os mai llyfr ar Ddaeareg fydd, gofala yr awdwr cyn y diwedd ddangos nad yw ei osodiadau yn milwrio dim yn erbyn gwirioneddau pwysig Cristionogaeth. Os mai llyfr ar Seryddiaeth fydd, gofala y Seryddwr ddangos fod ei ddarganfyddiadau yn cyd-daro â'r Dadguddiad Dwyfol. Ond heblaw fod pob llyfr yn talu sylw neillduol i Gristionogaeth, y mae amrywiol yn cael eu hys- grifenu ar Gristionogaeth yn ei gwahanol ddullweddau, fel yr ymddengys o flaen llygaid yr awdwr pan yn edrych arni. Mae tuedd mwy neu lái yn mhob ysgrif- enyfld i arddangos Cristionogaeth y fath beth ag a ddymunai ef iddi fod, neu ynte y fath beth ag yr arweinir ef i'w chanfod pan yn edrych arni drwy gyfrwng ei ragfarn, ei athroniaeth, neu ei hunanoldeb. Fel hyn, arweiniwyd Deistiaid Seisonig yn y ddwyfed ganrif ar bymtheg, i osod Cristionogaeth allan feì perffeithiad o grefydd natur. Dywedent nad yw yn amlygu dim ond yr hyn oedd amlwg i'r holl fyd, y gwanaf yn gystal a'r cryfaf ei gyrhaeddiadau ; ac nas gallasai Duw wneud ei ewyllys yn fwy adnabyddus i ddyn nag y mae wedi ei gwneuthur mewn natur, hyd yn nod pe buasai yn cyfiawni gwyrthiau er amlyguei feddwl. Dywedai Rhesymiaid Germany nad yw Cristionogaeth ond enw arall ar Foeseg—mai prif amcan y Bibl yw gwneud dynion yn foesol; ac oblegid hyn, y dylai esbonwyr beidio chwilio, gan na allant gael dim arall ond Moeseg bur ynddo, pa un bynag ai yn amlygedig neu yn guddiedig. Gosodant Reswm fel prif-farnydd mewn perthynas i grefydd a moesau; ac o ganlyniad, cauant allan Ddadguddiad. Gwir nad oedd Rant'a'i ganlynwyr yn gwrthod Dadguddiad yn hollol; ond yr oeddynt yn cyfnewid ei ystyr. " Y grefydd yn yr hon yr ydym yn gorfod cydnabod rhywbeth fel gorchymyn Dwyfol yw y grefydd ddadguddiedig, a'r grefydd hòno yn yr hon y dylem ganfod ein dyledswydd cyn gwybod fod Duw gwedi gorchymyn, yw crefydd natur. Gall crefydd fod ar yr un pryd yn naturiol a daaguddiedig, os bydd wedi ei chyfansoddi yn y fath fodd fel y gallai ac y dylai dyn gyrhaedd adnabyddiaeth o honi drwy ei reswm yn unig. Mae yn angenrheidiol, yn mhob amgylchiad, i'r grefydd ddad- guddiedig gael ei chadw mewn traddodiadau neillduol, neu lyfrau cysegredig. Collid hi o'r byd oni bae ei bod yp cael ei galw o flaen y cyhoedd o amser i amser, neu ynte rhaid fod dadguddiad parhaus yn cael ei roddi i feddwl pob dyn." Safai Stara mewn synfyfyrdod i syllu ar yr hyn sydd oruwch-naturiol a rhyfeddol mewn 18