Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 200.] MAWRTH, 1852. [Cyf. XVII. YR YSGOL SABBOTHOL. QAN Y PARCH, WILLIAM W1LHAMS, HIRWAUN. 1. Cychwyniad yr Ysgol Sahhofhol.—Pan sefydlodd yr Arglwydd hon gyntaf yn Nghyinru, edrychwyd arni yn graíf: barnwyd hi gan lawer, a phenderfynodd amryw nidyn unig ei bod yn ddiniwaid, ond ei bod o duedd ddaionus; gwnaeth- ant eu gorau i'w nhoddi a'i hamddiífyn, a rhoddasant eu hedl ddylanwado'i phlaid. Edrychid arni gan ereill yn gilwgus, siaradent yn sarug am dani, a phentyrent ar ei phen bob melldith a rheg a feddent Bu gyfyng arni mewn llawer ardal, fel ar Moses bach yn y cawell llafrwyn; ond cafodd ei bywyd o'r braidd, ac y mae hyd heddyw yn gadwedig. Cafodd ei sefydlu gan ddynion a feddent gariad at Dduw, a thosturi at eu cenedl; ac er nad oeddynt ond ychydig o ran rhif, eto gwnaethant bethau mawrion. Cysegrid yr amser ar y cyntaf gan mwyaf i ddysgu darllen ; dechreuid gyda yr egwyddor, wedi hyny sillebu. Byddid yn darllen llawer o'r Bibl gan y rhai a fedrent hyny, a gofynid weithiau ofyniad oddiwrth y pethau a ddarllenid; ond anfynych y cymerai hyny le y pryd hwnw. Dechreuid trwy ddarllen, cànu, a gweddio, os byddai r'hai addas at hyny yn bresenol. Arferid mewn rhai manau, ar y diwedd, holwyddori y plant, drwy ofyn, Pwy a'ch gwnaeth chwi? Pa sawl rhan sy mewn dyn ? &c. Dybenid trwy weddi a chânu. 2. Sefydliad Cymanfa yr Ysgolion ac adroddiad pynciau.—Yn nglŷn â'r petha-d blaenorol, daeth yr arferiad o adrodd catechismau i mewn. Parodd hyn i Gyman- faoedd Ysgolion i gael eu sefydlu ar y Sabboth, y Pasg, y Sulgwyn, a'r Nadolig. Anogid y plant i ddysgu cynifer o ranau o'r Bibl ag a fedrent, fel y byddent yn alluog i ateb yr holiedydd o'r Bibl. Gwnaeth llawer o honynt hynodi eu hunain mewn coíìo yr Ysgrythyrau drwy y dull hwn. Byddent yn eu hadrodd yn nglŷn â'r pwnc, o flaen y pwnc, ac o flaen pregethau. Borau rhyfedd fyddai borau Cy- manfa yr Ysgolion : byddai yr holl gymydogaeth lle y cynelid hi yn llawn cyffroad trwyddi oll. Tua naw o'r gloch y borau, byddai yr holl ysgolion yn ymdyru yn nghyd o bob pwynt i'r gymydogaeth—byddai cânu y naill ysgol yn adsain y llaìl; ac er nad oedd y beroriaeth, o ran y gelfyddyd o honi, ond gwael ac annhrwsiadus iawn, eto, a'i chymeryd fel ei ceir mewn natur, heb ei thrwsio â chelfyddyd, gellir dywedyd ei bod y pryd hwn mor gyffrous a dylanwadol ag unrhyw bryd. Wedi i'r ysgolion gyfleu eu hunain yn eu lleoedd priodol, dechreuid y Gymanfa yn ein trefn arferol o ddechreu addoliad Dwyfol, adroddid y pynciau gyda rhwyddineb, cenid yr hymnau gyda gwres, a byddai yr holiedydd a'r ysgol yn rhoddi eu holí egni i'r pwnc. Ond y peth hynodaf oedd yr effaith a'r dylanwad grymus fyddai yn cydfyned â'r moddion hyn. Gallesid meddwl eu bod wedi eu heneinio â dy- lanwad yr Ysbryd Glán; yr oedd pob peth yn gwneud ei ffordd i deimlad y bobl; yr oedd adroddiad y bennod, cânu yr hymn, gweddi y pregethwr, ac adroddiad y pwnc, yn cael eu gwlychu â dagrau y gynulleidfa. 3. Y Cymanfaoedd yn achlysur llygredigaeth.—Buwyd am rai blyneddau yn dal i fyny y Cymanfaoedd hyn, yn y rhai y cyfarfyddai yr ysgolion o fewn cylch deg milldir o gwmpas i adrodd eu pynciau a'u pennodau, a chânu eu tônau, nes y darfu iddynt dynu sylw yr holl wlad at yr Ysgol Sabbothol, a'i dyrchafu i gjTner- adwyaeth dra chyffredin. Ond nid hir y parhäodd y Cymanfaoedd heb achlysuru llygredigaeth. Ehedwyd mor bell i ysbryd cystadleuaeth, nes i luaws anghofio dyben y sefydliad, sef achub eneidiau a gogoneddu Duw. Canlyuid yr ysgohon i'r gwahanol gymydoga«ŵau gan luaw» o ddiodwyr a meddwon, p»chodau ac afrool-