Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 199.] iCHWEFRORTlööír^ [Cyf. XVII. MYTHAU CYMREIG. GAN Y PARCH. JOHN LL. JONES, TYDDEWI. Y mae hanes Cymru heb gael ei ysgrifenu eto; nid hanes ei rhyfeloedd, ei brenin- oedd, &c, yn gymaint a hanes ei harferion teuluol a thylwythol, a'r gwahanol ddylanwadau a effeithient gyfnewidiadau yn meddyliau a bywydau y bobl yn gyffredin, y rhai ydynt yn fynych y gwir achosion o'r rhyfeloedd a'r chwyldro- adau mwyaf pwysig. Nid traws-lywodraeth Siarl I. oedd yr achos o'r chwyldroad —gallasai deyrnasu 300 mlynedd yn gynt heb achos ofni y fath ganlyniadau ; felly llawer o'r ymgyrchoedd a'r rhyfeloedd Cymreig, yr oedd y tanwydd wedi cael ei drefnu, a'r gwreichion wedi cael eu lleoli, fel nad oedd gan araeth Buddug, ac adsain corn Llewelyn, ond cyneu y fflam, a pharotoi i'r frwydr. Oddiar y ffeithiau hyn, talaeth yr hanesydd yw chwilio allan yr achosion, a dangos na chynyrchasant ond eu ffrwyth naturiol. Yn hyn y mae ein holl awdwyr yn ddiffygiol, ac am hyny y mae hanes y genedl yn "ddiffygiol hefyd. Mae yn ddiamheu fod prinder ysgrifeniadau boreol yn achos o hyn i raddau pell; ond fe allai, oddiwrth hengyf- reithiau, cyfeiriadau y beirdd at arferion talaethol, &c, y gellid cyflawni y diffyg i raddau helaeth. I'r hanesydd Cymreig y mae dau rwystr neillduol ar ei lwybr, eto sy raid iddo eu gwynebu yn ei ymchwiliadau,—anmherffeithrwydd geirydd- iaeth Gymreig—llawer ffaith hanesyddol sydd yn derbyn goleuni a chadarnhad oddiwrth eiryddiaeth, a llawer ffaith yn cyínewid ei hystyr a'i gwerth drwy yr un cyfrwng,—ac hefyd, gydag ychydig eithriadau, fod hanesyddiaeth foreol y Cymry yn sylfaenedig ar weithiau y beirdd. Nid yr haneswyr mwyaf ffyddlon ydyw y beirdd; er addurno testynau eu cân, a dyrchafu cymeriad eu harwr, mae ganddynt awdurdod i dynu yn helaeth ar gread y dychymyg, a chydwau yr awyrol â'r daear- ol, fel y mae yn aml yn anhawdd dywedyd pa le y mae y gwir yn terfynu, a'r ffugiol yn dechreu. Felly yr ydoedd gyda'r Cymry; yr oeddynt yn naturiol yn awenyddol, ac yr oedd hyn yn cael ei gynyddu gan gerddoriaeth eu beirdd, a ffurf-ddefodau nosawl a dylanwad cyfrinol eu crefydd Dderwyddol. Eu beirdd oedd eu cofrestrwyr a'u haneswyr; talent iddynt y parch mwyaf, a chredent pa beth bynag a ddywedent. Os canent am arwr dychymygol a fuddugoliaethai ar bob gelyn, ac a unai briodolaethau Dwyfol a dynol yn ei berson ei hun, adseinid ei fod yn wirionedd gan filoedd y wlad, yn gystal gwreng a boneddig, a thros- glwyddid ef fel chwedl aelwyd o oes i oes. Ehag diffodd ysbryd milwraidd eu gwlad, os na chanent am farwolaeth Pendragon y fyddin, yr oedd hyny yn brawf ei fod yn fyw, er fod ei drigle yn guddiedig oddiwrth ddynion. Os na tharawent ar dant marwnad i Arthur, nid oedd Arthur wedi marw, ond yn unig ymgiliodd ef a'i farchogion i ryw amguddfa, er dal ar gyfle i ddial gyda galanasdra ar eu gelynion. Hyn, gan hyny, i raddau helaeth, yw yr achos foä hanesyddiaeth foreol y Cymry, fel cenedloedd e'reill, mor llawn o mythau.* Yn yr ysgrif hon nid ydym yn bwriadu sylwi ond ar ychydig o honynt, nac yn proffesu rhoddi fe allai lai o íoddlonrwydd i'r darllenydd ; er hyny y maent yn gofyn sylw yr hanesydd. Carn- huanawc hyd eto sydd wedi talu mwyaf o sylw iddynt. Y mwyafrif, y maent yn dangos yn eglur eu bod o darddiad cenedlaethol, a rhai o honynt wedi cael dylan- wad neillduol ar lênyddiaeth cenedloedd cymydogaethol. Oddiwrth y trioedd o sefyllfa y deyrnas yn amser Ca^sar, mae yn eglur fod tri * Defnyddiasom y gair Myth am fod ei jityr yr. sefydlog. Defnyddir chwedl am yr byn »ydd