Skip to main content

Y DIWYGIWll. Rhif. 198.] IONAWR, 185'2 [Cyf. XVIII. DYLANWAD GWEINIDOGAETH Y GBOES. GAN Y PARCH. JOHN THOMAS, GLYNNEDD, MORGANWG. Y mae croes Crist yn cael ei gosod allan yn y Bibl yn ei plierthynas â'r weinidog- aeth mewn dau olygiad j fel yr eglurhad cywiraf ar holl athrawiaethau a dyled- swyddau yr efengyl, ac fel y cymhelliad cryfaf iddynt. Croes Crist ydyic yr csbonìad egluraf arnynt. Nid oes modd deall amcan a chysylltiadau athráwiaethau yr efengyl, na chanfod priodoldeb dyledswyddau crefydd, heb edrych arnynt o Galfaria. Dyma y drych sydd yn adlewyrchu gogoniant arnynt—dyma yr haul yn nghyfundrefn yr efengyî, sydd yn taflu golau ar, a gwres i'r athrawiaethau sy fel cynifer o blanedau yn troi o'i gylch. Y mae un awdwr yn sylwi, pe cyfansodd- asai " Goríf o Dduwinyddiaeth," y dechreuasai gydag Iawn Crist fel sylfaen yr adeiladaeth neu ganolbwynt y gyfundraeth, ac oddiyno dynu llinell i bob athraw- iaeth, egwyddor, dyledswydd, ac ordinhad. Croes Crist sydd yn esbonio pob gwirionedd, yn goleuo pob athrawiaeth, yn llewyrchu ar bob dyledswydd, ac yn gwresogi pob ordinhad. Yma y mae " bywyd ac anllygredigaeth -wedi eu dwyn i oleuni"—"yr hyn oedd guddiedig er ys oesau a chenedlaethau" wedi ei ddadlenu —"mawr amryw ddoethineb Duw" wedi eu hysbysu—a'r " holl bethau yn y nef- oedd ac ar y ddaear yn Nghrist Iesu wedi eu crynhoi." Ond nid yr eglurhad y mae croes Crist yn roddi arnynt, ond y cymhelliadau iddynt, gaifF íbd dan ein sylw yn bresenol. Dylanwad Gweinidogaeth y Groes. Sylwadau eglurhaol yn arweiniol i'r mater. Wrth sefydlu dylanwad ncillduol Gweinidogaeth y Groes, dylid sylwi nad ydyw Giceinidogaeth y Groes fel trefniant o foddion yn ddigonol i gynyrchu argyhoeddiad, yn anmbynol ar ddylanwadau Dioyfol. — Y mae aberth Crist, yn ei berthynas â Duw, fel trefniant yn berffaith—"Yr hwn a osododd Duw yn Iawn," ac atebodd yr amcan yn gyflawn, ac y mae yn sail gadarn i " gymodi y byd àg ef ei hun." Ond y weinidogaeth am dano, moddion moesol ydyw, ond ei fod y moddion cyfaddasaf i gyrhaedd yr amcan, eithr nid yn ddigonol i gynyrchu dychweliad heb ddylanwadau Dwyfol. Er pregethu y gwirioneddau mwyaì' efengyl- aidd, yn yr ysbryd mwyaf efengyíaidd, heb ddylanwadau Dwyfol ni ddychwelir un enaid. Èr fod genym " Grist wedi ei groeshoelio" i'w bregethu, rhaid cael ysbryd Crist i fendithio cyn y bydd y weinidogaeth am dano yn fcndithiol. Wrth ddywedyd mai yn y groes y mae nerth yr efengyl, nid yic hyny yn tybied fod tíyledswyddau i gael eu cau allan o'r weinidogacth.—Y mae yn perthyn i gref- ydd ddyledswyddau lluosog a phwysig, ac nis gellir gwneud cyfiawnder à'r efengyl wrth " attal dim o'r pethau buddiol." Y mae yn rhan o waith y weinidogaeth " i rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn, fel y cyflwyno bob dyn yn berö'aith yn Nghrist lesu." Dylai pob gwirionedd athrawiaethol fod o duedd ymarferol. Byddai Paul yn disgyn i lawr oddirhwng mynyddoedd y cariad tragwyddol, dros ddyífrynoedd breision bywyd ac angau Crist, i ddolydd prydferth buchedd dduw- iol; ac nid oes un man mor anogaethol i rinwedd ag angau Crist. Os pregethir cariad tragwyddol ac Iawn anfeidrol, rhaid eu cysylltu yn ymarferol, " fel na choller pwy bynag a gredo." Os pregethir " etholedigaeth yn ol rhagwybodaeth DuwDad, a santeiddiad trwy yr Ysbryd Glàn," rhaid eu dwyn i gysylltiad â "ffydd i'r gwirionedd." Y mae pob gwirionedd athrawiaethöl i 'gael êi 'ddefnyddio yn gymhelliad i ddyìedswydd ymarferol.