Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

7 C Y DIWYGIWR. Rhif. 197.] RHAGFYR, 1851. [Cyf. XVII. ESGYNIAD CRIST. GAN Y PARCH. R. W. ROBERTS, OLARACH, CEREDIOION. Bydd melus gan bob gwir Gristion glywed gair am esgyniad y Rhag-flaenor, sef Iesu Mab Duw. Efe a dderchafwyd i fynu i'r nef, a chwmwl a'i derbyniodd ef. Gyda'r cymylau y daw efe yr ail waith i farnu y byw a'r meirw. Bu dros ddeugain niwrnod yn weledig, ar ol adgyfodi, cyn ymdderchafu. Mynegu y pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ydoedd ei waith y pryd hwnw, a chasglu ei ddysgybl- ion yn nghyd i weled ei dderchafiad. Derchafodd oddiar y mynydd a elwir yr Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, o fewn taith diwrnod Saboth; treuliodd lawer o'i amser yn y mynydd hwn cyn marw ac adgyfodi. Ar ran o hono y bu efe m ewn ymdrech meddwl, yn gweddio yn ddyfalach, a'i chwys fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear, yn offrwm gweddiau ac erfyniadau, trwy lefain cryf a dagrau, ac yn drist iawn ei enaid hyd angeu. A gweddus oedd iddo gael ei gymeryd i fynu, ac esgyn i'r nef oddiar hwn ; canys trwy ddyffryn gostyugiad, y mae ffordd i dderchafiad. Ac os mewn gardd yn ochr hwn y bu ei ddarostyngiad dyfnaf, oddiar ran o hono hefyd y cadd efe y derchafiad uchelaf. Disgynodd yn gyntaf i barthau isaf y ddaear, esgynodd hefyd goruwch yr holl nefoedd. Ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch a Duw, cyn disgyn i derfynau y ddaear. Yr ydoedd yn ffurf Duw, yn ddysgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson, "Eithr efe a'i dibrisodd ei hun, ac a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufydd hyd angeu, ie, angeu y groes." Ac o herwydd hyny y tra-derchafwyd yntau, ac y rhoddwyd iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw. A gwelwyd ef mewnraawr a rhagorol ogoniant gan Stephan, Paul, ac Ioan. Caiff pob llygad ei weled 'ef cyn bo hir, " îe, y rhai a'i gwanasant ef." " Canys yr Iesu, yr hwn a gymerwyd i fynu oddiwrthych i'r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i'r nef." Dywedir iddo gael ei " gymeryd i fynu i'r nefj" fel arwydd o'i esgyniad yno yn anrhydeddus, yn ol trefn ac ewyllys ei Dad, ac mai nid gogoneddu ei hun a wnaeth efe. Yr oedd canlyniadau pwysig yn nglŷn â'i esgyniad, sef cyflawni y proffwyd- oliaethau, sylweddoii y cysgodau, gwirio ei eiriau ei hun, cyfranu dawn yr Ysbryd, parotoi lle i'r saint, eiriol trostynt, a pherffeithio gwaith eu prynedigaeth hwy, &c. I. GOGONEDDUS ESGYNIAD ¥R ARGLWYDD IESU GRIST. 1. JEsgynodd yn weledig.—Nid peth a wnaed yn y dirgel, nac mewn tywyllwch, ydoedd esgyniad Crist. Yr oedd digon o dystion yn edrych arno yn myned i fynu. Edrychai y gwŷr hyny arno a fu yn barod i wneud tair pabell ar fynydd y gwedd-newidiad, a'r ddau ädysgybl oedd yn myned tuag Emmaus. A diau fod yr un-ar-ddeg yn ei weled ar unwaith, beth bynag am ychwaneg. A phwy all sicrhau, nad oedd mwy na phum can brodyr yn edrych arno yn myned. Modd bynag, gwelwyd ef gan fwy nâ phum can mil o angylion, " Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion" yn mhob cerbyd. Ac yr oedd yr Arglwydd yn eu plith, megys yn Sinai yn y cysegr, " a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r Cenedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fynu mewn gogoniant," yn amlwg a gweledig. 2. JEsgynodd meurn cysylltiad â gweinidogaeth angylion.—Bu yr angylion yn gweini lfawer i Iesu Grist, o'i enedigaeth hyd ei farwolaeth. Angel a ymddangos- odd i hysbysu am y " peth santaidd." Lluaws o lu nefol a fu yn canu anthem foreu ei enedigaeth. Angylion a fu yn gweini iddo, wedi i ddiafol ei arwain ef i fynydd tra uchel, i'w demtio. Ymddangosodd angel yn ei nerthu ef, pan yn gweddio ynddyfalachŷnGethsemane. Dau angel a fynegodd i'rgwrageddameiadgyfod- 4o