Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YDIWYGIWR. [(, "RÛÍFrÎ95Ö HŸDRËîTlÌ85l CCvF. XVlT. AMERICA. QAN Y PARCH. JOHN MORGAN THOMAS*. COED-DUON. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf, tu-dal. 235.) Cinwysiad.—Dyoddefiadau yr Indiaid — Eu bannibyniaeth a'u gwroldeb — Eu cred mewn sefyllfa ddyfodol—Wedi eu gwthio i'r Gorllewin pell — Yn eael mwy o fanteision yn ddi. weddar—Ymddangosiad y wlad—A chynyrch amaethyddol mẃnol, &c—Y manteision sydd ynddi i Ymfudwyr—Nodweddau moesol a chrefyddol y trigolion, &c, &c. Nid yn wastad y mae ymddygiadau y dynion gwynion yn America wedi bod yn ganmoladwy tuag at y cyn-frodorion, sef yr Indiaid. Cawsant yr enw hwn gyntaf gan Columbus. Gan ei fod yn barnu ei fod yn hwylio ar ei fordaith gyntaf i'r India, galwodd y brodorion cyntaf a gafodd yn y Gorllewin yn "Indiaid," ac felly y gelwir yr holl gyn-frodorion hyd yn bresenol. Rhaid i bawb gyfaddef mai gan- ddynt hwy yr oedd y meddiant gwreiddiol a'r hawl henaf i'r wlad. Ond cy- merodd breninoedd a thywysogion Ewrop feddiant o'u gwlad yn ddigon di- gy wilydd, a gýrwyd hwynt drwy rym arfau o wlad beddrod eu tadau, a dyfethwyd hwynt trwy galedwaith a chreulonderau fel nad oes ond rhelyw bychan o honynt yn aros. Ac y mae yr un camwri i raddau yn cael eu arfer tuag atynt hyd yn bresenol. Ond er y cwbl y mae cymaint o annibyniaeth yn nghýmeriaid Indiaid Gogledd America, fel na allwyd darostwng un o honynt i gaethiwed hollol. Mae marw yn felus yn ngolwg yr Indiaid, mewn cyferbyniad i gaeth-wásanaeth. Gwelir arddangosiad cywir o wroldeb ac annibyniaeth yr Indiaid, mewn araeth a anfonodd â Tywysog Indiaidd o'r enw Logan yn llaw Cenadwr i gael ei thraddodi o flaen Arglwydd Dunmore yn 1774. Ymddengys fod swyddog milwraidd Seisnig o'r enw Coi. Cresap wedi liadd gwragedd a phlant Logan, yr hyn aachosodd rhyfel gwaed- lyd rhwng yr Indiaid a'r Saeson, yn mha un y cafodd yr Indiaid y gwaethaf. Ar ol i'r frwydr fyned drosodd, ac i'r Indiaid ymhŵedd am heddwch, anfonodd Logan yr araeth hyawdl a ganlyn :—" Yr wyf yn galw ar un dyn gwyn i ddweyd, os aeth i mewn i gaban Logan yn newynog, ac ni roddodd iddo fwyd ; yn oer, ac yn noeth, ac ni wisgodd ef. Trwy gydol y frwydr waédlyd ddiweddar, arosodd Logan yn segur yn ei gaban yn amddiffynwr heddwch. Y fath oedd fy nghariad at y dynion gwynion, fel y dywedai fy nghydwladwyr pan welent fi yn myned heibio, ' Dacw Logan, cyfaill y dynion gwynion.' Meddyliais fyw gyda chwi, oni buasai camwedd un dyn. Yn y gwanwyn diweddaf, lladdodd Col. Cresap mewn gwaed oer, holl berthynasau Logan, heb arbed fy ngwragedd a'm plant. Nid'bes diferyn o fy ngwaed yn rhedeg yn ngwythienau un creadur byw. Galwodd byn am ddialedd; ceisiais ef—lleddais lawer—gorlenwais fy nialedd. Dros fy ngwlad yr wyf yn llaw- enhau wrth weledpelydrau heddwch. Eithr na letya y meddwl mai llawenydd ofn yw yr eiddof fil Ni theimlodd Logan erioed ofn. Ni thry ar ei sawdl byth i achub ei fywyd. Pwy sydd i alaru ar ol Logan ?—Neb." Gallem herio holl areithiau Demosthenes a Cicero i ddangos un darn rhagorach nag araeth Logan y penaeth Mingoaidd. Mae yr Indiaid yn credu sefyllfa ddyfodol o wobr a chosb. Gosodir y gwirionedd hwn allan yn darawiadol iawn gan hen frodor o Cuba o flaen Christopher Columbus, yr hwn oedd wedi caniataupeth creulondeb i gael ei arfer ar y trigolion. Dywedai fel hyn,—" Pa un bynag ai duwiau, ai dynion marwol fel 37