Skip to main content

Y DIWYGIWE. Rmr. 194Q__________MEDI, 1851, [Cyf. XVI. AMERICA. QAN Y PAROH. JOHN MORGAN THOMAS, OOED-DUON. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf tu-dal. 235.) Cÿnwysiad.—Camwri y Llywodraetb Brydeinig tuag at y Trefedigion—Hwythau yn aehwyn —Yn ardystio—Yn ymgynghori—Yn ymgyngreirio—Yn sarbau mesurau y Llywodraeth—Yn cyflunio byddin—Eu colled a'u henill—Awdurdod y Cynghor ar y cyntaf—Y Cyfansoddiad—Ei ragoroldeb—Ei ddiffyg mawr—Coleddu Caethiwed—Anghysondeb Caethiwed yn America— Cyfraith y caeth ffoedig—Yr ymddibeiriadau drosti—Cysylltiad eglwysi a gweinidogion à Chaethiwed—C'ysylitiad Prydain Fawr ac Ewrop â Chaethiwed. Yr oedd y ffurf-lywodraeth a sefydlodd y tadau Puritanaidd yn Lloegr Newydd mor berffaith fel na effeithiodd y chwyldroad un cyfnewidiad pwysig arni. Tra fu y Trefedigaethau yn weiniaid, ni chawsant ond ychydig o nodded gan yfam wlad; ond ar ol iddynt gynyddu mewn gallu a chyfoeth, daeth hithau yn mlaen i hòni awdurdod, nid yn unig i'w llywodraethu, ond hefyd i'w gormesu. Mwynhasant ryddid masnachol am amser maith ; ond ar ol iddynt oresgyn y caledfyd a'r an- hawsdra perthynol i sefydliadau ieuainc, ac ychwanegu eu dylanwad mor fawr, darostyngwyd eu trafnidaeth i rwymau a threthi gwarthus, a hyny i'r dyben pen- dant o ddyogelu yr holl elw i drysorfa Lloegr. Yn y flwyddyn 1651, cyfyngwyd masnach atgludo'l a thrawgludol y Trefedigaethau i longau Prydeinig a Threfedigol yn unig. Yn 1660, gwaharddwyd trawgludo nwyddau o un ran o'r Trefedigaeth- au i unrhyw wlad dramor; gorfodwyd y Trefedigion i werthu eu cynyrch mewn marchnadoedd Seisonig yn unig. Yn 1663, gosodwyd rhaid arnynt i brynu y nwyddau a fyddai arnynt eisieu gan fasnachwyr Lloegr, a neb ereill. Ymdrechai y llywodraeth lwfrhau pob ymegniad ynddynt i wneuthur yr erthyglau a ellid gael yn Mhrydam. Yn 1699, gwarafunwyd i un gwaith gwlan, edafedd, neu unrhyw ofyddiaeth wlanaidd gael eu trawgludo o'r Trefedigaethau. Yn 1760, rhoddwyd gorchymyn i bob Llywj'dd atal pob melin rolio a hollti, a phob ffwrn-weithdŷ. Yn 1764, pasiwyd cyfraith yn parhau y trethi ar nwyddau a atgludid i'r Trefedig- aethau, i'r dyben o gyfodi cyllid Lloegr. Yn 1765, awdurdodwyd cyfraith yr arfath, ac yn fuan ar ei hol cyfraith yn gorchymyn lletŷa milwyr yn y Trefedigaethau. Derbyniwyd y mesurau uchod gyda gwrthwynebiad penderfynol a chyffredinol. Galwyd Cynghçr ynghyd yn Efrog Newydd, a mabwysiadwyd ardystiad diofn, yn dangos iawnderau y Trefedigion a gormes y Llywodraeth Brydeinig. Cynhaliwyd Cymanfaoedd Taleithiol hefyd, y rhai a ddylynasant siampl y Cynghor. Ymdyrodd y bobl ynghyd o bob rhan o'r wlad, a derchafasant eu lleisiau fel taranau yn erbyn y Llywodraeth a'u dirwasgai mor ffyrnig. Llwythwyd y Newyddiaduron á thraethodau angerddol ac addysgiadol, a heidiwyd y wlad â llyfrau bygythiol a fSamegol, y rhai a osodasant yr holl wlad ar dân; ond ni chymerai Llywodraeth orphwyllog Brydain rybudd er y cwbl. Yn 1767, arddododd drethi ar wydr, papyr, glydfwrdd, plwm, lliwiau, a thê a atgludid i'r Trefedigaethau. Ar hyn, ffurnodd y Trefedigaethau Gyngrair yn eu plith eu hunain i atal atgludiad y nwyddau crybwylledig yn hollol. Mewn canlyniad, diddymwyd y treẃi uchod, ond yr un ar y tê, a hòno a ostyngwyd i raddau ; ondyn lle derbyn haelioni y Llyw- odraeth, gwrthododd y Trefedigion dderbyn hyd yn nod y tê. Anfonwyd ìlons- lwythi o hono i America. ond ni chenadwyd i'r llongau ddadlwytho yn New York 34