Skip to main content

Y MWYGIWË. Rhif. 193.] AẂST, 1851. [Cyf. XVI. AMERICA. GAN Y PARCH. ÜOHN MORGAN ÎHOMAS, ÖOED<-DUON. Cynwysiad:—Rbaniad y ddaear—Darganfyddiad America—Y Scandinafiaid—Madog ab Owen Gwynedd—Yr Indiaid Cymreig—Martin Behaim—Colurabus—Âraerigo Yespucci—John Cabot— Gwladychiad y Saeson—Y Pererinion Puritanaidd, &c. Y mae daearyddwyr diWeddar yn rhanü y ddàear i bum parthiant: sef Ewrop, Asia, Affrica, America, ac Oceanica. Bydd y sylwadau a ganlyn yn dàl perthynas â'f pedwerydd dosran yn y rhaniad uchod. Terfynir America o dü y Gogledd gan y cefn- fbr gogleddol, o du y dwyrain gan y cefnfor Werydd, o du y deau gan y cefnfor deheuol, ac o du y gorllewin gan y cefnfor Tawel. Mae America drachefn yn cael ei rhanu i ddau brif raniad: sef America Ddeheuol, ac America Ogleddol. Yf ydym yn arfaethu cysylltu ein nodiadau â'r " cydwledydd," neu y "Weriniaeth Americaidd" yn benaf, yr hon a ffurfia barthiant canolog America Ogleddol, ac a derfynir ar y gogledd gan Frydain Newydd, a'r ddwy Ganada, ar y dwyrain gan Frunswick Newydd a'r cefnfor Werydd, ar y deau gan Forgainc Mexico, a Mexico, ac ar y gorllewin a'r de-orllewin gan Mexico a'r cefhfor Tawel. Bernir fod medd- ianau y " Cydwledydd Americaidd" tua thair myrddiwn o filldiroedd arwynebol. Fe allai mai nid anfuddiol fyddai taflu golwg dros yr enwogion i ba rai y priod- olir y clod a'r anrhydedd o forio neu ddarganfod y "Byd Newydd" dan ein sylw. Yn nechreu y ddeunawfed ganrif, tra yr oedd yr hena fiaethydd Norweaidd Thor- faens yn chwilio y trysorau gwerthfawr hyny o wybodaeth henafol yr " ícelandic Sagas," meWn trefh i gasglu defnyddiau er cyfansoddi Hanes Greenland, daeth o hyd i brofion—nid yn unig o wladychia(| boreuol y pwnc gogleddol hwn o'r glôb breswyliadwy gan y Scandinafiaid, ond hefyd o ddarganfyddiad y Cyfandir Americ- aidd gan y gwladychwyr anturiaethüs hyny y ddegfed ganrif. Cyhoeddodd Thor- faens y ffaith mewn traethawd yn yr iaith Ladin ; a chymerwyd i fynu gyda bodd- ineb neillduol gan lawer o'r haneswyr a'r henafiaethwyr penaf. Ond yn anffodus ni chylchredodd ond ychydig gopiau o'r Iraethawd dros derfynau Scandinafia; a chan fod Uênyddiaeth y wlad hòno i raddau helaeth yn anadnabyddus i'r rhanau ereill o'r byd, bü y canfyddiad cyn-golumbaidd o America gan y gogleddwyr, yn ffaith anhysbys i'r byd yn gyfffedin hyd yn ddiẅeddar. Dywed yr hanes fbd Harold Benteg yn nechreu y ddegfed ganrif, yn darostwng gẅahanol grach argl- wyddiaethau Norway mewn modd anghj'fiawn, ac yn effeithio cyfnewidiadau an- nyoddefadwy yn amodaü y tiroedd, fel y penderfynodd llawer iawn o'r uchelwyr dewrwych adael gwlad eu genedigaeth, a cheisio noddfa^—rhai yn mynyddoedd ac anialdir Helsingeland a Jenmiland, rhai ar ynysoedd Faero, rhai ar draethau Ork- ney a Hebrides, ac erëill ar yr ynys fawr a elŵir Iceland, lle y mae eira oesol yn gofchüddio y bryniau, o feẃn pa raiy twymwridia tânau llosgfryniau dirif—Ue y pistylla dyfroedd berwedig allan o'r ddaear rewedig—lle yr ymestj-n arlwybrau llym- ion y chẃydon difaöl am filldiroedd, hyd oni yinsuddont mewn dyffrynoedd mirain, y rhai a ddigonant y diadelloedd breision ; yn y wlad hon y daffu yr ymfudwyr Norweaidd ymsefydlu, ac adeiladu Cymrodoriaeth, yn cael ei llywyddu yn ol deddf- au cyfiawn eu gwlad gysefin; a dylynwyd hwynt gan lawer o'r tair gwlad Scandi- nafaidd, Norway, Sweden a I)enmark. Soddasant eu ^gwahanol deimladau a lles- iant personol, teuluaidd, a chymdeithasol mewn un Weriniaeth gyffredinol, yr hon a fu o'r pwys mwyaf i hanes y tair teyrnas a enwyd; oblegid ymay dyogelwyd iaith a chrefydd, defion a moesau, ynghyd â hynodioh peisonol yr hen Scandinafiaid 30