Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 191.] MEHEFIN, 1851. [Cyf. XVI. CYMEEIAÜ DA, YN EI BERTHYNAS A'R DYN EI HUN, A'R GYMDEITHAS JDDYNOL YN GYFFBEDINOL. GAN Y PARCH. ROBERT JONES, TREWEN. Darlith a draddodwyd yn Figoldy Aberbanc CCapel y DrindodJ, nos Iau, y 2Tain o fis Mawrth diweddaf, oflaen Pwyllgor a'r Oymdeithas Ddarllenyddol Jtberbanc. Fr oedd yn bresenol ar yr amgylchiad, hebìaw y dorf yn gyffredinol, T. D. Lloyd, Ysw., Bronwydd (y Cadeirydd); Parch- edigion W.Jones, Glynarthen ; S. Griffiths, Horeb r J. Griffiths, Llangeler (£.); /. Jones, Cas- tellnewydd-yn-EmUjn [T.); T. Thomas, Castellnewydd-yn-EmUjn (B.) " Owell yw enw da nag eaaint gwerthfawr." Dyma ddyfarniad un o'r dynion doethaf, a'r mwyaf priodol ar y ddaear, i ddweyd ei olygiadau ar^bwnc ein testun. Yr ydym yn casglu oddiwrth faesydd hanesiaeth genedlig gystal ag ysgrythyrol, na fu un oes ar y byd yn mhlith pobl warei^djedigj a'r nad oeddynt yn rlioddi pris ar " enw da." Yn ol fel ag y byddo cenedl wedi cyfodi mewn gwareidd-dra, neu ei darostwng mewn anwareidd-dra, y mae cymer- iad moesol y trigolion yn codi neu ostwng yn eu golwg. Ni welir cymeriad moesol da, ond gan genedl a ddichon ei werthfawrogi; ac hefyd, ni welir cymeriad da byth, ond gan ddyn ag sydd yn deall yr elfenau angenrheidiol tuag at ei gyf- ansoddi. Wrth gymeriad, neu nodwedd dyn y deallir yn briodol, ansoddion moesol y meddwl yn cael eu gweîthio i arferiad. Egwyddorion yn cael eu gwisgo mewn gweithredoedd ydyw. Y mae y geiriau nodwedd a moesau yn eiriau mwys, h. y., yn eiriau ac iddynt ddau feddwl; nid yw y gair cymeriad yn ein rhwymo i greäu cymeriad da, mwy nag y mae y gair moesau yn ein rhwymo i gredu moesau da. Nid yw da a drwg ond ánsoddion i'r enwau. Y mae fy nhestun beno wedi ei roddi i mi dan ddifyniad (definition), a'r peth cyntaf ag sydd yn taro ein llygaid oddiwrth eiriad y testun yw, " cymeriad da yn ei ddylanwad ar y dyn ei hun." Y mae dylanwad cymeriad da a drwg ar ddyn yn berfiaith gyfartal i fel ag y mae ef yn cael ei adnabod; pe yr adnabyddid dyn drwg yn well, fe'i casêid yn fwy; ac o'r ochr arall, pe yr adnabyddid dyn da yn well, fe'i perchid yn fwy; fe saif pob dyn ar raddeg y farn gyhoedd yn gymhwys yn ol fel ag yr adnabyddir ef. Cyn y gall dyn feddianu dylanwad fel aelod cymdeithas, rhaid iddo fod yn ffafr y farn gyhoedd; ac ni chyfyd byth yn ffafr y farn gyhoedd ond i'r graddau ag y byddo ei gymeriad moesol yn dda. Mae yn nesaf peth i fod yn anmhosibl i ddyn allu gwneud dim daioni tra y byddo ei gymeriad moesol yn anghymeradwy; pe rrieddai dyn alluoedd angel, tra y byddo ei gymeriad moesol yn wrthodedig gan y farn gyhoedd, y mae o angenrheidrwydd dan anfantais i wneud dim gwir ddaioni. Y mae condemniad y farn gyhoedd yn rymus dychrynllyd—tÿnodd lawer gwron i'w fedd yn anamserol; a phob amser, y mae y farn gyhoedd yn fywyd neu angeu ì ddylanwad dyn. Y mae sefylífa dyn ar y ddaear hon y fath, fel nas gall ym- wrthodâ dyledswyddau hebfodyn euogo'deyrnfradwriaeth yn nheyrnas llywydd y byd. Gan fod yr holl fyd yn cael ei ysgogi gan ddwy egwyddor—da a drwg, rhaid fod pob dyn yn sefyll, ac yn gwneud ei ran gydag un o'r ddwy. Y mae sefyll yn erbyn y drwg, a phleidio y da, yn briodoliaethau hanfodol i gymeriad teilwng a rhinweddol, ac nid wyf yn gWybod am ddim yn fwy gwasanaethgar tuag at y naill a'r llall, nâ'i fod (y dyn) o gymeriad moesol tia; y mae nerth yn ei 22