Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 190.] MAI, 1851. [Cyf. XVI. AGWEDD F0ES0L BEL0IU1. GAN Y PARGH. EVAN JONES, CRUGYBAR. Mae yn dda gan lawer o'n cenedl i wybod fod Cymdeithasau Protestanaidd ac efangylaidd, wedi eu sefydlu yn amryw o deyrnasoedd Pabaidd y Cyfandir, er ymdrechu taenu y gwirionedd, megys ag y mae yn yr Iesu; a bod cymdeithas wediei ffurfio yn ddiweddar yn Llundain, er cjTiorthwyo y cymdeithasau gweiniaid hyn, i ba un mae Wm. Alers Hanhey, Ysw., yn drysorydd; ein hoff gyd-wladwr, y Parch. Evan Davies, Richmond, yn j-sgrifenydd; Syr Culling Eardley Eardley, Barwnig, a llawer o foneddigion ereill, yn gyfeisteddfod. Daeth i'm Uaw yn ddiweddar, Adroddiad Chwarterol y Gj'mdeithas a elwir Societe Efangeliqy,e Belge, am Ionawr y flwjddyn hen; ac o'r Adroddiad hwnw yr wyf wedi cael sylwedd yr hyn a amcanaf ei roi yn awr o flaen sjiw darlìenwj'r y Diwygiwr. Mae yn ymddangos fod yn Belgium weil manteision a chjfleusderau i daenu y gwirionedd nag yn un wlad arall ar Gj'fandir Ewrop. Mae ei- chyfan- soddiad gwladwriaethol mor rhydd a hael fel ag y dj-ogelir rhyddid crefyddol yno yn ei ystyr helaethaf. Yr Adroddiad a ddywed, " üs barnwn ni am wlad wrth helaethrwydd ei thiriogaethau, neu ei grym milwraidd ar dir a môr, yna nid yw Belgium ynsefyll yn y res flaenaf; eto nid yw yr egwyddorion sy'n gweithredu yn nerthol ar ddynolryw, wedi cael eu dechreuad bob amser mewn teyrnasoedd mawr- ion. Mewn diwydrwydd a thrafnidiaeth nid yw Belgium'yn ol; ond nid yn lluos- ogrwydd ei reilffyrdd, nac yn amldra ei llaw-weithiau mae ei phrif ogoniant yn gynwysedig; ond yn y sefydliadau doeth a ffurfiodd, ac a ddyogelodd hi hyd y dydd hwn yn nghanol y chwyldröadau ag sydd yn y blynyddoedd diweddaf wedi berwi holl ranau Ewrop." Dywed yr Adroddiad yn mhellach, " Os ewyllysiwch agor ysgol, a gweini yr addysg a fynoch, yr ydych at èich perffaith ryddid i wneud hyny; os ewyllysiwch godi capel i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eich cydwybod, mae i chwi gyflawn ryddid i hyny hefj'd. Ni fydd raid i chwi ofyn cenad yr awdurdodau, a phe cynygid aflonyddu arnoch, caech eich dyogelu. Mae hyn yn fantais fawr i genadau fel yr eiddom ni, ac yn beth na fwynheir yn mhob gwlad Babaidd. Mae i'n Colporteurs ryddid i fynèd trwy bob rhan o'r wlad û Biblau a Thraethodau crelÿddol. Gwir bod iddynt eu gelynion a'u gwrthwyneb- wyr, ond ni íeiddiant ymosod arnjTit gan ofn y gosb. Gallwn, ond ei wneud yn gall, ymosod ar dwyll a chyfeiliornadau Eglwys Rhufain, naill ai â'r tafod, neu yr ysgrifell pan y mynom. Yr ydym yn pregethu Crist yn gyhoeddus yn y trefydd, a'r pentrefydd, ac yn ymdrechu ffurfio cynulleidfaoedd; a lle y mae yn angen- rheidiol, aninau yn alluog, yr ydjrm yn penodi dysgawdwyr . a bugeiliaid i ofalu am danynt. Nid oes neb àll ein rhwystro i wnend y pethau hyn oll. Dylem eiddweyd, er clod i Belgium, na ddarfu yr awdurdodau erioed i'n llyffetheirio, ond bob amser parchent y gyfraith. Yr ydym yn llawer mwy ffodus nà'n brodyr yn Ffrainc, y rhai hyd yma sydd wedi gorfod dyoddef llawer o gwynion cyfreithiol, ac heb gyrhaedd y rhyddid gwerthfawr a fwynheir genym ni." Ond er fod gan waith yr Arglwydd y cyfleusderau gwerthfawr a nodwyd; eto deallwn wrth yr hanes, fod iddo yn Belgium rwystrau mawríon a nerthol. Mae yr offeiriaid Pabaidd yn gyfoethog, lluosog, a galluog; a theimlir eu dylanwad yn mhob man. Mae'r sefydliadau cyhoeddus, megys yr ysgolion, athrofeydd, carch- arau, a'r yspytdai, bron oll yn eu dwylaw, ac o herwydd hyny, mae lluoedd o weith- wyr, athlodion, yn ymddibynu anrynt; a gwae fydd i'r rhai hyny os derbyniant yr efengyl vn gyhoeddus. Ond gwaeth nâ hyny eto yw yr agwedd reeynol o isel am 18