Skip to main content

Rhif. 189.] EBRILL, 1851. [Cyf. XVI. EGLWYS RÜFAIN. GAN Y PARCH. JOHN GRIFFITHS, TREF3ARN. Yr oedd Eglwys Gristionogol yn Rhufain yn fuan ar ol dydd y Pentecost. Yr oedd rhai o ddinaswyr Rhufain yn mhlith y miloedd a gredasant y dhvrnod hwnw, ac wedi eu dychweliad adref' o Jerusalem, y mae yn debyg y ffurfiwyd Eglwys yn líhufain. Ỳsgrifenodd Paul ei epistol ati yn 58, ymwelodd â hi yn ngwanwyn 61, a bu yn garcharor yn llhufain hyd ei ryddhad yn nechreu y flwyddyn 63. Er yn garcharor, cafodd ryddid i dderbyn pawb i'w dý, ac i bregethu yr efengyl. Yr oedd yr apostol eto yn Rhufain yn gynar yn 65, yn pregethu yn ol ei arfer, gyda thanbeidrwydd a sel apostolaidd, nes ei garcharu yn erlidigaeth Nero. O'r carchar y tro hwn cafodd ei alw i roddi ei fywyd i lawr yn dystiolaeth i'r byd o'i ffydd ddiysgog yn y gwirioneddau Dwyfol a bregethodd. " Canys myfi yr awrhon a aberthir, ac .amser fy ymddatodiad i a nesaodd." Y mae yn hysbys i ni yr efengyl a bregethodd Paul, yn yr hon yr oedd Eglwys Rhufain yn sefyll yn ei oes ef, ac ni allodd erlidigaeth Nero i lychwino yr Egíwys, er iddi gael ei hysbeilio o rai o'i phrif goiofnau. Yr oedd yr efengyl yn ei phurdeb yn cael ei phregethu yma yn nghylch y flwyddyn 90, pan yr anfonodd Eglwys Rhufain lythyr wedi ei ysgrifenu gan ei hesgob (neu weinidog) Clement, at ei chwaer Eglwys yn Corinth. Yr ocdd Ciement wedi ei gyfodi wrth draed yr apostolion. "Gwrandawodd ar Paul yn pregethu, ac efallai ar Pedr, fos bu Pedr hefyd yn pregethu yn Rhufain.) ac ato y cyfeirir yn Phil. 4, 3. Gosodwyd yntau i farwolaeth o herwydd ei ffydd ddiffuant, ä'i sel anniffoddadwy, tua'r flwyddyn 100. Yn mhen amser byr ar ol hyn, llifodd egwyddorion y byd i mewn "i'r Eglwys. Yr oedd ei swyddogion yn sychedu am anrhydedd a gorwychder bydol. Collwyd golwg ar ysbrydolrwydd crefydd Iesu Grist—gosodwyd dyn yn lle Duw, y dynol yn lle y Dwyfol—cymdeithas y pechadur a'r offeiriad yn grefydd, yn lle cymdeithas â'r Tad a'i Fab ef—pennyd yn lle edifeirwch, mor fuan ag 157, a bedydd yn santeiddrwydd yr un mor foreu, os nad cynt. Y gwraidd oddiwrth ba un y mae Pabyddiaeth wedi egino, tyfu, blaguro, a ffrwytho, yw adeiladu crefydd ar gylch o ddyledswyddau allanol, yn lle cymdeithas yr enaid* â Duw yn Nghrist. Wedi i'r egwyddorion bydol a llygredig hyn i orlifo i'r Eglwjs, anghofìwyd mai yr Arglwydd Iesu yw yr unig Gyfryngwr rhwng Duw a dynion—mai efe yw y ffordd, y gwirionedd," a'r bywyd—fod yn rhaid i wir addolwyr y Tad i'w addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Yn lle y gwir addoliad, gosodwyd i fynu ffurf- addoliad anianol. Dacth y gweinidog neu yr esgob i fod yn oífeiriad, i sefyll rhwng dyn a'i Greawdwr. Coleddodd y dyb ddinystriol ei fod ef yn sefyll yn nes at Dduw nâ'r bobl yn gyffredin, ei íbd ef i aberthu drostynt, ac aM-durdod ganddo i gyhoeddi maddeuant eu pechodau. Yv un ^ysbryd wedi^ dyfod i mewn un eiriolwr, yr Hwn sydd ar ddêheulaw y Tad—un aberth, sef Abcrth y groes,- ond ar ol dydd yr apostol'ion, daeth, fel y rhagfynegasant (2 Thes. 2, 2,) dynion a gyfrifent eu hunain yn olynwyr iddynt, y rhai yn lle pregethu Crist, a wisgasant cu swyddi am danynt, a chymerasant amynt eu hunain i fod i'r byd, yr hyn nad yw bosibl i ddyn nac angel i fod, na neb oiid y dyn Crist Iesu. Mewn canlyniad i 14