Skip to main content

Rbif. 188.] MAWRTH, 1851. [Cye. XVI. CARIAD. GAN Y PARCH. MICHAEL JONES, BWLCHNEWYDD. * A chàr yr Arglwydd dy Dduw ft'th holl galon, â'th holl enaid, ac â'th holl feddwL ac â'th hoU nerth. Hwn yw'r gorchymyn cyntaf. A'r ail aydd gyflfelyb iddo; Cftr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy nâ'r rhai hyn."—Marc. Dyddiau anghyffredin am ymryson yw y dyddiau presenol. Nid oes nemawr wlad yn dawel, na nemawr enwad crefyddol heb fod annghydfod o'i fewn. Nid ydwyf yn beio dynion am fethu cydweled, ond am fethu cydfyw. Y mae gan bawb hawl i farnu drosto ei hun : ond ychydig sydd eto wedi dysgu parchu ereill yn ddyledus, pan y byddo yr ereill hyny yn gwahaniaethu oddiwrthynt yn eu cred. Ac y mae hyn yn fwy beius fyth, pan yr ystyriom mai dan oruchwyliaeth yr efengyl yr ydym yn byw, a chariad yn un o'i hynodion. Mae cariad y Tad yn hynod yn anfoniad y Mab. Mae cariad y Mab yn fawr yn ei ddyfodiad yn y cnawd—yn ei ymostyngiad i'r driniaeth a gafodd—ac yn benaf yn ei angeu, a'r cyfan er ein mwyn ni. Acos felly y carodd Duw ni, ninau hefyd a ddylem garu ein gilydd. Nid ydyw ond peth bychan i ni garu ein gilydd, mewn cymhariaeth i Dduw ein caru ni. Ond nid pob peth a elwir yn gariad sydd felly mewn gwirionedd. Y mae ffug o hwn fel o bob peth arall. Sonia y gormeswr lawer am gariad, ac undeb, a thawelwch, os bydd ef mewn awdurdod; onide bydd yn fwy am gyfnewidiad nâ neb, ac yn ben diwygiwr. Sonia y rhai a gyfenwant eu hunain yn gall, y rhai a siaradant bob amser am fod yn dcìocth, heb son nemawr byth am fod yn egwydd- orol, gonest, a chywir, ie, dyma rai a soniant lawer yn aml am gariad—y rhai hyny na thynant neb i lawr, pa mor annghymwys bynag a fyddont i fod yn uchel, a hyny er mwyn bod yn gall! ac ni dderchafant neb i fynu, er mwyn bod yn gall, pa mor deilwng bynag fyddo o'i godi yn uwch. Y mae ambell i bregethwr ac ysgrifenwr pobl- tra na wyddant ond ychydig am y gras hwnw yn cynhyrfu eu calonau i weithredu fel y dylent tuag at Dduw a'u cyd-ddynion. Yn wyneb cymaint o ddiffyg cariad ag sydd yn bodoli rhwng gwahanol aelodau eglwysig, a gwahanol eglwysydd â'u gilydd ; ac yn wyneb fod ambell i bregethwr, a gweinidog, ac ysgrifenwr, yn ymddwyn yn ddigon anefengylaidd tuag at frawd neu frodyr iddo yn y weinidogaeth, a hyny weithiau à geiriau cariad ar y wefus, y mae ambell i Gristion gwan, mewnawr o fj-rbwylldra, bron a phenderfynu rhoddí i fynu ei broffes o grefydd yn llwyr, a byw ar ei ben ei hun fel crefyddwr, heb fyned i gapel nac eglwys byth. Gwn am rai ag y mae cynhenau pregethwyr wedi eu gỳru i'r teimlad hwn. Ond cofied y cyfryw rai mai nid peth newydd yn yr eg- lwys yw ibd gwir weision Crist yn cael eu blino gan gau-athrawon—felly yr oedd yn nyddiau yr apostolion. Yr oedd husting, ac athrod, ac enllib, a chelwydd am- bell i athraw gynt yn profi mai un gau ydoedd, a'i ymosodiad ar yr apostolion. Felly hefyd yn y dyddiau hyn—nid yw y Canaaneaid dienwaededig wedi eu hys- gubo yn llwyr o blith Israel, ond yn cael eu goddef i'w profi, i edrych a gadwant hwy fíbrdd yr Arglwydd, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu taclau hwynt, neu beidio, Ond pa ddibrisdod ac anmharch bynag a ddangosir gan ddynion i rasau