Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 187.] CHWEFROR, 1851. [Cyf. XVI. HANES EAMA, LLMDEFEILOG SWYDD GAERFYEDDIN. GAN Y PARCH. DAVID HENRY. Y mae duwiolion yn byw ac yn llafurio yn yr ardal hon er ys ugeiniau o flynydd* oedd gydag achos yr Arglwydd. Nid oedd un sefydliad crefyddol yn yr ardal yn nes nâ Phenygraig, ond yr oedd un gan yr EglwysWladol, a chan y Methodistiaid, yn mhentref y plwyf. Yr oedd pob un o'r lleoedd hyn yn lled bell i wneuthur llawer o ddaioni yn nghanol-barth yr ardal hon. Yn y flwyddyn 1819, penderfynodd jt amryw bobl dda o wahanol enwadauagyfaneddentynyrardal,isefydluysgolSabothol yno. Yr oedd rhai o'r rhai hyn yn perthyn i'r Trochwyr, ac arferent gyrchu i Gaerfyr* ddin i addoli. Ereill a berthynent i'r Annibynwyr, pedwar o'r rhai oeddynt yn aelodau yn Mhenygraig, ac un yn aelod yn Nghapel Sul, Cydweli. Nid ystyrid yr ysgol ganddynt yn perthyn i un eglwys nac un enwad neillduol, ond megys sefydliad cyffredin. Cafodd ei chynal am tua dwy flynedd yn Manygâth, ty un o'r enw David Davies. Nid oedd y gwr hwn, er ei fod yn teimlo dros íes yr ardal, yn proffesu crefydd y pryd hwnw gydag un enwad. Llaesodd y Trochwyr eu dwylaw gyda'r ysgol cyn pen dwy flynedd, a daeth ei gofal yn hollol ar yr Annibynwyr, ac ni fu a wnelsai y Trochwyr â hi yn neillduol byth wedi hyny. Yn mhen dwy flynedd, symudwyd hi er mwyn cyfleusdra, o Fanygâth, i Dredegar, tŷ David Davies, aeíod a diacon yn Nghydweli. Bu yno am tua phum mlynedd, pryd y cynyddodd mewn rhif a llafur, ac y cryfhaodd mewn dylanwad ar yr ardal. Cyrchai ieuenctyd ac ereill iddi yn ffyddlon a chyson, i gael eu haddysgu. Yn mhen oddeutu'r pum mlynedd, symudwyd hi, o herwydd rhyw amgylchiadau teuluol, oddiyno i Bantycwar, tŷ Joseph DanieL, aelod o Benygraig. Yn ystod yr amser y bu yma, bu cryn adfywiad arni. Sefydlwyd ysgol gânu perthynol iddi, ac y mae rhai o'r rhai a fu yno yn dechreu cael hyfforddiant mewn cânu, yn rhai o brif gantorion Deheubarth Cymru yn awr. Dechreuwyd dysgu ac adrodd pynciau, yr hyn fu yn foddion i gylymu meddyliau llawer o'r ieuenctyd â'r ysgol, ac effeithiwyd adfywiad ar grefydd yn yr ardal, ac ymunodd Uawer o'r ardalwyr, o bob oedran a rhyw, â'r eglwys yn Mhenygraig; ac y mae y rhan fwyaf o honynt, er yn wasgaredig mewn gwahanol fanau, yn "glynu yn eu proffes," ac yn "byw yn deilwng i efengyl Crist." Gorfuwyd symud yr ysgol eilwaith o Bantycwar, i Lwyncelyn, tý David Rees, aelod o Benygraig; ond y mae y teulu yn awr yn Rama. Er ei bod fel hyn, megys yr arch gynt, heb dŷ i aros, nid oedd yn colli tir wrth symud o'r naill fan i'r llall. Yn nghylch y pryd hwn y sefydlwyd cyfarfod gweddi wythnosol, i fod bob nos Fawrth, a chyfeillach grefyddol achlysurol, a phregeth yn fisol mewn cysylltiad â hi. Gwanhawyd hi i raddau trwy i gangen o ysgol Sabothol Penygraig i gael ei sefydlu yn nhŷ Thomas Henry o'r Llethri, plwyf Llangendeirn, ac aelod o Beny- graig; ond nid hir iawn y bu dan yr anfantais hon, canys darfu am ysgol y Llethri, o herwydd anffyddlondeb y rhai a benodid i ofalu am dani, a bu hyny yn adgyfnerthiad i ysgol Llwyncelyn. Yr oedd yn awr wedi cynyddu nes nad oedd digon o le iddi, a gwelid yn amlwg fod eisieu lle mwy cyfleus i'w chynal. Bu cryn siarad o bryd i bryd gan eglwys Penygraig, am godi addoldŷ bychan yn yr ardal, ond yr oedd y cyfan yn darfod ar siarad, dim oedd yn cael ei wneuthur. Wedi hir ddysgwyl yn ofer wrth yr eglwys, penderfynodd yr ysgol yn unfrydol yn y flwyddyn 1839, i adeiladu tŷ at eu gwasanaeth, fely byddai lle cyfleusi'wchynal,