Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 186.] IONAWR, 1851. [Cyf. XVI. Y WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH. J. GRIFFITH9, TYDDEWI. Ma. Got.,—Cytunwyd yn ddiweddargan weinidogion Cyf undeb sir Benfro, (yrhan Gymreig o honi,) fod dwy awr o genadledd gan y gweinidogion a'r pregethwyr, er adeiladn a chyfarwyddo eu gilydd, ac ymdrin ft phob achos perthynol yn neillduol iddynt hwy i fod yn mhob Cyfarfod Chwarterol o'r eiddynt. Cytunwyd hefyd fod Traethawd byr ar ryw bwnc perthynasol iddynt hwy, i gael ei ddwyn i mewn a'i ddarllen yn y gynadledd hòno—y pwnc a'rysgrifenydd i gael en penodi yn y gynadledd flaenorol. Yn gyson & hyn penodwyd yn flaenaf, fel pwnc cyffredinol, ar y Weinidogatth. Darllenwyd y Traethawd yn nghynadledd Cyfarfod Chwarterol Felindre ar y 22ain o Hydref, 1850. Tybiodd rhai yno y gallasai daedda er daioni ei gyhoeddi yn y Diwtgiwr. Os bernwch chwithau felly, neu os na wnewch, y mae yn gwbl at eich ewyllys. Deallir mai yr Ysgrifenydd yn unig sydd gyfrifol am yr oll sydd yhddo: ac nid yw gadarn iawn yn ei feddwl ei hun dros bob golygiad a gynwysa. Carai yn fawr weled sylwadau, yn ysbryd yr efengyl, yn cael eu gwnend ar ryw bethaa ynddo, ac yn neülduol hoffai wybod barn rhai o'i frodyr mewn perthynas i'r awdurdod a'r hawl a berthyn i weinidog fel y cyfryw Y mae yn beth o bwys i*w ystyried; da iawn pe byddai yn fwy dealladwy yn gyffredinol, a bod y Gweinidogion a*r Eglwysi yn gyffredinol yn cydolygu yn ei gylch. Tyddewi. --------- J.G. Y mae yn ddiddadl fod pregethu yn un o'r prif foddion a drefnodd Duw, ac a arddelwyd ganddo i gadw pechaduriaid. Nis gall lai gan hyny nâ'i hod o'r pwys mwyaf' fbd y Weinidogaeth yn cael ei dwyn yn mlaen, hyd ag y gellir, yn y modd mwyaf cymhwys—mwyaf tebyg i fod yn effeithiol. Wrth edrych yn ol ar y tri- ugain neu bedwar ugain mlynedd a aethant heibio ar Gymru, a gweled yr effeithiau grymus a gwerthfawr a ddylynasant lafur y tadau parchedig yn yr amser hwnw, y mae genym achos i lawenhau, a bod yn ddiolchgar. O'r tu arall,ni a allwn ganfod nad ydyw y Weinidogaeth yn y bîynyddoedd diweddaraf hyn, wedi bod mor gyffrous a dylanwadol ar feddyliau dynion ag y bu. Gall fod yn fuddiol i ni ym- ofyn yn nghylch yr achos o'r gwahaniaeth. Yr un yw y gwir. Y mae rhifedi y rhai a lafuriant yn y Weinidogaeth yn llawer mwy—eu cyfleusderau i lafurio felly, yn llawer amgenach; a'r rhwystrau, a'r gwrthwynebiadau yn llawer llai nag oedd- ynt yn yr amser hwnw. Diau hefyd am lawer o'r gweinidogion diweddar nad oeddynt yn llai o ran eu galluoedd a'u doniau yn naturiol nâ'r rhai a fuont o'u blaen hwynt; ac yr oedd eu manteision gwybodaeth yn fwy. Nid oes genym le i feddwl ychwaith mai llai yn eu duwioldeb, a'u brwdfrydedd yn achos crefydd oeddynt. Pa fodd, gan hyny, y cyfrifwn am y gwahaniaeth ? Nis gallwn ei briodoli i anmharodrwydd yn Nuw i arddel eu llafur. Byddai hyny yn gabledd. Gellid nodi amryw bethau i gyfrif mewn rhan am hyn. Yr oedd amgylchiadau y bobl yn gyffredin yn yr amser hwnw yn wahanol i'r hyn ydynt yn bresenol. Yr oedd y wlad yn gyffredin yn anwybodus iawn, acyr oedd clywed pregethu gwirion- eddau pwysig yr efengyl yn eu purdeb, mewn modd eglur a difrifol, yn beth new- ydd a dyeithr iddynt. Yr oedd yn naturiol iddynt gael eu cyffroi yn fawr wrth ei glywed. Nid felly y mae yn bresenol: mae pregethu gwirioneddau yr efengy], mewn modd eglur a ffyddlon, yn beth cyffredin y» awr, a dynion wedi cynefino ag ef o'u mabandod. Pan y mae yn effeithio yn gadwedigol ar y meddwl, y mae yn fwy graddoì ac anweledig yn ei ädylanwad. Peth arall a ellir ei nodi: y mae rhif- edi proffeswyr crefydd lawer o weithiau yn lliosocach yn awr nag yn yr amser hwnw: ac mae yn naturiol i ni feddwl fod llawer mwy o rai annheilwng yn eu plith. Ychydig oedd eu rhifedi yr amser hwnw; a'r rhai hyny yn cael eu dirmygu a'u herlid: ond yr oeddynt yn rhai o ymarweddiad santaidd, ac mewn undeb serch, a chydweithrediad ffyddlon. Yr oedd crefydd yn cael ei dangos ganddynt hwy yn ei harddwch gerbron y byd. Yr oeddynt hwy felly yn cynorthwyo dylanwad yr areithfa. Yn y dyddiau presenol, pan mae proffesu crefydd wedi myned yn beth