Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 185.] RHAGFYR, 1850. CCyf. XV. CYFRYNGWRIAETH IESU GRIST. GAN Y PARCH. WILLIAM EVANS, NEUADDLWYD. Y MAE ein Harglwydd ni yn Gyfryngwr neu Ganol-wr rhwng Duw a dynion. Ei waith fel y cyfryw a alwn yn gyfryngwriaeth. Pob enw wrtli yrhwn yr enwir ac yr adweinir ef, pob son am dano, pob darluniad o honó, a phob peth a wneir ganddo, a berthynant yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol i'w gymeriad a'i sefyllfa gyfryngol. Ei adnabod, ei ddeall, ei bregethu, a chredu ynddo, a olygant yr hyn yw fel Cyfryngwr. Yn y cymeriad hwn y mae i ni feddwl am dano bob amser, os meddyliwn i fuddioldeb ; a phob tybiaeth a gauo allan, neu a fyddo anghydweddol à'i gyfryngwriaeth sydd, a dweyd y goreu am dano, ysgymunedig gan air Duw, yn ddianrhydedd i Grist, ac yn sicr o dýnu ar ben y sawl a'i coleddo, ei gyfiawn sor- iant. Diddadl fod yr athrawiaeth hon yn cael ei dysgu yn y Bibl. Yr ydym yn cyfarfod âhi ynddo, nid yn achlysurol a damweiniol, ond fel gwirionedd cyffredina phriodol Dwyfol ddatguddiad. Nid oes ynom y petrusder lleiaf i ddweyd mai datguddio y gwirionedd mawr hwn yn ei amrywiol ganghenau, yw un o'i brif ddy- benion. Ar y golygiad hwn, os cenadwri llyfr Duw yw dweyd am y drefh gyfryngol, rhesymol yw dysgwyl ei fod yn dwyn gydag ef brofion eglur o'r gwirionedd, a bod ei dystiolaethau am Grist y Cyfryngwr, y cyfryw ag na ellir eu camddeall. Y maent felly. Pwy, wedi iddo ymroddi yn ddifrifol, yn ostyngedig, a'i ymgais yn unig am y gwirionedd, i ddarllen, myfyrio, a chwilio, yn fanol a phwyllog, yr ys- grythyrau ysbrydoledig, a ddywed yn gydwybodol a phenderfynol, ei fod yn tnethu cael dim ynddynt am yr athrawiaeth hon ? Er yr amheuir hi gan ddynion a bro- ffesant grediniaeth yn Nwyfoldeb y Bibl, nid yw hyny yn myned un cam i brofi fod yr athrawiaeth yn un amheus, a'r tystiolaethau am dani yn annealladwy; yrt hytrach priodolwn hyny i ryw achos arall. Mwy cyson yw ymwrthod â'r holl lyfr fel un amddifad o bob hawl i Ddwyfoldeb, nâ'i wadu yn ei brif gynwyàad, a thrwy hyny ceisio ei atal i lefaru meddwl ei Awdwr, a chyflawnu ei wir ddybenion. Ý mae o'r pwys mwyaf bod Cristionogion yn deall ac yn credu y cwbl sydd i'w wybod am Awdwr Cristionogaeth, gan ddynion ar y ddaear. Y mae camsyniaeth am Grist, yn golled bersonol. Nid yw fawr gwerth i ddyn addef hyn neu arall am dano, tra yn ei wadu yn ei wir gymeriad—y cymeriad cyffredinol a gwastadol y mae yn ddwyn, ac wrth yr hwn y lleferir yn benaf, os nid bob amser, am dano yn yr ysgrythyrau. Wrth gynyg egluro Cyfryngwriaeth Crist, arweinir ni i ystyried,— 1. Ei osodiad yn Gyfryngwr.—Dyma lle y dylid dechreu, oblegid oddiyma y gwelwn y paham, a'rpafodd o'r cwbl yn nhrefh prynedigaeth y byd. Nid y'm yn cael arddeall am un gosodiad, na threfniad, na chynllun, na bwriad yn flaenorol i hwn; ond y mae pob pethyn cael eu gosod allan yn ganíyniadol, ac wedi eu trefnu i gyfateboli i osodiad Mab Duw yn Gyfryngwr. Y mae ei gyfryngwriaeth ef yn ddyben yn gystal â moddion i gyrhaedd dyben. Un arfaeth Ddwyfol sydd yn ddatguddiedig i ni. Y mae hòno wedi ei "gwneud yn Nghrist cyn seiliad y byd." Y mae perthynas Crist ag arfaeth Duw yn tybied ei gymeriad cyfryngol. Rhaid fody person, yn yr hwn y gwnaeth Duw ei arfaeth, yn Gyfryngwr mewn gosodiad, mewn trefh i wneud y cyfryw arfaeth ynddo, ac i fod yn sylfaen iddi. Oddiwrth yr ystyriaeth hon, rhaid i ni olygu fpd dybenion uwch i'w cyrhaedd drwy y drefn gyfryngol gyda golwg ar y Dwyfol Bersonau, nag sydd gyda golwg ar ddynion. Alpha ac Omega y drefn yw y Duwdod ei hun. 45