Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 183.] HYDRÊFTltìSor^ [Cyf. XV. Y TADAÜ APOSTOLAIDD. GAN Y PARCH. ELIAS JACOB. ABERTAWE. Yn mhlith gwahanol ganghenau gwybodaeth, nid y Ileiaf eì phwys yw Hanesiaeth ; ac o bob hanes nid oes un yn fwy pwysig a pherthynasol nà hanes Iesu Grist a'i apostolion. Mae y dyn sydd yn gyfarwydd mewn hanes, fel pe byddai yn byw yn yr oes, ac yn mysg y bobl ag y mae yr hanes yn cyfeirio atynt; oblegid hyn, cyfeirir at hanes fel un golofn gref er amddiífyn Cristionogaeth. Pan yr edrychom yn ol, aò y taflom ein golwg ar hyd feusydd ëang hanesiaeth, canfyddwn yn dra eglur fod rhy fach o sylw wedi ei roddi i ysgrifeniadau yr awdm-on hyny ag oedd- ent yn byw yn, ac yn fuan ar ol, amser yr apostolion. Nid am fod arnom angen dim ond " gair sicrach y proffwydi, yr hwn da y gwnawn fod yn dàl arno fel ar ganwyll,'' i'n goleuo trwy anialwch ansicrwydd a thywyllwch i diroedd hyfryd gwirionedd a goleuni; eto, gan fod y drefn Gristionogoì yn dàl perthynas mor agos â gweithion yr ysgrifenwyr boreuol hyn, mae yn amlwg fod ymchŵil priodol ì'w ysgrifeniadau o'r pwys mwyaf, ac y dylai fod yn un o brif destunau myfyrdod yr astudiwr Duwinyddol; ac yn fwy felly, o gymaint a bod llawer, yn ein dydd- iau ni, yn cyfeirio atynt fel yn ogyfuwch awdurdod à'r rhai " a lefarasant megys y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glân.'' Cyn y gallom dderbyn eu hysgrifeniad- au gyda gradd o foddlonrwydd, mae yn angenrheidiol meddu rhyw gymaint o wybodaeth am yr ysgrifenwyr eu hunain ; megys, pwy oeddent—pa amser oeddent yn byw—pa fath oedd eu cymeriad—beth oedd barn gwahanol awduron am danynt, ac, o ganlyniad, i ba raddau y gallwn roddi coel i'w hysgrifeniadau. Rhoddwn ychydig o hanes ÿ pump Tad Apostolaidd canlynol: sef, Barnabas, Clement, Hermas, Ignatius, a Pholycarp. Cymerwn olwg arnynt ar wahan, un ac un, gan ddechreu gyda Barnabas. Barnabas oedd Lefiad, genedigol o ynys Cyprus, a bernir ei fod yn un o'r Crist- ionogion hyny a werthasant eu tiroedd" ac a ddygasant yr arian, ac a'u gosodasant wrth draed yrapostolion : Act. 4, 36, 37. Gwedi hyny, efe a bregethodd yrefengjd mewn gwahanol fanau yn nghymdeithas yr apostol Paul, gyda yr hwn y derbyniodd ei ddysgeidiaethwrthdraedGamalieh Act. 15, o6. Pan y daeth Paul i Jerusalem yn mhentairblyneddwedieiddychweliadi'rffyddóristionogol, maeyr hanes yn ein hys- bysu i Barnabas ei ddwyn at yr apostolion ereill. Bu hyn tua'r flwyddyn 37. Nid yw ein gwybodaeth am Barnabas ond tra chyfyng, heblaw yr hyn a ddywedir am dano yn y Testament Newydd. Mae rhai o'r henafiaid yn barnu ei fod yn un o'r deg a thriugain a ddanfonwyd gan ein Hiachawdwr i bregethu yr efengyl yn ngwlad Judea. Mae yn debyg iddo orphen ei yrfa, fel llawero ganlynwyr ffyddlon yr addfwyn Iesu, (yn enwedig yr amser hwnw,) trwy selio ei broffes â'i waed; oblegid dywed- ir iddo gael ei labyddio i farwolaeth yn Salamis,.gan rai o'r Iuddewon o Cyprus, a bod ei gorff wedí ei gael yn y lle hwnw yn amser Zeno; a phan y cafwyd ef yn ei fedd, (yn y flwyddyn A. D. 488,) dywedir fod efengyl Mathew rhwngei ddwyfron, wedi ei ysgrifenu á'i law ei hun yn yr iaith Roeg. Mae y Groegiaid a'r Rhufejn- iaid yn cadw gwyl iddo ar yr lleg o fis Mehefin. Mae un epistol mewn bod ag a briodolir iddo, yii gynwysedig o ddwy ran : y rhan gyntaf a gynwys gyngor i barhau yn y ffydd a phroffes o'rgrefydd Gristionogol; a'r ail a gynwys gyfarwydd- iadau moesol. Cyfeirir at yr epístol hwn gan amryw o'r yagrifenwyr Crisfeionögol: 37 ,