Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 182.] MEDI, 1850. CCyf. XV. Y WEMDOGÂETH EFENGYLAIDD. GAN Y PARCH. M08ES R E E 6, GROE8WEN. " A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn V—Paül. Mae dŷn yn dderbynydd addysg, ac, fel y cyfryw,yn fôd cynhyddol; nid dichonadwy iddo fod, ac aros yr un peth, a'r un faintioli o hyd. Mae pob gweinidogaeth yn dylanwadu ar ei deiliaid: mae Pabyddiaeth yn dylanwadu yn rymus ar y rhai sydd oddifewn cylch ei gweinidogaeth; Mahometaniaeth yr un modd; Iuddew- iaeth yr un modd; Paganiaeth yr un modd; ac felly Cristiaeth yr un modd. Mae pawb ag sydd yn byw yn ngwlad yr efengyl mewn oedran a synwyr, yn an- ocheladwy waeth neu well—caletach neu dynerach—cyndynach neu ufyddacb-— dallach neu oleuach—nesach Tfarwolaeth neu i fywyd, fel y maent yn cynyddu mewn oedran, &c. Hyn a feddyliai'r apostol wrth ddywedyd, "I'rnaill yrydym" yn ein gweinidogaetb, " yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ae i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd." Edrychai yr apostol ar swydd gweinidogaeth o'r fath ddylanwad, yn oruchel a phwysig iawn: " A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Wrth ypethau hyn y meddylir, pethau y Weinidogaeth Efengylaidd—holl olud a chyfoeth y weinidog- aeth—ei hathrawiaethau a'i hordinhadau—ei haddewidion a'i bygythion—y wy- bodaeth a'r synwyr mawr—yr ysbryd a'r dymher Gristionogol—y gwroldeb a'r gonestrwydd meddwl—y fuchedd a'r rhodiad santaidd, ynghyd â'r ífyddlondeb a'r diwydrwydd gwastadol a ofynir yn y rhai a gymerant am danynt wisgoedd y Weinidogaeth. Edrychai yr apostol arno ei hun, a'i holl frodyr, yn hollol annigonol at waith y Weinidogaeth, heb gynorthwyon a chyfarwyddiadau Dwyfol. Nid oes ddyn nac angel, ynddynt eu hunain, yn ddigonol. Pwysigrwydd gwaith y Ẅeinidogaeth yw prif bwnc y testun, a thyma y pwnc yr ymdrechwn ninau ymdrin yn awr. Yn gyntaf,—Ni a ddangoswn natur y Weinidogaeth Efengyiaidd. Mae hi—- 1. Yn Ddwyfol a grasol. Datguddiad a chyhoeddiad o ras a thrugaredd Duw i fyd colledig ydyw, heb un teilyngdod na haeddiant. Mae'n dangos golud gras Duw yn wyneb Iesu Grist—yn anog pawb i geisio a derbyn gras er eu holl annheilyngdod—yn dangos y medr Duw gyfranu gras i bechadur brwnt, heb ddiwyno ei wisgoedd, na duo ei gymeriad ei hun mewn un modd, ac yn cyfarwyddo ac yn argymhell holl ddeiliaidgrasi'w ganmol a'i gorombyth. Mae tystiolaethau pendant yr ysgrythyrau, Bhuf. 1, 1; 15, 16; 2 Cor. 2, 17; Gal. 1, 7—12 ; ystyr- iaethau mai am Dduw y llefara yn benaf, ac mai efe gaiff y gogoniant byth oddi- wrthi; ynghyd â'r gwrthdarawiad naturiol sydd ynddi i ansawdd calonau dynion, &c, yn brofion cedyrn o Ddwyfoldeb y Weinidogaeth. Mae hj yn rhy lân i ddyfod o un man ond oddiwrth Dduw. 2. Yn gynwysfawr a chyflawn. Cynwysa y pethau mwyaf pwysig. Drych ydyw i ganfod y Duwdod yn yr oll o hono, ei bersonau, ei briodoliaethau naturio! a moesol, ei ragluniaethau doethion, ei arfaethau, a'i fwriadau grasol. Yma y'n harweinir i galon y Duwdod, yr hon sydd yn llawn gras a thrugaredd. Drych ydyw hefyd i ddyn ganfod ei hun—yn natur ac ansawdd ei gyfansoddiad—yn ngogoniant a harddwch ei ddelw wreiddiol—yn ei gyflwr a'i sefyllfa ddirywiedig— yn ei gyflwr fel carcharor gobeithiol, a deiliad gras—ei rwymau tuag at yy 33