Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 180.] GORPHENAF, 1850. [Cyf. XV. Y GORPHENIAD AR Y GROES. GAN Y PARCH. J. D. W4LLIAM9, PENYBONT-AR-OGWY. Fel y mae yn y byd gyfnodau y rhai sydd yn sugndynu yn agos yr holl helaethder o sylw a delir i'w amgylchiadau, felly y mae yn mywyd pob dyn sydd wedi cyrhaedd graddau anghyíFredin o enwogrwydd ynddo, ac wedi dylanwadu yn bwysig ar ei hanesyddiaeth, ryw gyfnodau neillduol y sylldremir mwy arnynt oll, ac ypen derfynir mwy oddiwrthynt mewn cysylltiad ag egwyddorion llywyddol y cymeriad, nâ'r gyfanda o fywyd ar wahan oddiwrthynt. Nid yw y cyfnodau hyn yn cymeryd lle yr un amser yn mywyd pawb—llywodraethir hwynt gan amgylchiadau— weithiau cymerant le pan byddo y Uygaid yn dechreu ymagor ar y byd, y galluoedd meddyliol yn dechreu ymddadblygu, a chylchoedd pwysig gweithgarwch yn dechreu dyfod i'r golwg; weithiau pan byddo tymor hirfaith o'r oes wedi myned heibio, gorchestion hynodol wedi eu gwneud, a chryn helaethder o enwogrwydd wedi ei gyrhaedd; ac weithiau pan byddo terfyn yr yrfa yn dynesu, y cyfansoddiad yn dadfeilio, a'r cysylltiadau pwysicaf â'r byd yn dechreu ymddatod. Ffurfir hwynt gan amlygiadau neillduol o ryw egwyddorion tufewnol, gan benderfyniad ang- hyfnewidiol o ryw dynged bwysig, neu gan eífeithiad uniongyrchol o ryw orchestion allanol y parha eu dylanwad cyhyd ag oesau y ddaear. Dichon nad ydyw eu parhad ond am ychydig amser, ychydig fisoedd, ychydig wythnosau, ychydig ddiwrnodau, neu ychydig oriau; eto, ni choffheir byth am yr enw, ac nid adolygir byth y cymeriad heb fod y meddwl yn cael ei arwain braidd, yn anymwybodol, at y cyfnodau hyn. Ond yn mysg y gwahanol gyfnodau yma, mae yn bosibl bod un yn boddi dysgleirdeb, yn dileu hynodrwydd, ac yn cymylu rhagoroldeb y lleill i gyd. Hwn ydyw y prif fan ddewisir i edrych ar y dyn. Syllir gyda manylder arno yn y cyfnod hwn, ac ymofynir gydag awyddfryä am y dull yr ymddygwyd, yr egwyddorion a amlygwyd, yr ysbryd a ddangoswyd, a'r geiriau a lefarwyd ynddo. Y person uchaf ei enwogrwydd, a helaethaf ei ddylanwad a fu yn ein byd ni erioed ydoedd Mab Duw. Teimla y Cristion hyfrydwch a mwyniant wrth edrych ar holl gyfnodau ei fywyd ef: gyda hoffder neillduol y meddylia am «i enedigaeth, ei fedydd gan Ioan, ei demtasiwn yn yr anialwch, a gwahanol adegau ei weinidog- aeth gyhoeddus; gyda'r teimladau dwysaf y gwna ei ganlyn i lawr i'r bedd, yr edrych ar ei adgyfodiad buddygoliaethus ar íbreu'r trydydd dydd, ac a sylldrema ar ei esgyniad gogoneddus i ddeheulaw'r Tad, a'r tywysogaethau a'r awdurdodau wedi eu darostwng iddo; ond y prif fan yr ymhyfryda i edrych ar Grist ydyw, ar {/roes Calfariafryn. Dyma y fan y teimla ei feddwl yn hoeliedig, ei ofnau yn encilio, a'i enaid yn ymddedwyddu. Gyda melusder annesgrifiadwy y try ei olwg o bob man at Grist ar y groes. Y groes ydyw cartrefle ei feddwl, sylfaen ei obeithion anwylaf, ffynonell ei gysuron penaf, a chanolbwynt ei serchiadau grym- usaf. Gydag helaethder o ddigrifwch a chynesrwydd calon y myfyria ar eiriau byth-gofus Crist ar y groes. Nid oedd y rhai hyn ond ychydig mewn rhifedi, ond y maent cyn heddyw wedi gýru miloedd o galonau ar dân. Ni ddywed yr Efengylwyr wrthym ond am wyth:—" O Dad, maddeu iddynt; canys ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur." " Heddyw y byddi gyda mi yn mharadwys." " 0 wraig, wele dy fab," ac wrth Ioan, " wele dy fam." " Fy Nuw, fy Nuw, 25