Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWtt. Rhif. 179.] MEHEFIN, 1850. / [Cyf. XV. YR EGLWYSI ANNIBYNÖL YN LLANELLI. "bendith fo ab, ben y bwch." Mae yn debygol iawn i'r tân sydd yn awr yn cyneu ar allorau y cysegr yn y naill fan a'r llall yn y lle poblogaidd hwn, gael ei enyn i gychwyn yn nghalon yr haeddbarch a'r anfarwol Rees Pritchai'd, fìcer Llanymddyfri; a dywedir i ystyr- iaeth gael ei ddeíFroi ynddo ef gan ei fwch gafr, yr hwn a ddangosodd ei hun yn gallach nà'i feistr. Cymerodd y ficer y bwch, yr hwn oedd yn arfer ei ddylyn, i'r dafarn Ue yr elai i yfed, a meddwodd ef, a bu yn ei feddwdod o ddifyrwch mawr i'r ofTeiriad ac i'w gwmni; ond er pob ymdrech gomeddodd y bwch yn lân yfed dim yr ail waith. Teimlodd Mr. Pritchard y cerydd hwn oddiwrth greadur afres- ymol iddo ef, yr hwn oedd wedi meddwi lawer gwaith, ac yfed wedihyny, a throdd allan o'r dafarn i beidio dychwelyd mwy. Yr oedd Rees Pritchard yn enedigol o Lanymddyfri, a magwyd ef yn nghoegni ac annuwioldeb yr oes; ond codid ef i'r Eglwys; treuliodd tua phum mlynedd yn Rhydychain, a daeth allan yn offeiriad. Urddwyd ef gan Dr. Rudd, esgob Tyddewi, yr hwn hefyd a roddodd iddo fìceriaeth ei dref enedigol; ac yn mhen ychydig rhoddodd y brenin Siarls I. bersoniaeth Llanedi iddo. Nid oes sicrwydd yn nghylch yr amser a dreuliodd yn Llanedi; ond oddiwrth ei dduwioldeb mawr, ei lafur caled, ei sêl danbeidiol dros y gwirion- edd, a'i gysylltiad eglwysig â'r plwyf hwn, nis gellir llai nâ chredu iddo wneud ymroadau i ddeffroi y gymydogaeth, a llwyddo i enyn tân crefyddol yn mynwesau rhai, nes iddynt gael e\x llanw o deimlad o herwydd amlhad anwiredd. Bu farw y ficer yn y flwyddyn 1644. Oddeutu yr amser hwn yr oedd y Senedd o'rnaill du, a'r brenin a'r offeiriaid o'r tu arall, mewn ymdrechion blin a gwaedlyd am yr oruchafiaeth. Y brenin a'r offeiriaid óeddynt dros drefn Eglwys Lloegr yn ym- ddangosiadol, ond yn Babyddol hollol yn eu syniadau a'u teimladau. Y Senedd oedd benboeth o Henaduriaethol, ac ni oddefasid dim ond Presbyteriaeth ganddi. Wedi iddi gael yr oruchafiaeth ar ei gwrthwynebwyr yn nienyddiad Siarls I., Ion. 30, 1649, dilewyd y drefn Esgobawl trwy y deyrnas yn ffafr yr un Henaduriaethol, a neillduwyd dynion ieuainc duwiol a doniol yn lle yr offeiriaid a dröwyd allan o'r Çwahanol fywioliaethau; ond hyd oni chododd Cromwell nid oedd dim rhyddid. r oedd yn rhaid iddynt fod yn Bresbyteraidd eu daliadau, yn ddynion da, ac yn llawn o dân nefolaidd; a riodid teithwyr i fyned o le i le i buro yr eglwysi, y rhai a geisiasant gynorthwy y dynion duwiolaf yn y Dywysogaeth, megys Walter Cradoc, a rhai o'r fath. Tröwyd allan luaws, a gosodwyd dynion da yn eu lle yn y cymydogaethau hyn. Un Meredith Davies, gwr llawn o'r Ysbryd Glân, a osod- "wyd yn Llanon; Marmaduke Mathews yn Abertawe; a Stephen Hughes yn Meidrim. Yr oedd y dynion da hyn yn amser y Senedd hir, ac yn adeg y werin- lywodraeth, yn mhell o gyfyngu eu ìlafur i'w heglwysi plwyfol, elent ar draws y wlad, a phregethent yn mhob man y cawsent genad. Gweinyddent yr ordin- hadau mewn tai anedd; ac mae pob tebygolrwydd fod y brodyr hyn, yn eu teithiau, wedi dyfod o hyd i ryw wrychion ar ol yr hen Ficer o Lanymddyfri yn ardal Llanedi, Llanon, a Llandilo-fach, ac iddynt eu crynhoi a'u chwythu yn fflam. Ymddengys mai Stephen Hughes o Feidrim, a sefydlodd yr eglwys sydd yn awr yn Tynewydd, Llanedi, yn y flwyddyn 1650, mewn tŷ fferm a elwir y Wernwhith, ar y cynllun Presbyteraidd, gan na oddefid dim y pryd hwnw ond.Presbyteriaeth; *22