Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 178.] MAI, 1850. [Cyf. XV. LUTHER A'l AMSERAU." GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, IEÜ., BETHEL. Prin y rhaid i ni grybwyll fod Luther yn un o'r dynion hynotaf a ymddangosodd mewn un oes o'r byd. Bu yn achos offerynol i ddwyn oddiamgylch un o'r chwyl- droadau pwysicaf a gymerodd le yn mhlith plant dynion erioed. Pan feddyliom am ëangder ei wybodaeth—dysgleirdeb ei dalentau—mawredd ei sêl a'i wroldeb, i chwalu a dryllio noddfeydd twyll a chelwydd—ynghyd â'r cyfanswm aruthrol o lafur ag yr aeth efe drwyddo yn ei ymgeisiadau i ddwyn i oleuni, ac amddiffyn, a lledaenu y "gwirionedd fel y mae yn yr Iesu," nis gallwn lai nag anwylu llythyr- enau ei enw, a theimlo y parch dyfnaf tuag at ei goffadwriaeth. Diau y darllenir hanes dyddorawl, ac y mawrygir cymeriad goruchel "y mynach unigol a ysgydwodd y byd," gan y rhai a garant y gwirionedd, a hyny gyda y teimladau mwyaf brwd- frydig, yn mhen mil o íiynyddoedd. Dylai y rhai a ewyllysiant weled Luther yn ei lawn ogoniant, fynu gweled a darllen "D''Aubignè's History of theReformatiori" —un o'r gweithydd mwyaf gorchestol o'i l'ath, y mae yn debyg, a gyhoeddwyd erioed. Yn yr ysgrif ganlynol, ni bydd modd genym i alw sylw ond yn unig atrai o brif helyntion a dygwyddiadau ei fywyd llafurus. Fel yr elom yn mlaen, daw i'r golwg ardderchawgrwydd ei gymeriad, ynghyd à nodweddiad yr amserau yn y rhai y gweithredai ac y llafuriai efe. Dechreuwn gyda thaflu golwg ar agwedd foesol a chrefyddol y rhan hòno ©'r byd, a ystyrid yn Gristionogol, oddeutu amser genedigaeth Luther. Yr oedd y llygredigaethau a ffynai, drwy holl deyrnasoedd cred, yn ddychrynllyd. Ymbalfalai y bobloedd mewn tywyílwch mawr—eisteddent yn mro a chysgod angeu. Nid oedd Cristionogaeth yn hanfodt yn mhlith dynion, mwyach, ond mewn enw yn unig. Yr ydoedd y Bibl Avedi cael ei droi o'r neilldu, ac nid ystyrid ef, weithian, fel cyfeirlyfr iachawdwriaeth. Cymerasid lle efengyl bur ein Harglwydd. Iesu Grist, gan draddodiadau ynfyd a niweidiol, a dysgid gorchymynion dynion yn ddysgeidiaeth. Arwtinid y cenedloedd i ddysgwyl bywyd tragwyddol, nid trwy ras Duw a haeddiant angeu Calfaria, ond drwy gyflawnu gweithredoedd da, a chydymffurfio â nifer o seremoniau gweigion. Mýnai dynion lenwi y nefoedd â seintiau, gwaith a dyledswydd y rhai ydoedd eiriol "dros y troseddwyr." Dywed mynach o'r enw Myconius, yr hwn hefyd a fu yn gydweithiwr â Luther, fod dy- oddefiadau a haeddedigaethau marwolaeth yr Arglwydd Iesu Grist yn cael edrych amynt, y pryd hwnw, fel hanes diwerth, neu fel ffug-chwedlau Homer. Ni fedd- ylid am ffydd, drwy yr hon y cyfiawnheir pechadur gerbron Duw. Edrychid ar Grist, yr hwn a ddaethai "i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid," fel barnwr creulawn, yn eistedd ar orsedd fawr y nef, ac yn barod i ddamnio pawb oll o'r rhai na alwent am eiriolaeth y saint, ac na thalent i'r oíîeiriaid pabaidd am lythyrau goddefiad neu faddeuant (induUjences). Yr ydoedd cymaint, yn mron, o íeoedd cysegredig, i bererinion i gyrchu iddynt, ag ydoedd o fforestau, dyffrynoedd, a mynyddau. Ond gallesid osgoi y penydiau hyn, a'r cyffelyb, drwy gyfranu arian. Yn ganlyfaol dygai y bobl, i'r mynachlogydd ac at yr offeiriaid, anrhegion o arian, ac asgelliaid, a phob peth ag y rhoddid pris arno. Dodid esgyrn, breichiau, a thraed mewn blychau o aur ac o arian, y ìhai a gusenid gan y ffyddloniaid, ac yr ydoedd hyn hefyd yn ffynonell o elw. Nid ydoedd yr esgobion mwyach yn pregethu, ond elent oddiamgylch i gysegru clychau, offieiriaid, mynachod, a phethau cyffelfb. 18