Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 177.] EBRILL, 1850. [Cyf. XV. ANMHOSIBLRWYDD BOD YN GADWEDIG HEB BROFFESU CRIST. GAN Y PAE.CH. ELLIS HÜGHES, PENMAIN, SWYDD FYNWY. " Pwy bynag a'm cyffeso i yn ngwydd dynion, minau a'i cyffesaf yntau yn ngwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. A phwy bynag a'm gwado i yn ngwydd dynion, minau a'i gwadaf yntau yn agwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd:" Mat. 10, 32, 33. Dyn ydyw y creadur pwysicaf yn yr holl fyd, oblegid dyn ydyw y creadur uwchaf yn y byd, a'r unig greadur perthynol i'r byd hwn sydd â chylch ei berthynasau yn cyrhaedd y tuhwnt i gylch bodoliaeth y byd hwn. Mae dyn yn greadur ac y mae perthynas rhyngddo â byd arall, â byd tragwyddol, â bodau ac amgylchiadau fydd mewn bodoliaeth a gweithrediad pan fyddo holl amgylchiadau y byd hwn wedi terfynu am byth, a dim o honynt yn bodoli ond mewn hanesiaeth yn unig. Nid yw cylch perthynas creaduriaid ereill y byd yn cyrhaedd ond am amser byr, ac yna maent hwy yn darfod, a'u holl amgylchiadau yn terfynu am byth; ond mae perth- ynas ac amgylchiadau dyn, pob dyn, yn estyn yn mlaen tu draw i amser i drag- wyddoldeb diddiwedd; ac â'r byd tragwyddol y mae perthynas bwysicaf dynion yn bod. Pa beth fyddwn yn y byd tragwyddol o ran ein cyflwr, ein sefyllfa, a'n hamgylchiadau, ydyw y cwestiwn pwysicaf a berthyn i ni. Nid ydyw o ryw gy- maint pwys beth fydd ein sefyllfaoedd a'n hamgylchiadau yn y byd hwn—tlawd neu gyfoethog, claf neu iach, &c.; ond beth fyddwn yn y byd nesaf, sydd yn an- nhraethadwy ac anamgyffredadwy bwysig. Profir hyn yn amlwg oddiwrth barhad ein bodoliaeth yn y ddau fyd: yn y byd hwn am dymor byr, ond yn y byd nesaf am byth—gwahaniaeth ein hamgylchiadau yn y ddau fyd: yma cymysg ded- wyddwch a gofid, yno perffeithrwydd dedwyddwcíi, neu eithafion poen a thrueni —gwahaniaeth ein galluoedd i fwynhau neu ddyoddefyn y ddau fyd: yma nis gallwn gynal fawr iawn o laẅenydd na ymddryllia ein llestr, nac ymgynal o dan fawr iawn o boen na suddwn i'r llawr; ond yn y byd arall byddwn gadarn i ddal tragwyddol bwys gogoniant, neu ynte yn arswydlawn alluog i ddyoddef tragwyddol bwys damnedigaeth. Profir hyn eto oddiwrth drefn ryfedd ac aûfeidrol ogoneddus Duw i roddi i ni iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol. Meddyliodd y Duw an- feidrol ddaionus feddyliau o hedd am danom, ac yn ein hisel radd cofiodd ni, o herwydd fod ei drugaredd yn parhau yn dragywydd; ac o'i anfeidrol ddoethineb a'i ras fe drefnodd gyfundrefn i ni gael bywyd tragwyddol trwyddi; a dyma y drefh:—Yr oedd anwyl Fab Duw ei hun, yn erbyn yr hwn y troseddasom, i adael mynwes ei Dad, a holl ogoniant y nef—-cymeryd ein natur ni—dyfod i'n byd ni— dyfod i'n deddfle ni—marw yn aberth dros ein pechodau ni—myned i'r bedd— adgyfodi—esgyn i ogoniant—eiriol trosom—rhoddi ei air a gweinidogaeth y cy- mod—anfon ei Ysbryd—i ninau edifarhau am ein pechodau—reu gadael—credu yn Nghrist fel Gwaredwr—a gwneud proffes gyhoeddus o hono yn y byd; neu, yn ymadrodd y testun, ei gyffesu ef yn ngwydd dynion. Dygiad yn mlaen a pher- ffeithiad y drefn fydd ein cwbl santeiddiad ni, a'n cwbl ryddhad ni oddiwrth halogrwydd,euogrwydd,a chosbedigaethpechod—adgyfodiad gogoneddusein cyrff y dydd diweddaf, a'n dygiad, gyrff ac eneidiau, i fwynhad o ogoniant perffaith, anfeidrol, a thragwyddol nef y nef. Mae'r drefn fawr fel un gadwyn ogoneddus, a phob modrwy ynddi yn gydiol yn eu gilydd, yn anmhosibl ei thòri; a'r naill ddolen mor hanfodol er ein hiachawdwriaëth â'r llall, a'r cwbl yn hanfodol gyda'u gilydd. Yn awr, dyma gadwyn ein bywyd,—y Tad yn caru, ac yn rhoi ei Fab—y 14