Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWH. Rhif. 176.] MAWRTH, 1850. [Cyf. XV. CERDD0R1AETH EGLWYSIG. GAN T PARCH. JOHN MORGAN THOMA8, CAEREFRÖG NEWYDD. Prif ddyben Cerddoriaeth yw cyfleu meddyliau a chynyrchu teimladau. Rhaid i'r swn gyd-daxo âT synwyr, a rhaid i'r dôn fod yn gyfrwng cynghaneddol i dros- glwyddo goleu a gwres. Y mae cyflead llawn a chywir o feddwl a theimlad yn fwy pwysig o lawer mewn Cerddoriaeth nâ chadwraeth ramadegol yr acen a'r gynghanedd, &c. Rhaid i gelfyddyd fod yn llaw-forwyn i natur mewn Cerddor- iaeth. Caiff celfyddyd wneud y dillad, ond gofaler fod corff ac enaid dan y dillad, ac nid swp o wellt. Caiff celfyddyd gadw yr allweddau i agor dorau anian, a gollwng yr ymofynydd i mewn; ond ychydig sydd yn cymeryd y draul o agor dorau anian, myned i mewn i'w hystafelloedd, ac efelychu ei phrydferthwch á'ì mhawredd cynhenid hi. Gwell gan lawer rodio ar y palmant gyda y lluaws, ac ymdrechu difyru y dorf arwynebol, nâ mynychu rhodfeydd Duw. Mae rhai yn dywedyd fod yr hen alawon Cymreig yn rhy drwsgl a mynyddig i gael eu defnyddio genym ni sydd wedi ein gwareiddio, ein dysgyblu, a'n coethi i gymaint graddau. Ond a chaniatau eu bod felly, nid ydynt ond efelychu natur yn hyn. Gwir fod gan natur ei gerddi blodeuog, a'i dyffrynoedd gwastadfaith; ond y mae mor wired â hyny fod ganddi ei mhynyddoedd cribog a'i chreigiau daneddog; ac os efelychu anian yn un peth, dylid ei hefelychu yn mhob peth. Y mae athrylith naturiol a gwreiddiol yn hanfodol angenrheidiol i ddyn er cyf- ansoddi Cerddoriaeth effeithiol. Rhaid fod ganddo lygad i weled anian, calon i deimlo anian, a gwroldeb a phenderfyniad i fyned ar ol anian. Rhaid cael meddwl i effeithio ar feddwl, teimlad i effeithio ar deimlad, a natur i effeithio ar natur, yn y gyfundraeth dan sylw. Rhaid i'r cerddor ddeall y ffordd i fwrw allan feddyliau a theimladau drwy nodau ac arwyddion. Nid digon iddo dantio brawddegau cerddorol ynghyd er iddynt fod yn gelfydd; ond rhaid iddo ymroddi gydag ysbrydoliaeth ein natur, a rhoddi ei feddwl a'i gaíon i lefaru. Y mae enaid at Gerddoriaeth yn fwy pwysig o lawer nâ llais at Gerddoriaeth. Yr oedd un gweinidog yn Scotland yn cael ei ystyried yn fwy pregethwr nâ'r cyffredin. Caf- odd gweinidog arall gyfleusdra i fyned i wrando arno yn pregethu; ac ar ol iddo ddychwelyd, gofynodd cyfaill iddo, pa beth a feddyliai am y bregeth a'r pregethwr mawr? "Ẅel," medd yntau, "yr oedd y bregeth wedi cael ei mheddwl yn, dda, ei threfnu yn dda, ac yn cael ei dweyd yn dda ; ond gan na rodd- odd y pregethwr ei gaíon yn y bregeth, fe fethodd yn hollol a rhoddi y bregeth yn fy nghalon i." Felly hefyd y mae Uawer o dônau yr oes,—y maent wedi eu trefnu yn gywrain, ac yn cael eu cânu yn gywir yn aml; ond gan na roddodd y cyfansoddwr ei galon yn y cyfansoddiad, y mae yn anmhosibl gwthio y cyfansoddiad i galonau y bobl. Gall yr arddull fod yn goethedig, y symudiadau yn ystwyth, yr acen yn esmwyth, a'r gynghanedd yn felus, ac heb fod yma yn y diwedd ddim ond "efydd yn seinio a symbal yn tincian." Ië, gellir dweyd wrth glywed y fath dônau yn cael eu canu yn y modd mwyaf cywrain,— " Swn a gwynt yw'r cwbl sy'n gwau." Mae yn bosibl i wneud picture yn fwy prydferth i'r olwg nâ natur ei hun; ond heb fywyd ynddo, pa beth a dâl efe ? Y mae baban byw >m well nâ delw gawraidd. 10