GS HANESION. trwy bob cylchdaith lle mae dynion, yn berwi o anfoddlonrwydd, ac yn plcidio y gweinidogion a ysgymunwyd yr haf diweddaf. Mae y gweinidogion yn meddwl y gallant wneud heb, ac yn erbyn y bobl; ond y mae y supplies yn cael eu hatal, fel y mae 23. yr wythnos wedi dynu lawr areu cyflogau eisioes. F Soulh Wales.—Mae pob arwyddion yn awr y daw y reilffordd hon mor bell a Chaer- fyrddin yn ddioed; a phe byddai gan y cwmnifodd, elent â hi i'rpen pellaf. Hyder- wn na fydd i berchen tiroedd i ddangos cy- maint o grafanc a diffaithder ag & wnaethant. Nid oedd yr ymdriniaeth fu ihwng y cwmni â'r dosbarth hwn â mawr duedd i godi Cymru. Meth-dalwyr.—Maeeffeithiau dymunol rhydd- fasnachaidd i'w weled yn eglur yn lleihad rhifedi y meth-dalwyr. Yn Rhag. 1848, nid llai nâ 95 ; yn Rhag. diweddaf, nid oedd mwy nâ 45. Â¥ Suintiau Diweddaf.—Cafwyd pedwar o'r rhai hyn yn pysgota, mewn ffordd anghyfreith- lon, yn Anamon. Cymerodd tri o honynt y traed: ond daliwyd y llall, a dirwywyd ef o 20s. y dydd canlynol. Peryglus i'r pysgod y w Saint yn pysgota, gan y'geill y naill orchyrayn i'r llall fwrw y rhwyd am yrholl bysgod yn yr afon—mae y Saint yn gwneud gwyrthiau. Bargen dda.—Prynwyd y gwely ar yr hwn y llofruddiodd Sarah Thomas ei mheistres, yn Trenchard-street, Bryste, am 2s. 6c; ond caf- odd y prynwr £700 wedi eu gwnio ynddo. Y Gymdeithas Genadol.—Derbyniodd Cym, deithas Genadol Llundain £2,000, trwy law y Parch. James Sherman, oddiwrth gyfaill an- adnabyddus. Ci drud.—Saethodd helfll-geidwad Cgame- heeper) gi cymydog yn yr Alban, a chafodd y perchenog £50 o iawn-obrwy, trwy ddedryd mewn llys eyfraith. Ergyd go ddrud oeddhwn. Llong-foriaelh.—Yn y Cainewydd, swydd Ceredigion, Medi ]2fed, 1849, trosglwyddwyd y schooner a elwir Cerelic, i'w helfenbriodol, yn cario 150 tuuell, dan Jywyddiaeth y Cadben Thomas Jones, Purlip. Cafodd eihadeilada yn thip yard Mr. Thomas Davies. Hon ydoedd y cyntaf iddo adeiladu, a bernir ei bod yn hynod obrydferth. Medi26ain,trosglwyddwyd i'w helfen briodol, y schooner Maria, 120 o dunelli, i fod dan lywyddiaeth Cadben Lewis Davies. Cafodd ei hadeiladn yn ship yard Mr. Thomas Daries a'i fab, Hefyd, Tach. y 13eg, y schooner Ann & Mary, yn cario 100 tunell, i fod dan lywyddiaeth Cadben D. Davias. Cafodd hon ei hadeiladu yn ship yard Mr. Thomas Daries, Traeth Gwyn, o'r lle hwn. Rhagfyr y 31ain, trosglwyddwyd y schooner Rivival i'w helfen briodol, yn oario 260 o dunelli, dan Jywyddiaeth Cadben Evan Phillips. Cafodd hon ei hedeiladu yn ship yard Mr. Thomas James, Caibach, yn agos i'r un lle. Dechreu- asant cu taith forwriaethol oll yn nghanol cannoedd o floeddiadau, a Ilawer o edryehwyr. Gobeithio y bydd gwenau Rhagluniaeth arnynt, a phawb o'u mewn yn ofni Duw ac yn ym- ddiried ynddo. Ioan Glan-y-Mob. Â¥ Saint.—Bu rhyw dwrw mawr yn nghyfar- fod y saint yma dydd Saboth diweddaf,(Ion. 27). . yn ol fel yr adroddai un o honynt ag oedd yno. Daeth Dic yno, ac ymaflodd yn un o honynt, ond ni chlywsom pa ua ai sant neu santes. a gwasgodd ef neu hi nes oedd fel ystyllen; ac oni buasai fod David Williams, a brawd arall yno, yn medru coleru yr hen lanc, mae yn debyg y buasai yn myned ymaith yn glwt ag un neu ychwaneg o'r frawdoliaeth hon, os nad aethai â phen y tÅ· yn y fargen. Paham mae Dic mor hoff o gyfarfod y saint? A ydyw ef yn teimlo fod rhai o honynt yn gwneud dipyn yn rhy ëon ar ei fawrhydi, a ddywed ef, " Yr Iesu a adwaen, a Phaul a adwaen, ond pwy ydych chwi." Nid pell, debygem, yw Eva*o'i le. Beth yw seintiau crefydd Mormon? Oni'd cwter chwydfa'r byd, Toraen scybion yr eglwysi, Gwartheg culion Phar'o 'nghyd ; Melldith teulu, p!à cym'dogaeth, Llwyth yn rhegu llwythau Duw, Gweision enllib, deistiaid diras, Us cymdeithas, pryfed byw. Chwain pigfeinion, cle.rach llwydion, Ffryndiau calon sugno gwa'd; Cwn yn cyfarth dyn y lleuad, Mwrddwyr cariad, llun eu tad; Cwm'ni llymrig/orÃre celwyddau, Gwybed annwn dimai'r chwart, Clwb y cacwn, fifair gwehilion, Siop ynfydion—dyna $mart, O'rdrefdraw. Eyan. ATEBIAD I WEDDI DDYCHRYN- LLYD. Yn Friar's Fielcl, Casnewydd, boreu Sa- both, Ionawr 13eg, oddeutu 10 o'r gloch, daeth un ddynes, o'r enw Sarah Morgan, allan oddiwrth ei tbeulu à 'i baban ar ei breichiau. Nid hir y bu cyn iddi ddech- reu cweryla ag un o'i chymydogesau am ryw drosedd a wnaeth yn ei herbyn. Pan yn nghanol ei nhwydau annuwiol, dymunodd ar i'r Arglwydd Hollalluog ei tharo yn fyddar ac yn fud, os na wnelai ymddial ar ei chymydoges mewn canlyn- iad i ail drosedd o'r cyrîelyb ; ond gyda fod y geiriau wedi dyfod allan dros ei gwefusau, diffrwythodd ei holl aelodau, a syrthiodd ei baban a hithau i'r llawr, nes creu arswyd a dychryn ar bawb o'r edrychwyr. Cludwyd ei chorff i'w thỳ at ei gwr a'i chwech plentyn; ond ni chafwyd yr arwydd leiaf ei bod yn gwel- ed, clywed, na theimlo. Yr oedd yn yr ymdrech mwyaf yn tynu ei hanadl, yr hyn oedd yn gwneud yr olwg arni yn arswydus iawn. Cafodd y weddi ofn- adwy hon ei hateb, oblegid ni ynganodd air byth mwyach ; ond cafodd ei gỳru ymaith gyda'r drygionus, oddeutu un o'r gloch boreu dydd Mercher, Ionawr 16eg. Cymered pawb rybydd oddiwrth yr am- gylchiad dychrynllyd uchod. Deffroed yr anystyriol; mae Duw yn gwrando gweddiau. Pill. Dewi. Argraffwyd gan Bees a Williams, Llanelli.