Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 175.] CHWEFROR, 1850. [Cyf. XV. YSBRYDOLRWYDD DUW. GAN Y PARCH. JOHN DAVIE3, LLANELLI, BRYCHEINIOG. Duw ydyw y Bôd uchaf, o herwydd ei fod yn bodoli o hono, ac yn ymddibynu arno ei hun, ac yn Awdwr a Chynhaliwr pob bòd arall. Efe ydyw Tad tragywydd- oldeb, Llcdydd y neíbedd a'i Hestynydd, Creawdwr holl gyrau y ddaear, a'r rhai sydd bell ar y môr : ac felly rhaid'mai y wybodaeth am Dduw ydyw y wybodaeth benaf a mwyaf goruchel o holl wybodaethau y bydoedd. Ni buasai meddwl i gasglu, dirnad, a dosbarthu gwybodaeth, na gwrthddrych iddo wybod dim am dano, oni buasai i Dduw weled yn dda orchymyn hyny. Ac amlygiad o'i ewyllys, ei ddoethineb, a'i allu, neu, ynte, o'i uniondeb, ei ben-arglwyddiaeth, a'i ras ef, ydyw pob bôd a fedd ar fedr í wybod, a phob peth y gwyddis, neu y deuir 1 wybod dim am dano. Efe ydyw "Tad yr ysbrydoedd," a ffynonell galluoedd meddyliol bodolaeth oll. Os tremia dyn neu angel i'r nefoedd uwchben, canfydda y bydoedd mewn cylch a chydgord, yn cysegru yr ëangder, yn un an- nherfynol barth, i ddawnsio yn ddiddiwedd arno dôn o ogoniant i'r Duw a'u creodd. Nid yw y ffurfafen ond llian mwy a meinach na fedd lluniedyddion daear, wedi ei ledu yn ddigon uchel i fod yn weladwy o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd der- fynau eithaf y byd, yn dangos y bysedd a'r dwylaw a roddodd iddi fod. Pan yr ymegyr y wawr ac yr ymddengys y dydd, bydd mor fyw ac awyddus i ymadroddi am Dduw, â phe buasai wedi bod yn cylchynu ei orsedd ar hyd ystrydoedd tragy- wyddoldeb, oddiar pan gauodd y gorllewin yr hwyr o'r blaen. Hithau y nos â'i gwisg ddu am dani, ac ar ei phen goron o fwy na deuddeg seren, a ddengys, yn nghanol tywyllwch, wybodaeth o hono Ef. Gellir ysgrifenu uwchben holl wrth- ddrychau gwybodaeth, Nid oes yma ond tŷ i Dduw, a thyma borth i'r nefoedd; ei dragywyddol allu ef a'i Dduwdod sydd amlycaf yn mhob man. Felly rhaid mai amcan Ior, ydoedd dangos ei hun yn a thrwy bob peth, ac mai dyben creu medd- yliau ydoedd eu cael i synied am, a rhyfeddu Duw yn ei holl weithredoedd. Ond rhag i un meddwl ffurfio golygiadau anghywir am dano, rhoddir ar lawr dri gosod- iad pendant, yn wirioneddau disigl am y Bôd Dwyfol, yn y Testament Newydd. Y cyntaf yn dal cysylltiad â'i amgyffrediaeth a'i wybodaeth, lle y dywedir, "Goleuni yw Duw." Yr ail yn perthyn i'w gymeriad moesol—"Duw, cariad yw." A'r trydydd yn eglurhad o natur ei hanfod—"Duw, ysbryd yw." Gan yr ymrana bodolaeth i ddau ddosbarth—meddwl a matcr, neu ysbryd a defnydd, a chan fod y ddau ddosbarth yma, er yn fynych mewn cysylltiad agos â'u gilydd, eto yn hollol wahanol eu nhatur y naill oddiwrth y llall, gŵelodd yr An- feidrol ei hunan yn addas a da, i amlygu mewn tri gair i ba un o'r ddau ddosbarth y perthyna Efe. Duw, ysbryd yw. Mae yn wir mai Efe a wnaeth fater, ac iddo ei wneud i fod yn gof-golofn o'i dragywyddol allu a'i Dduwdod, ac i fod yn bres- wylfod a gweithdy i fodau a dderbyniasant, yn eu creadigaeth, íun a delw y Duw a'u gwnaeth; eto ni chyfranodd i ádefnydd 'mo'i natur ei hun, ac ni pherthfha i'whanfodEfondysbrydpur. v "' Mae ein gwybodaeth ni am ysbryd a defnydd yn fyr a chyfyng; mae yn y ddau bethau rhy ryfedd i ni—uchel ydynt, nis medrwn oddiwrthynt; ond diamheuol y gwyddom gymaint am feddwl ag a wyddom am fater, äc y cyfreithlona ein gwybodaeth ni, er cyfynged ydyw, pan yn eu rhanu i ddosbarthiadau gwahanol. Ni fedd <lefnydd ar weithrediadauíaieddwl, na meddwl ar briodoleddau arbenigol * 6 *