Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWft. Rhif. 174.] IONAWR, 1850. [Cyf. XV. GAIR AT EIN DERBYNWYR. Hybarch Gyfeillion,—Yr ydym weithiau yn anfon anerch fel hwn atoch ar ddechreu y flwyddyn, ac weithiau ni wnawn; pan wnelom, mae rhyw amgylch- iadau heblaw ein cacoethes ysgrifawl yn ein hannog i hyn, ac yr ydym yn cael boneddwr, o ben Caergybi i Gaerdydd, wedi eu trefnu yn y naiil ffordd neu y liall o'n blaen; ac er ein bod yn g\ ffredin yn lled ddiawydd i wrando clec ddisynwyr, addefwn ein bod bob blwyddyn yn dysgwyl clywed beth ddywedir am y Cyhoedd- iadau a olygwn, a chan bwy y dywedir. Mae llawer iawn o ryw fàn siarad mewn llawer ardal, a chan lawer math o ddynion, yr hwn ä drosglwyddir i'r Dosbarthwr, a chan y Dosbarthwr i'r Ymwelydd, sydd yn hynod ddifyrus ac adeiladol wrth eu gosod at eu gilydd. Weithiau deallwn fod ein teilyngdod Golygyddol yn desíun dadl boeth, pryd y dygir ein holl rinweddau allan yn fanteisiol, ac y rhesir ein beiau er ein diraddio. Eleni, fel arferol, ceir rhai, fel y deallwn, yn gwaeddi am Draethodau gorchestol a champus, ac na roddant ddim am Gyhoeddiad heb bethau gorchestol. Ar sodlau y rhai hyn, ac hyd yn nod yn eu clyw, dywed ereill, Eisieu ychwaneg o hanesion tramoraidd a chartrefol y sydd, mae genym ddigon o draethodau duwinyddol. Ysgwyd y trydydd ei ben yn arwyddol ac ystyrfawr iawn, gan ddywedyd fod y tônau yn druenus, ac y byddai yn well eu gadael allan, os na ellir diwygio; ac nid yw y Beirdd yn Uai eu grwgnach; a cheir ambell i ün yn ddigon gonest, wedi haeru nad yw y* Cyhoeddiad yn werth brwynen grin, i estyn allan y droed fforchog i esbonio ei holl ddirmyg,—"Anfonais I ddernyn godidog, ond ni chlywais aír o son am dano; nid oes ond pleidgarweh yn dal y Cyhoeddiad ynghyd; ni bydd dim a wnelwyf à'r Diwygiwr mwyach—dyna i chwi." A mỳn rhai i'r Diwygiwr fod fel duw y Lacedemoniaid, yn ol eu mhympwy a'u nhwyth hwy; os bydd ganddynt gyfaill ac eisieu ei godi am eu bod hwy yn dewis ei anrhydeddu gerbron y cyhoedd, ac os bydd eisieu ceibio rhywun i lawr fyddo yn wir anrhydeddus, mŷnir i'r Diwygiwr'fod yn drosglwyddydd eu mholawdneu euhenllibau; acos na ymostwngi'w gwasanaethu,ni arbedir un drafferth i'w ddrygu à chelwyddau ac â geiriau cas. Er symleda hunanoled yw llawer iawn o'r glec a glywn, gosodwn y cyfan yn ein calon, meddyliwn yn ol llaw am danynt, ac ymofynwn a allasem wneyd ŷchwaneg i foddloni pawb heb aberthu y lles cyffredin. Teimlwn fod cysur a chalondid Golygydd i raddau helaeth yn troi ar y boddlon- rwydd a rydd i'r ran fwyaf meddylgar a choeth o'r lluaws a wasanaetha. A dymunol iawn yw gauddo, os na fydd rhyw beth yn grwca a drygnawsol yn ei gyf- ansoddiad, i alìu cadw pawb yn ddiddig, os geill wneyd hyny heb ddigio Duw &'i gydwybod. Nis gallwn gelu y ffaith oddiwrthym ein hunain, ac ni ddymunem ei chelu oddiwrth ereill, fod cymeradwyaeth gytfredinol yn hynod gydunol â'n harchwaeth, pan allom ei chyrhaedd yn nghwmni uniondeb a gwirionedd. Da genym glywed hen wragedd yn cymeradwyo a chanmol y Diwygiwr; ond nis gwnaethomyn fynych—y cyhoedd yn dystion—fynedyn mheilallan o'r fforddi hela cymeradwyaeth, nac i ysgoi anghymeradwyaeth; ond ymdrechasom, ac ymdrechwn ' :î " * " '" ' ' ''', fddair byth-gofus hwnw, a mwyaf." Wrth y seren ieuengach nag yw yn awr, ac nid ydym ar feddwl ymadael â hi pan mae y íarn gyhoedd wedi dyogelu ei lwyddiant ac ategu ei gymeriad. Nid ydym heb ofni weithiau fod ein dull o