Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 173.] RHAGFYR, 1849. [Cyf. XIV. Y GYMDEITHAS MOS DDIWYGIAD YN Y TRETIII A'R TOLLAU. Y TRETHI. Y >íae y sefyllfa gyfyng mae y wlad wedi cael ei dwyn iddi, drwy gamddefnyddio yr arian a godir gan y llywodraeth drwy drethi a thollau o bob math, wedi peri i Gymdcithas dros Ddiwygiad yn y pethau hyn gael ei sefydlu yn ddiweddar. Bwriadwn alw sylw ein darllenwyr o fis i fis at y pethau y traethir arnynt gan y Gymdcithas hon; cymerir y defnyddiau o draethodau y Gymdeithas ei hun. Dechreuwn gyda swm y trethi a godir, ac ar ba bethau ymaent wedi cael eu gosod. Nid all y Gymdeithas í'yned i'r pwnc o drethiad anuniongyrchol ar drafnidaeth y wlad, yn enwedig ar lafur y dosbarth gwfeithiol. Gofynai hyny gacl traethawä gwahanol helaeth ar bob treth ar ei phen ei hun, megys y gwelir drwy amryw ìyfrynau a gyhoeddwyd o bryd i bryd, a thrwy yr amryw gymdeithasau a ffurfiwyd er eglurhau a cheisio lleihau y trcthi ar y flenestri, y tollau ar y brag, y tybaco, y tea, y gwin, &c, &c. Y mae y Gymdeithas, gan hyny,tra ycyfeiria yn achlysurol, mewn sylwadau cyffredinol, at effeithiau niweidiol y trefniant, yn fwy awyddus i osod yn eglur o flaen y wlad yr effaith ar gyflwr naturiol a chymdeithasol corff y bobl, yn fwyaf enwedigol ar y dosbeirth diwyd a gweithgar, gan eu bod yn credu mai holiad mawr y dydd ydyw, "Pa fodd y mae cyfodi y bobl i gysur naturiol ac i uchder moesol ?" Nid ydyw y Gymdeithas yn petruso ateb—Drwy gyfnewidiad trwyadl yn y modd o osod trethi. Y mae dynión, o dan y trefniant presenol, yn talu trethi am gael cenad i fyw—nid yn unig er amddiffyn eu heiddo, eu rhyddid, a'u personau, ond mewn gwirionedd àm fywyd ei hunan; gan, os gwrthodant, neu os byddant yn analluog i dalu, y gosb yw marwolaeth, neu ymlusgo byw ar elusen y wlad mewn sefydliadau cyhoeddus, rywbeth yn debyg yn eu llywodraeth i'n carcharau, ac yn eu hymborth hyd yn nod yn is, gan argraffu ar dylodi y gwarth a ddylai yn unig fod ar drosedd. byi byniwyd gan swvddogacthau o draul, heblaw a ddaeth drwy ganiatad y Senedd, neu o'r syllt-dŷ (No. 98, Session 1848), oeddynt £1,100,000, y cwbl yn £59,538,000. Cyfranodd y tollau, sef y customs a'r excise, £37,290,000 o'r swm uchod. Gan fod y swm yma yn dreth uniongyrchol ar nwyddau o farsiandiaeth a masnach, y mae yn rhan gyfansoddol o'r gost gyntaf ar y nwyddau hyny i'r masnachwr, yr hwn sy raid iddo ddodi cymaint o ennill ar y rhan h'bn o'u cost ag ar y pris gwreiddiol byr, neu bondedprice, yr hwn ennill sydd yn rhedeg drwy y nifer o werthwyr, drwy ddwylaw y rhai y bydd y nwyddau yn pasio oddiwrth y llaw gyntaf neu y llaw-weithiwr, fel y dygwyddo y peth fod, i'r prynwr, yr hyn a ellir ei gyfrif, megya y profwyd gerbron dirprwywyr y Senedd, yn 25 yn y cant, gan yehwanegu at y swm wreiddiol, can belled ag y mae a wnelo talwr y dreth, yn £9,324,000; yn gwneyd y cyfanswm o dreth a dalwyd gan y wlad yn y flwyddyn yn diweddu lonawr 5, 1847, yn £68,862,000. Ý mae y swm anferth yma dros £5,738,000 bob mis ar gyfartaledd—swm sydd yn fwy nag a alwyd erioed gan y reilffyrdd mewn un flwyddyn ar gyfartaledd, i'rìiyn y priodolir y fath effeithiau niweidiol ar ein trefniant arianol, trafnidiol,a chymdéithasol. Os ydyw yr holl effeithiau dinystriol i'w priodoli yn g^'fiawn i'r galwädau am arian o'r reil"ffvrdd, awgryma y Gymdeithas 46