Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 172.] TACHWEDD, 1849. [Cyf. XIV. RHAGORIAETH GONESTRWYDD. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, TREDEGAR. Mab y byd hwn yn gynwysedig o wahanol elfenau, a'r elfenau hyny yn hollol wrth- darawiadol, sef da a drwg, aflendid a santeiddrwydd, rhinwedd a chas, gwirionedd a thwyll. Pe buasai ein byd yn hollol ddigymysg, buasai yn berffaith ddedwydd, neu ya hollol druenus ; pe na buasai dim ond peehod a drygioni yn y byd, buasai yn gwbl druenus a thlawd; ond o herwydd cael ynddo beth'daioni, mae ýma ychydig o gysur a dedwyddwch yn cael ei fwynhau; ac o'r tu arall, pe na buasai dim ond rhinwedd a chrefydd yn y byd, sef elfenau purdeb a santeiddrwydd, buasem yn berfFaith ddedwydd, a buasai y ddaear yn baradwys, ac yn drigle heddwch a moliant. Ond y mae y byd hwn yn gynwysedig o dda a drwg : yma y mae pechod yn teyrn- asu, ac yma hefyd y teyrnasa gras a rhinwedd—y mae un yn teyrnasu i fywyd, a'r llali i farwolaeth—y mae gras yn teyrnasu i fywyd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a phechod yn teyrnasu i farwolaeth—y mae un yn achos o bob llawenydd, dedwydd- wch, a thangnefedd, a'r llall yn ffynonell pob gofid a thrueni. Y mae yr olaf yn wreiddyn pob annhrefn, terfysg, a gwae ; a'r cyntaf yn cynyrchu effeithiau cwbl wahanol, sef heddwch, trefn, a phob peth sydd yn ddymunol: mae yn cynyrchu heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tònau y môr ; o ganlyniad, y mae y cyntaf yn rhagori ar y äiweddaf; ac nid oes angen am lygad craffus, a meddwl treiddgar iawn i weled y rhagoriaeth hwn, gan fod y gwahaniaeth mor fawr. Ein gwaith ni yn awr fydd dangos rhagoriaeth un o'r elfenau sydd yn perthyn i'r cyntaf ar yr olaf, sef Èhagoriaeth gonestrwydd ar gyfrwysder. Mae y gair gonestrwỳdd yn arwyddo ac yn cynwys uniondeb egwyddor, ymarferiad, a dyben. Mae y gair a gyfieithir yn onest- rwydd yn y Testament Newydd, yn dynodi y gwrthwyneb i bob peth gwael ac anenwog mewn pob masnach, a phob ymddygiad o eiddo dynion tuag at eu gilydd: sef bod yn barchus o bawb, ac ymddwyn yn hollol ddidwyll. Mae yr apostol yn gosod gonest- rwydd yn mhlith y rhinweddau uwchaf, sef heddwch a duwioldeb : " Fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd." Yma y cysylltir ef â duwioldeb; nis gellir bod yn dduwiol heb fod yn onest. Mae y gair cyfrwysder yn cael ei arfer mewn dau ystyr, sef mewn ystyr da a drwg. Mewn ystyr da y mae yn arwyddo callineb i drin yr hyn sydd gyfreithlon a buddiol; yn yr ystyr hwn y mae yn ganmoladwy, o ganlyniad, yn cael ei orchymyn gan Grist: " Byddwch chwithau gall fei y seirph, a diniwed fel y colomenod." Yn yr ystyr hwn arferir ef yn groes i anystyriaeth, diofalwch, a ffolineb. Mewn ystyr drwg, dynoda ystryw neu ddichell i drin yr hyn sydd niweidiol a drwg ; ac yn yr ystyr yma y rnae yn bechadurus a dieflig ; arferir ef yn yr ystyr hwn gan elynion Crist, pan y dywedir, " Ac efe a ddeallodd eu cyfrwysdra hwy." Fel hyn y mae yn hollol wrth-darawiadol i symlrwydd, eglurder, a diragrithrwydd, ac yn agos yr un ystyr â thwyll, sef dichell, ffug, rhagrith, arffugiad, ymddangosiad croes i'r gwirionedd gerbron dynion gyda bwriad i dwyllo—arwydd, a rhagrith-orchuddiad, sef gosod llèn, neu orchudd, ar ygwirionedd—annuwioldeb o dan orchudd crefydd—celwydd yn cael ei ddangos fel gwirionedd—halogrwydd yn cael ei osod allan mewn gwisg o santeiddrwydd, a gelyn- iaeth yn nillad cariad; hyn yw rhagrith a thwyll, ac nid yw cyfrwysder yn fawr gwell. Ni chawn, yn bresenol, sylwi ar gyfncysder yn ei ystyr oreu, nac, efallai, yn hollol yn ei ystyr waethaf, ond yn unig dangos rhagoriaeth gonestrwydd ar gyfrwys- der, hyd yn nod pan arferir ef fel buddioldeb (expediency), i gadw ac amddiffyn ein hunain, yn lle dyfod alian i bleidio yr hyn sydd iawn a chywir, er i hyny fod yn an- fantais bersonol i ni. 42