Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 171.] HYDREF, 1849. [Cyf. XIV. ANGELION. GAN Y PARCH. JOHN GRIFFITHS, TREFGARN. " Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth." Fe renir y greadigaeth i weledig ac anweledig: y greadigaeth weledig sydd yn ganfyddadwy trwy synwyrau y corff, yr anweledig trwy ymwybodolrwydd y medd- wl. Y mae yspienddrychau wedi eu dyfeisio i ddadlenu llawer o drysorau y greadigaeth weledig; y mae Bibl wedi ei roddi i ddatguddio i ni rai o drysorau -y. byd anweledig: yn mhlith y rhai hyn y mae yr angelion; o ganlyniad gair Duw yw y maes i gasglu gwybodaeth o honynt. Er fod y ddwy greadigaeth yn wahanol iawn i'w gilydd, eto yr un Awdwr sydd iddynt—" Canys trwyddo ef y crewyd pob dim, yn weledig ac anweledig." Eu hcnwau.—Yn gyffredin gelwir hwy yn angelion. Ystyr y gair yw cenadau, gweision, neu negeswyr. Y mae yr enwau yma wedi cael eu rhoddi iddynt oddi- wrth eu gwaith, nid oddiwrth eu nhatur. Meddylia rhai mai yr angelion sydd yn cael eu galw yn feibion I)uw yn Job 38, 7: " Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear—pan gydganodd sêr y boreu, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw." Mae ereill yn barnu, meddyliaf yn fwy priodol, mai ymadrodd prydyddol yw hwn, a ddefnyddir i osod allan y sêr a'r planedau, a'r holl fodau wybrenawl, yn ngorwych- der eu gogoniant ar foreuddydd creadigaeth. Yn yr wythfed Salm y mae yr enw a gyfieithir Duw (Elohim) yn cael ei ddarllen angelion: "CanyB gwnaethost ef ychydig is nà'r angelion." Dylasid ei gyfieithu, yn ol yr Hebraeg, 'ychydig is nâ Duw.' Meddylir, oddiwrth Col. 1, 10, fod gwahanol raddau o urddasolrwydd yn eu plith—fod thronau, arglwyddiaethau, a thywysogaethau yn y byd anweledig yn gystal â'r byd gweledig. Hefyd, gelwir dosbarth o honynt cherubim, neu y rhai gwybodus, a dosbarth arall scraphim, neu y rhai tanllyd. Heblaw hyn, ceir enwau priodol rhai o honynt, Gabriel (Dan. 8, 16; 9, 21); ac yn llyfrau Iuddewig, Raphael ac Uriel, Jeremiel a Sealthiel. Sonir am un yn fwy neillduol nâ'r lleill, Michael yr arch-angel: Judas 9. Yr unig le arall y cawn hanes am arch-angel yw 1 Thes. 4, 16. Er fod enw Michael yn cael ei roddi amrywiol weithiau (Dan. 12, 1; Dat. 12, 7), ymddengys, ar yr olwg flaenaf, fod yr arch-angel (nis gellir pender- fynu fod mwy nag un, er fod hen draddodiad yn rhifo saith) uwchlaw yr angelion ereill mewn urddasolrwydd, a bod ganddo, i ryw gymaint, mwy neu lai, awdurdod drostynt hwy. Y mae y person goruchel hwn uwchlaw Gabriel, _ oblegid y mae Gabriel yn myned ato i ymofyn cynorthwy, ac yn tystiolaethu mai efe yw ei unig amddiffynwr: Dan. 10,13,21, "Ond wele Michael, un o'r tywysogion penaf, a ddaeth i'm cynorthwyo—Ac nid oes un yn ymegnio gyda mi yn hyn ond Michael eich tywysog chwi." Yn y Thessaloniaid darllenir, "Oblegid yr Argìwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â llef yr arch-angel, ac ag udgorn Duw: a'r meirw yn Nghrist a gyfodir yn gyntaf." Sylwer mai llef yr arch-angel ag udgorn Duw sydd yn cyfodi y meirw. Ceir gweled pwy ydyw yr arch-angel yn Ioan 5, 28, 29, " Na ryfeddwch am hyn: canys y mae yr awr yn dyfod yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferỳ*dd ef," &c. O ganlyniad, wrth Michael yn yr Hen Destament, yr arch-angel, a Michael yr arch-angel, a Michael a'i aDgelion, y deallaf yr Arglwydd lesu Grist. Y mae y geiriau gwreiddiol, a gyfieithir angelion,