Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 170.] MEDI, 1849. [Cyf. XIV. PECHODAU Y TAFOD. GAN Y PARCH. DANIEL EVANS, CASTELLNEDD. "Dywedais (medd Dafydd), cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â'm tafod ; cadwaf ffrwyn yn fy ngenau tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg." " Dywedais, cadwaf fy ffyrdd." Mae*-eisieu arnom gymeryd gofal yn nghylch pa beth fyddom yn gredu a pha ffordd y, byddom yn rhodio, pa beth fyddom yn wrando a pha fodd y byddom yn siarad. Mae rhai yn meddwi llawér am eu credo, ond nesaf peth i ddim am eu ffyrdd; y gwr fyddo yn ddibwys o'i ffyrdd a fydd marw. Yr oedd Dafydd yn gweddio am gael ei gynal yn ffordd yr Argl- wydd; ond y mae geiriau y testun yn dangos ei fod yn cydnabod nad oedd gweddio ddim yn ddigon, heb fod y rhodiad yn gyfatebol. Rhaid gwylio yn gystal â gweddio ; mae yn rhaid i ni gadw ein hunain os ydym am i Dduw ein cadw: " Cadwaf fy ffyrdd." Mae byw yn santaidd yn ddyledswydd yn gystal ag yn fraint; os ydym am gadw rhag syrthio i bechod, gwyíiwn ar ein rnodiad—" Y doeth (medd Solomon) sydd â'i lygaid yn ei ben." " Cadwaf fy ffyrdd," o. herwydd y mae ereill yn edrych ar fy ffyrdd; yr ydwyf yn cael fy amgylchu gan gwmwl mawr 0 dystion o bob math—mae y byd yn edrych arnaf, mae yr angylion yn edrych arnaf, ac mae Duw a'i lygaid tanllyd yn edrych arnaf; heblaw hyny, mae amser yn darfod, mae angau gerllaw, mae y farn ar bwys, ac mae tragywyddoldeb yn yr yml/ " Cadwaf fy ffyrdd," o herwyad fel y byddo fy ffyrdd y bydd /y niwedd, fel y byddwyf byw y byddaf farw. , " Rhag pechu â'm tafod." Mae ffyrdd fy nhafod yn eiddo i mi, yn gystal â ffyrdd fy nhraed. Nid oes un ran o ddyn yn fwy pwysig nâ'r tafod; mae llawer iawn yn ymddibynu ar y santeiddrwydd neu yr halogrwydd o hono, gyda golwg arnom ein hunain ac ereill. Defnyddiwn ef yn iawn, fe fydd yn anrhydedd i ni, caiff Duw ogoniant, a dynipn les oddiwrtho; cam-ddefnyddiwn ef, bydä yn warth i ni, à bydd yn felldith i ereill: gwasgerir pentewynion tanllyd, saethau, a marw- olaeth i blith ereill o'n cwmpas, ac ar yr un pryd darostyngwn ein hunaín i ddys- gwyliad dychrynllyd am farn. Mae bywyd ac angau megys yn meddiant y tafod; yr hwn sydd drofaus yn ei dafod a syrth i ddrwg. Yn gymaint a bod y tafod, yn 01 tystiolaeth Iago, yn ddrwg anllywodraethus, yn llawn gwenwyn marwol, gwelwn y priodoldeb o osod atalfa arno; " o herwydd os yw neb yn eich mysg yn cymeryd arno fod yn grefyddol heb atal eí dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw cref- ydd hwnw." Doeth iawn oedd pendeffyniad y Salmydd, " Dywedais, cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â'm tafod." # Sylwaf, yn gyntaf, ar rai o lawer o bechodau y tafod. Gofynwyd i un unwaith, pa beth oedd y gwaethaf a'r goreu mewn dyn. Atebodd yntau, mai y tafod oedd ygwaethaf, os na byddai yn cael ei lÿwodraethu; ond os yn cael ei lywodraethu yn dda, mai y tafod oedd y goreu ; os y tafod yn ddrwg, mae y genau yn fedd agored, yn brawf fod y dyn wedi colli ei le, a myned yn anfuddiol. Mae Iago yn dweyd fod y tafod wedi ei wneuthur yn ffìam gan- uffern, na ddichon un dyn ei ddofi. Ni fydd neb yn rhyfeddu fod yr apostoi yn dweyd felly am dano, ond iddo sylwi unwaith ar y ffrydiau chwerẃon sydd yn dylifo oddiwrtho, o herwydd y drygionus a " olymasant eu tafodaufel sarff, gwenwyn äisp sydd dan eu gwefusau," Sal. 140,3.