Skip to main content

Y DIWYGIWB. Rhif. 167.] MEHEFIN, 1849. [Cyf. XIV. LLENYDDIAETH BRESENOL CYMEU. GAN Y PÂRCH. NOAH STEPHENS, SIRHOWY. Dylai dwy egwyddor hen derfynu graddau ein sylw o bethau—pwysigrwydd han- fodol pethau, a'u perthynas neillduol à ni. Y mae rhai pethau o bwys cyffredinol a naturiol, pan y niae pethau ereill o bwys a dyddordeb arbenigol a pherthynasol. Mae gosodiadau ac egwyddorion duwinyddiaeth o bwys hanfodol i'r duwinydd fel dyn, ac o bwys arbcnigol a pherthynasol iddo fel duwinydd. Hawlia gweddillion hynafiaethol sylw dynion yn gyfl'redinol, ond y maent yn teilyngu sylw yr hanesydd yn ncilldtiol. Mae y ddwy egwyddor yn cyd-gyfarfod yn y testun sydd dan ein sylw, ac fel canlyniad hawlia ein sylwmewn modd deublyg. Mae teilyngdod han- íbdol yn perthyn i lenyddiaeth, o herwydd paham y mae yn gofyn ein sylw fel dynion; ond mac y testun hwn yn haeddu ein parch fel Cymry yn gystal ag fel dynion. Ei feddwl yw yr eiddo gwerthfawrocaf sydd gan ddyn. Gall fod gan y pendefig helaethder o feddianau : nwyrach fod ganddo balasau ysblenydd a thỳrau mawreddog—llenyrch paradwysaidd a choedwigoedd cauad-frig—bryniau uchel a bröydd breision ; er hyn oll, gellir dywedyd yn ddigon dibetrus, mai ei feddwl yw ei eiddo penaf. Yn annibynol ar feddwl, buasai dernyn o'r ddaear cymesur â'i gorff yn. gydwerth ag yntau. Ei feddwl sydd yn ei gymhwyso i berchenogi ci etifeddiaeth ; ar wahan â'i feddwl nis gellid penderfynu pa un ai yr anifail ai yntau biau y llall; y meddwl sydd yn penderfynu hawliau y berchenogaeth. Yn mhellach, cynyrch ci í'eddwl yw y cynyrch rhagoraf ail dyn ddwyn allan. Nid yw Uenyddiaeth ddim amgen nâ ffrwyth meddyliau—cynyrch meddyliau wedi ei ddwyn i'r farchnad; yn ganlynol, y mae y gosodiad yn deg ac anwadadwy, Fod llenyddiaeth yn bwysig, ac yn hawíio sylw. Mac yn ffaith amlwg fod cyrff dynion yn amrywio : un sydd à chorff eiddil a gwan, ond y mae gan y lla.ll gorff cawraidd a nerthol. Yr un modd hefyd y mae gwahaniaeth rhwng meddyliau a'u gilydd: meddwl un sydd wan ac anianol, a meddwl y llall yn gryf ac angylaidd. Naturiol ydyw fod gwahaniaeth liefyd rhwng cynyrch meddyliau mor wahanol; ac nid yn unig y mae gwahaniaeth rhwng cynyrch gwahanol feddyliau, ond y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng yr un meddyliau ar wahanol amserau. Onid ydym yn ymwybodol fod ein meddyliau, weithiau, fel cerbydau Pharaoh, yn ymsymud yn hwyrdrwm, tra y maent brydiau ereill yn ysgogi yn fwy ystwyth a hwylus ? ac nid neillduolrwydd perthynol i ni yn unig yw hwn: oblegid, y mae yn ddywediad diarebol, " Fod lîomer yn hepian weitbiau." Nid yw yn ormod dywedyd, fod pob un sydd yn dewis rhoi cyhoeddus- rwydd i ffrwyth ei feddwl, yn dethol y goreuon i'r wasg; ac fel rheol gyffredin gellir sicrhau, mai cynyrchion mwyaf detholedig y meddyliau mwyaf toreithiog sydd yn gwneyd i fynu yr hyn a elwir genym yn llenyddiaeth. Mae yn eithaf amlwg, ynte, fod digon o deilyngdod naturiol, uniongyrchol, ac hanfodol, mcwn llenyddiaeth i hawlio sylw pawb. Os addeíir fod llenyddiaeth, yn gyffredinol, yn annibynol ar wledydd, ac yn ddiystyr o genedlaetb.au, yn teilyngu ein sylw, díau yr ymddengys, ar unwaith, fod llenyddiaeth Cymru felly i ni yn neillduoí. Mae yn eithaf dichonadwy fod llenyddiaeth Lloegr, yf Amerig, a'r Almaen, yn gofyn ein sylw blaenaf, ar dir teilyngdod naturiol, ond y mae perthynas }n hanfodi rhyngom â llenyddiaeth Cymru, yr hon nis gall fodoli rhyngom ni ag un wlad arall 'dan haul. Mae swyn yn y geiriau, "Cymry, Cymro, Cymraeg." Mae pob cyfnod o hanes llenyddiaeth Gymreig yn ddyddorol dros ben ; ond yr ydym ni wedi ein cysylltu â llinynau tynach, ac â rhwymau sicrach wrth yr oes ydym yn 22