Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Rhif. 166.]____________MAI, 1849. [Cyf. XIV. DIFFYGÎON CREFYDD YR OES. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, HIRWAUN. 1. Fodynddifwy o gelfyddyd nago anian.—Yr hyn wyf yn feddwl wrth anian mewn crefydd ydy w, fod y galon wecli ei chyflawn berehenogi gan grefydd, a bod tueddiadau a theimladau duwiol yn llywodraethu arni yn barhaus, fel y bydd yn hawdd darllen anian fewnol y galon ar yr ymarweddiad oddiallan. Goddefer i mi gymeryd y crefyddwr cyntaf a dỳnodd fy sylw yn enghraifft o grefydd mewn anian/ Pan yn blentyn cefais fy synu wrth edrych ar wr ieuanc crefyddol yn darllen yn y Testament Newydd (Ioan 19), gwelwn ei íygaid, fel llygaid Jeremiah, yn ffynonau dagrau, ao ambêll ddeigryn mwy a chyflymach nâ'r lJeiil yn disgyn ar ei Destament, ac ar yr un pryd canfyddwn wên hawddgar ar ei wefusau. Bu ymholi plentynaidd ynof beth allasai hyny fod, ond gadewais hyny, fel llawer o bethau ereill, heb ei ddeall y pryd hwnw. Cefais yr un olygfa wrth erchwyn ei wely; droion ereiil gwelwn ef yn parotoi i fyned i gyfarfod á'i gyfeillion, y rhai oedd yn myned i gadw cwrdd gweddi oddeutu pedair milldir o ffordd ar ol gweithio yn galed y diwmod hwnw. A chredaf na bu cryfach blys yn neb erioed i fyned i'r daplas neu y chwareu-dý, neu ryw rialtwch pechadurus arall, nag oedd arno ef i fyned i'r cwrdd gweddi, yr ysgol ddarllen,* y gyfeillach grefyddol, neu i wrando pregeth; yr oedd yn amlwg i bob llygad agored íôd ei anian yn ngwaith yr Arglwydd. Addefaf, yn hawdd, lod mwy o anian nag o gelfyddyd yn y crefyddwyr cyntaf yr wyf fì yn gotìo, oblegid yr oedd gwybodaeth grefyddol yn dra isel, yr ysgol Sabothol yn ei mhabandod mewn ainryw fanau, y cànu "mawl yn hynod o afreolaidd, ac yn lled gyffelyb oedd y gweddio a'r pregethu; ond erbyn heddyw mae y cànu mawl wedi ei ddwyn o fewn trefn—yr ysgol Sabothol yn athrofa enwog i gyfranu gwybodaeth ysgrythyrol yn gystal ag i'ddysgu darllen—mae y pregethu a'r gweddio mewn dillad diwygiedig. Mae teulu yr hen drefn wedi ein gadael bron i gyd ; buont hwy dipyn o rwystr i ni ddyfod â'n gwelliantau i weithrediad mor fuan ag y carasem; ond darfyddwn gwyno, yr ydym wedi cael y chwareu-fwrdd i ni ein hunain yn awr, a gwelaf greíÿdd gelfyddydol yn chwareu yn enwog arno, ac yn ol fy marn i, mae llawer o grefydd yr anian yn gweithio mewn cysylltiad à hi, ond nid ydyw mor eglur ac effeithiol ag y dylai fod, ac y rhaid iddi fod cyn y darostyngir y byd i Grist. Dealler nad í'y amcan yw beio rheol a threfn mewn creíÿdd, oblegid gorchymyna y Bibl i ni wneyd "pob peth yn weddaidd ac mewn trefn." Er hyny, credwyf nad ydyw y trefiiiadau amgen moddion i gyrhaedd amcan. Mae trefn ar weddio yn brydferth, ond cydnabod Duw a chael trugaredd ganddo yw y prif ddyben. Mae trefn ar gânu mawl yn dda, ond moli Duw yw yr amcan mawr; ac os hwn yw y dyben mawr, mae genyf air at y cànwyr, yn neillduol y rhai a flaenorant y cânu diwygiedig,— 1. Dysgwch lai o rif o dônau. 2. Dysgwch dôn neu ddwy ar bob mesur sydd yn ein Îlyfrau hymnau. 3. Ymarferwch â'u cânu nes delo y gynulleidfa yn gyfar- wydd â hwy. 4. Gadewch i'ch meddwl gymdeithasu â'r hymnau yn fwy nag â'r tônau. Cofiwch mai pethau yr hymnau yn benaf, ac nid tröeliau y dôn, oedd y gwres oedd yn yr hen gànu. Jblhaid i'r cùnwyr feddwl mwy am yr hymnau nag am y tônau, am yr hyn a genir nag am y cànu, cyn y teimlir gwres yr hen gânu yn y cànu diwygiedig. Dymunwn argyhoeddi pawb nad yw peroriaeth, fel celfyddyd, yn annibynol ar yr hyn a genir, yn fawl i Dduw; oblegid pe felly, byddai gwell • Cedwid ysgol ddarllen ar nos o'r wythnos, yn gystal ag ar y Saboth, yn ardal y gwr ieuano nchod yr amser hwnw. 18