Skip to main content

Y DIWYGIWJÌ. Rhif. 165.] EBRILL, 1849. [Cyf. XIV BALCHDER. GAN Y PARCH. SIMON EVANS, PENYGROES. Balcüder, yw y teîmlad hunanol a gyfyd yn y meddwl wrtli sylwi ar ragoriaethau (gwirioneddol neu dybiedig) a wel ynddo ei hun mewn cyferbyniad i ereill. Y mae yn ddyledswydd ar bob dyn ymdrechu rhagori, ac angenrheidiol yw i ddyn wybod yn mha beth neu bethau y rhagora. Gwahaniaetha y balch a'r gostyng- edig yn eu teimladau pan yn sylwi ar eu rhagoriaethau: y gostyngedig a deimla yn ddefosiynol, terfyna ei deimladau mewn diolchgarwch i Dduw; y balch a deimla yn hunanol, terfyna ei deimladau mewn hunan-ganmoliaeth. Y teimlad hunanol hwn yw gwreiddyn y gweithrediadau, a'r geiriau a ddangosant falchder dyn; ei falchder a ddaw i'r golwg yn ei waith yn ymdrechu tỳnu sylw ei gyd- ddynion ato ef ei hun. Defnyddia gwahanol ddynion wahanol lwybrau er cyr- haedd yr amcan: edrycha un gyda thrèm ddirmygus ar y werin, fel pe dywedai, "Saf hwnt, santeiddiach ydwyf û nâ thydi;" y llall a ymostynga i'r gwaeleddau mwyaf er mwyn ennill molawd y lluaws—a'r ddau a gynhyrfir gan yr un teimlad balch. Un a ymffrostia yn ei alluoedd a'i rinweddau, ac a siarada am dano ei hun fel un mawr ac enwog ; arall a gymer arno nas gŵyr ddim, ac nas gall ddim, er mwyn denu y gwrandawydd i borthi ei falchder. Un a wisga yn goegaidd a drud- fawr, yn wahanol i ereill, ac uwehlaw ei sefyllfa; arall a wisga yn wael ac islaw ei sefyllfa, gan ofalu cadw i fynu ddulliau cenhedlaeth a aeth heibio—y maent yn wahanol i'w gilydd, ond eu dyben yw tỳnu sylw atynt eu hunain. Y mae dulliau balchder mor wahanol fel y mae yn anhawdd ei ddesgrifio wrth ei nodau,heb roddi achlysur i rywun balch dybied ei fod yn rhydd. Y mae yn cael ei ddangos gan rai trwy lefaru yn uchel uchel, ereill drwy eu huchel-drem, ac ereill drwy eu hym- ddangosiadau corfforol, &c. Pechod yw a fHeiddia pawb mewn ereill, a phechod pydd yn neillduol gas gan Dduw; y mae yn dueddol iawn i ddynolryw; ymosoda Cristionogaeth yn ei erbyn, ac y mae Duw y nefoedd yn sicr o lwyddo, yn gynt neu yn hwyrach, i " guddio balchder oddiwrth ddyn," ac " i ddarostwng y rhai oll a rodiant mewn balchder." Enwn,— I. Ategion balchder.—Y mae yn y meddwl, a dylid ymdrechu ei symud; ond yn lle hyny y mae yn cael ei fagu gan— 1. Anwybodaeth.—Pa gyfyngaf y byddo cylch ein gwybodaeth, parotaf i gyd y byddwn i ymfalchio ar a wyddom. Meddwl gwag anwybodus a íedra ymfalchio ar bethau ydynt islaw sylw y meddwl gwrteithiedig; yr anwar gwyllt a ymfalchia ar gryfder ei esgeiriau, cyflymdra ei rediad, &c.; y dyn anwybodus mewn gwlad Waraidd ~*......fJ"'-'' .......—JT -.......ií—'i- -i:n-.;i .„----ì,;„„ „ rt„;„ „„,.„;/i,i ,.,-,-,,,., ìadd balchder: gwybodaeth heb gariad sydd yn ymchwyddo, ond y mwyaf gwy- bodus a wel fwyaf o'i anwybodaeth. Y mae llawer coegyn, wedi derbyn tipyn o ddysg, yn ddoethach yn ei olwg ei hun, nâ seithwyr yn adrodd rheswm, tra y gwelid Newton, ar ol ei holl orchestion meddyliol, yn ystyTÌed ei hun fel plentyn ar làn y môr yn codi ambell berl, a'r môr mawr o wirionedd yn anchwiliedig o'i flaen; teimlai rym y gofyniad, " Pa beth \-w dyn ?" a meithrind ostyngeiddrwydd ya ei galon. Os gwelwn rywun yn ymfaíchio ar ei dalentau a'i wybodaeth, yn 11« lí