Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 164.] MAWRTH, 1849. [Cyf. XIV. J U D E A. ©•£\,S3' "5" IPÄIESHÎ, 'öê'o <JT©B52I©9 HI31IB.EH©Sî. Mae mil o adgofion cynhyrfus a chysegredig wedi eu cysylltu â'r wìad enwog hon. Gyda bod y gair Judea yn disgyu ar y glust, mae " blynyddoedd deheulaw y Goruchaf' yn cyfodi o flaen y meddwl, ac yn myned heibio mewn gogoniant hyn- afiaethol. Mae yn anhawdd i ni osod troed i lawr yn un man yma nad yw wedi ei fendithio â phresenoldeb rhyw broffwyd ysbrydoledig, ei hynodi gan ymweliad rhyw ymdeithydd angylaidd, neu ei dragywyddoli gan ryw wyrth o eiddo Holl- alluawgrwydd. Bu y wlad hon am oesau yn artrefle y wir grefydd, pan oedd tywyllwch yn gorchuddio y ddaear, " a'r fagddu y bobloedd." Yr oedd Creawdwr y bydoedd yn adnabyddus yma pan yr ysgrifenid ar allorau y Cenedloedd, " I'r Duw nid adwaenir." Yn Judea y dadguddiwyd bwriadau trugarog y Meddwl Anfeidrol; yma y dadblygwyd rhyfeddodau gogoneddus y drefn gyfryngol gerbroncreariigaeth synedig; ac oddiymay cyfododd "Haul Cyfiawnder" idywailt ffrydlifoedd ei oieuni cysuriawn i daleithiau caddugaidd dynolryw euog. Judea yn amser ei gogoniaîít.—Yn ol desgrifiad yr ysgrythyrau o honi yn nyddiau ei gogoniant, gwlad gyfoethog, ffrwythíawn, a pharadwysaiíld ydoedd. Llysîau peraroglaidd a orchuddient y bryniau, a phrydferthid y bröydd â'r blodau puraf—caed y rhosyn yn Saron, a'r lili yn y dyffrynoedd. Gwlad well na Lou ni chynwysai y ddaear: yma yr ymblethai y gwinwydd, yr agorai " egin y grawn- win," yr addfedai ffrwythau y palmwydd, ac y crogai y pomgranadau. Ár drosol, rhwng dau ddyn, y cludwyd un swp o rawnwin Escol. Ymdderchafai y cedrwydd ar benau y mynyddoedd, a'r myrtwydd a addurnent eu hystlysau. Y tymhorau a gylchdröent yn eu hamrywiaeth; ond yr oedd tynerwch hafaidd ynddynt oll. Ý gogleddwynt, gan ddeffroi, a adawai ei loches—llamai dros gopa Libanus— disgynai i'r gwastadedd—teithiai mewn awdurdod dros y bryniau, ac ynddo yr ysgydwai y fh'nidwydd eu breichiau. Canlynid ef gan yr awel arafach, yn yr hon y gallai yr olewydd ddadguddio eu blagur. Chwythai y deheuwynt ar y gerddi, a gwasgerid eu peraroglau. Yr oedd natur ar ei goreu yma. Y gwartheg a borent ar fil o fynyddoedd—y diadellau defaid a lament ar y bryniau—yr adar a leisient rhwng y cangau—llais y ddurtur a glywid yn y tir—Cedron a'r Iorddonen a arllwysent eu ffrydiau bendithfawr—y cafodydd maethrinawl a ddisgynent yn eu hamser—y gwlaw a lanwai y lîynau. Yr oedd gwlith ar Hermon, a balm yn Gilead. Carmel a Libanus a orphwysent eu penau ar fynwes yr wybren. Gofalai yr Arglwydd Dduw am y wlad yma—yr oedd ei lygaid arni yn wastadol. Coronai y flwyddyn â'i ddaioni: llenwid yr ysguboriau â digon- olrwydd; ffrydiai sathrydd"y'graAvnwin yr hauwr had" " Gwlad yn llifeirio o laeth a mêl" ydoedd. Hi a fendithiwyd "gan yr Arglwydd â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfn- der yn gorwedd isod." " Yr ydoedd wedi ei hamrywiaethu â holl elfenau ffrwyth- lonrwydd a phrj dferthwch: y nefoedd a ddiferent frasder, y mynyddoedd a ddefnynent felus-'win. Un o'r breintiau daearol diweddaf a roddwyd i Moses, ydoedd golwg arni oddiar Pisgah. Gelwir hi mewn modd neillduol, " Dy dir di, 0 Emmanuel." 10