Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 163.] CHWEFROR, 1849. [Cyf. XIV. DYLANWAD GWELLIANTAU A DYFEISIADAü CELFYDDYDOL AE FOESAU Y BYD. GAN Y PARCH. R. PARRY, LLANYMDDYFRI. Mae gwérthfawrogrwydd pob cangen o wybodaeth i'w benderfynu yn ol ygraddau y byddo yn effeithio yn ddaionus ar foesau, amgylchiadau, a dedwyddwch dynion yn gyffredinol. Y mae yn amlwg fod holl alluoedd y meddwl, yn gystal ag aelodau y corff, wedi eu hymddirìed i ddyn, fel arfau i weithio â hwy, a bod elfenau natur wedi eu cyflwyno at ei wasanaeth, fel defnyddiau i weithredu arnynt: " Gosodwyd pob peth dan ei draed ef." Nid oes dim yn gosod rhagoroldeb eglurach ar y cenedloedd gwareiddiedig amgen y barbariaid gwylltion, nâ'u gwybodaeth o'r gwyddorion a'r celfyddydau. Trwy y wybodaeth o ddeddfau peirianyddiaeth y mae pob gwelliant naturiol, o'r bron, yn cael eu dwyn yn mlaen mewn gallu, grym, ac ysgogiad, trwy yr holl greadigaeth,—ac y mae dylanwad yr elfenau, dwfr, awyr, a thân, yn cael eu dwyn yn wasanaethgar at amgylchiadau bywyd; oblegid, pa mor egwan bynag y gall dyn ymddangos o ran ei alluoedd corfforol ei hun, trwy wybod- aeth o ddylanwad yr elfenau ar eu gilydd, ac o'r modd i'w dwyn i weithredu y naill ar y llall, y mae meddwl yn cael perffaith feistrolaeth ar ddefnydd; ac y mae dyn, yr hwn sydd bryf, a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn, yn gallu "estyn ei íawat y gallestr—dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd—peri i afonydd dòri trwy y créigiau; ac y mae ei lygaid yn gweled pob peth gwerthfawr,—y mae yn rhwymo yr afonyddrhagHifo, ac yn dwynpeth dirgel i oleuni!" Y mae treiddgarwch meddwl dyn yn ddiderfyn, a'i olrheiniadau yn ddiddiwedd. Nid oes na rhagfarn, na defod, na dichell, na chyfraith, a all osod terfyn i'w ym- chwiliadau, a dywedyd, " Hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach, ac yma yr atelir dy holl ymofyniadau di." Y mae pob dalen a agorir yn mhlygion gwybodaeth o'i flaen, yn codi awydd, ac yn «reu hawsder iddo fyned rhagddo i agor ychwaneg yn barhaus. Nid ar unwaith y maent yn ymledu ger ei fron, ond y mae efe yn ymestyn yn raddol at berffeithrwydd. Y mae cyflwr presenol y byd, o ran ei ddarganfydd- iadau, yn ffrwyth Uafur, prawf, ac olrheiniad llawer oes. Pa faint bynag oedd gogoniant Groeg a Rhufain gynt, am eu gwybodaeth yn y celfyddydau, a pha mor ëanged bynag y dygodd Archimedes oleuni ar ddeddfau peirianwaith, a rheolau rhif a mesur, yn eu cymhwysiad at arferion cyffredin, y mae yn amlwg na weloddy cynfyd ond agoriad y dalenau cyntaf yn nghyfrol fawr y celfyddydau a'r gwyddor- ion gwerthfawr oedd yn aros yn nghroth amser, i gael eu genedigaeth yn yr oesau diweddar, ac yn ein dyddiau ni. Gwedi i'r byd, yn ei dreigliadau maith, ddyfod yn raddol i drefn gymdeithasol, yr hyn a ddechreuodd mewn teuluoedd, ac a ymestynai o fesur ychydig at gyfun- debau a chenedloedd, yr oedd yn rhaid i bob dyn, a phob brodoriaeth, ddyfeisio rhyw foddion er eu cynhaliaeth, eu cysur, a'u dyogelwch eu hunain, fel yr oedd " angen yn dyfod yn famaeth dyfais.'' Yr oedd " y ddaear wedi ei rhoddi i feibion dynion," a'r " defaid a'r ychain oll" wedi eu cyflwyno at eu gwasanaeth. Yr oedd y Creawdwr mawr ei hun wedi rhoddi awgrymiad i ddyn yn ngardd Eden, pan y gosododd ef yno i'w llafurio a'i chadw, o egwyddorion amaethyddiaeth, ac wedi arwyddo iddo beth. a allai celfyddyd ei wneyd o grwyn yr anifeiliaid er ei wisgo a'i gludo pan y dilladwyd ein cynriaint am y waith gyntaf erioed. Yr oeddmeddiant a chyfnewidwriaeth yn codi yn fuan, yn naturiol, fel yr oedd poblogaeth yn