Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 161.] RHAGFYR, 1848. [Cyf. XIII. YSBRYD CYHOEDD. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Awn rhagom yn bresenol i syìwi ar yr Annogaethau I feithrin Ysbryd Cyhoedd. Wrth hyn y tebygolwn fwyaf i JDduw.—Nid ydyw y greadigaeth ëangfaith, yn ei haní'eidrol amrywiaeth, ond ffrydiad allan yr ysbryd nefolaidd hwn o'r fynwes ddwyfol. Nid oedd cread y bydoedd ond ymollyngiad calon orlawn o haelfrydedd ac ewyllys da; ac nid ydyw yr amryfath fìliynau o greaduriaid rhesymol a'i trigian- ant ond cynifer o lestri i dderbyn o'r ffrydiau dedwyddawl oeddynt yn rhedeg dros ymylon calon Duwdod. Gwelwn anfeidrol allu yn cael ei ysgogi, yn ol cynlluniau doethineb dwyfol, i gynyrchu bodau addas i dderbyn, er mwyn rhoddi cyfleusdra i'r fynwes ddwyfol i weithredu haelioni. Nid yw rhagluniaeth ychwaith ond par- haus weithrediad o'r un teimladau grasol. Yr un llaw sicrhaodd y mynyddoedd ar eu'sylfaeni ag sydd yn eu cylcho fel na chwalont ac yr holltont ar draws y ddaear; yr un grogodd oleuadau mawrion yn y ffurfafen ag sydd yn peru i derfyn boreu a hwyr i lawenychu trwy gylchyniad dydd a nos; yr un osododd i lawr fraisg golofn- au y ddaear ag sydd yn "ymweled â hi" i wybod eisieu pob congl o honi, ae yn cyfarwyddo ei gymylau fel gograu sidanaidd i ddyferu eu cawodydd ffrwythlon ar "borfeydd jrr anialwch. Corona y blynyddoedd â daioni; ac nid yw byth yn tram- wyo jti ei rodfa ddaearol heb fod ei lwybrau yn dyferu brasder. Mewn gair, ym- ddengys mai gwneyd dynion yn ddedwydd yw prif wrthddrych y gofal dwyfol bob mynyd o'r dydd a'r nos. Yn y dydd eawn belydron adfywiadol yr haul, y rhai a sugnant aìlan beraroglau a phrydferthwch y llysiau; ond rhag i'r gwres parhaus a'r goleuni gör-danbeidiawl i wywo y gwyrddlesni, i ddiflanu tegwch gwyneb y greadigaeth, ac i ddall-sereni y llygaid, geilw ar ei gymylau i ymgodi megy» cysgod-lèni prydferthion, y rhai, fel cicaion Jonah, a'n cysgodant rhag y gwres, ac a gauant allan fl'rydiau gorchfygawl y goleuni dysglaer. Pan fyddo y ddaear wedi sychu, geilw ar y cymylau i sugno ynghyd y dyfroedd, a gỳr hwynt ar adenydd y gwynt i dywallt eu dyfroedd yn fàn ronynau ar y sychdir, fel "y mwydir y ddaea'r â chawodau." Yn y nos y mae y Llywydd mawr, fel mam dirion, yn tawelu pob ystwr, ac yn tynu y llèni o gwmpas gwely y baban i gau allan y goleu, modd y gallo gysgu ei hûn i ben : "gwna dywyllwch, a nos fydd," a dystawrwydd cyff- redinol, fel y byddo i'w deulu mawr ì gael gorphwys mewn tawelwch—" O drugar- edd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn." Ond nid oes yma ond rhanau o'i hyrfodd môr cariad Duwdod i'w waeiodion hyd nes i ddyn fyned yn ddigymhorth a diymgeledd yn ngafael ei elyn. Edrychodd dwyfol dosturi o'r nefoedd i'r ddaear; ac er nad oedd yno ddim yn deg, na dim yn brydíerth ac yn hawddgar i'w ganfod, wele Dduw, yn Dad, Mab, ac ^sbryd Glân, yn ymroddi i wneyd dyn pechadurus yn ddedwydd—"Felly y caroddDuw y byd, fel y rhoddodd ei unig-anedig Fab." Arllwysodd y nefoedd ei thrysorau ar unwaith i'n byd ni: wele Etifedd gogoniant wedi dyfod o'r nefoedd i'r dâaear, o'r orsedd i'r preseb, o fynwea ei Dad i gôl mor- wyn. Safai yntau o flaen byd colledig a daimr'ol, a chariad cronedig tragywyddoldeb yn ei galon, a thrysorau anhyspyddedig y Drindod yn ei law, a chynhygiodd wneyd bradwyr yn blant i Dduw, ac yn gydetifeddion ag ef ei huu. Ar neges o drugar- 47