Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 159.] HYDREF, 1848. [Cyf. XIII. URDDIAD GWEINIDOGION. GAN Y PARCH. JOHN THOMAS, BWLCHNEWYDD. DiCHON nad oes un pwnc ag y gosodir cjonaint o bwys arno (gan lawer o ddynion), y mae y Bibl mor ddystaw yn ei gylch, ag Urddiad Gweinidogion; nid oes ond ychydig iawn o grybwylliadau yn y Testament Newydd mewn perthynas iddo; mor lleied, yn wir, fel y mae llawer nad addefant unrhyw awdurdod arall mewn crefydd yn golygu nad ydyw yn angenrheidiol oll. Y mae y cymhwysderau i'r weinidogaeth yn cael eu nodi yn fanol, a'r athrawiaeth i'w phregethu yn cael ei gosod allan yn eglur; ond am drefn y neiilduaeth, nid oes odid ddim yn cael ei ddy- wedyd; y mae y pethau hyny wedi eu hymddiried i synwyr yr eglwysi i'w gwneyd yn ol fel y barnont ddoethaf. Ond os bu yr oracl ddwyfol yn brin yn ei chyfar- wyddiadau, y mae dychymyg dynol wedi bod yn dra helaeth yn ei ddyfeisiadau, a dylanwad arferiad wedi ymlid yr hyn sydd bwysig i'r cysgod i gael lle i'r hyn sydd ddibwys yn y golwg, oblegid y mae llwch traddodiad wedi dallu yr oesau fel y gosodant holl awdurdod y gweinidog ar ei urddiad; fel, gan nad beth fyddo ei pjmhwysderau a'i athrawiaeth, os heb gael y cyffyrddiad cysegredig, nid yw ond diljTiwr Corah Dathan ac Abiram—ymhyrwr diawdurdod â phethau dwyfol. Camsynied mawr ydyw edrych ar urddiad gweinidog fel ordinhad grefyddol, a chysylltu ei hawdurdod gweinidogaethol â hi. Yn ol darluniad yr apostolion, yr athrawiaeth, ac nid yr urddiad, sydd yn profi yr awdurdod. " Sêl fy apostolaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd," meddai Paul wrth y Corinthiaid. " Öd oes neb yn dyí'od atoch ac heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ," meddai Ioan wrth yr arglwyddes etholecüg a'i phlant. Nid yw yn angenrheidiol i ddyn, er profi ei fod yn " weinidog cymhwys y Testament Newydd," allu olrhain ei achydd- iaeth ysbrydol o'r apostolion, ac nid oes un dyn ar y ddaear all wneyd hyny; ac yn wir, pe y gallai, ni byddai hyny o un anrhydedd iddo, oblegid byddai raid iddo ìusgo ei " olyniaeth" trwy laid a budreddi Eglwys Rhufain; a phe llwyddai i allu profi ei fod wedi deilliaw trwy linach reolaidd oddiwrth Pedr neu Paul, ni byddai hyny yn y diwedd yn ddigon i brofi ei fod " yn weinidog da i Iesu Grist.'' Nid yr urddiad sydd yn cyfansoddi awdurdod i un fyned allan i'r byd i bregethu yr efengyl, ac nid yw bod heb urddiad yn lleihau awdurdod neb, os bydd ei fuchedd yn santaidd a'i athrawiaeth yn iach. Nid oes dim mwy o gysegrwydd mewn urddiad nag sydd yn nghyfarfod gweddi yr eglwys—nid oes unrhyw awdurdod ys- brydol yn cael ei chyfranu i'r brawd a urddir—nid oes dim jm cael ei ychwanegu at ei awdurdod i bregethu yr efengyl—nid oes unrhyw swyddogaeth offeiriadol yn cael ei throsglwyddo iddo, nac unrhyw lŵon yn cael eu tyngu ganddo, ag sydd yn ei rwymo i'r gwasanaeth drwy ei oes, nid oes dim o'r cyfryw j'mhoniadau rhodres- gar jti cael eu cysylltu ag urddiad; ond, y rhai a'i golygant yn ordinhad grefyddol, a gysylltant holl awdurdod gweinidog â'i urddiad—pe byddai pob cymhwysderau naturiol a grasol yn cyfarfod ynddo, pe byddai wedi ei fedyddio â'r Ysbryd Glân, pe byddai ei dalentau a'i alluoedd yn nerthol, a'i fuchedd yn ddiargyhoedd, os heb gael urddiad rheolaidd, mae yn amddifad o'r awdurdod a'i cyfansodda yn weinidog i Grist; nid yw ond un yn gormesu ar swydd nad oes ganddo hawl iddi—olynwr hocedus Simon Magus. Anturiaeth bwysfawr yn ein tadau, gan hyny, oedd tòri trwy lèni tewion y golygiadau yma; ac, yn wir, nid beb bryder ac ofn y daethant '39