Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 158.] MEDI, 1848. [Cyf. XIII. VDR. VINET, O LAUSANNE. GAN MR. D. GRIFFITHS, IEU., BETHEL. Yr ydoedd Dr. Vinet yn seren o'r maintioli mwyaf. Fel athronydd, fel duwinydd, ac fel pregethwr, cyrhaeddodd y radd uehaf o enwogrwydd. Dr. Merle D'Aubigne a'i galwai yn " Chalmers Switzerland." Ystyriai llawer ef yr athron- ydd Cristionogol galluocaf yn Ewrop. Yr ydoedd yn un o brif gampwyr Cristion- ogaeth efengylaidd. Diau i achos y gwirionedd yn Switzerland gael colled drom yn ci farwolaeth; cymerodd y dygwyddiad galarus le ar y 4ydd o Fai, 1847. Ganwyd Alexander Vinet ar y 17eg o Fehefin, 1797, yn Lausanne, prif ddinas talaeth Vaud, Switzërland, yr hon, meddir, sydd un o'r dinasoedd prydferthaf yn yr holl fyd. Ei sefyllfan ar làn llyn Leman, neu lyn Geneva, sydd ddymunol òdiaeth; ac addurnir hi gan betryalau, a gerddi, adeiladau godidog, a rhôdfeydd difyrus. Y mae hefyd yn ngolwg mynyddoedd ardderchog yr Alps, gyda'u copäau wedi eu haddurno gan eira oesol, ac yn nghymydogaeth Vevay, Chiílon, Villeneuve, amanau ereill a fawrygir o herwydd aruthroldeb y golygfaoedd o'u deutu. Yma unwaith y preswyliai Beza, ac yma hefyd yT oedd cartref dewisedig Gibbon, hanes- ydd Rhuíain. Er y flwyddyn 1536, y mae yma ysgol o gryn enwogrwydd wedi bodoli, yr hon yn 1806 a dderchafwyd i fod yr hyn, efallai, a alwem ni yn brif athrofa, gyda phedwar-ar-ddeg o broffeswyr a pheriglor. Adgorfforwyd hi hefyd wylfod nifer mawr o dramoriaid. Yr ydoedd tad Vinet wedi arfaethu ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth, canys ystyriai y swydd weinidogaethol fel jt un anrhyd- eddusaf o bob swydd. YTn ganlynol, cafodd ei osod yn mhrif ysgol ei ddinas cnedigoî, lle y dilynodd y cylch arferol o efrydiaeth, gan ymdreuho mwy, pa fodd bynag, gyda llëenyddiaeth nâ chyda duwinyddiaeth. Ond ryw fodd neu gilydd arweiniwyd ei feddwl yn dra chynar i efrydu gwyddoniaeth foesol, at jt hon y meddai athrylith benderfynol. Y cyfryw efrydiaeth a gafodd yr effaith ddymunolaf, nid yn unig ar ei ymofynion duwinyddol, ond hefyd ar ei nodweddiad crefyddol. Pan yn ugain mlwydd oed cydsyniodd â galwad i lanw swydd proffeswr yr iaith Ffrengig a llëenyddiaeth, yn y brif athrofa, yn Basle, jt hon sydd yn brif ddinas talaeth o'r enw hwnw, ac yn dref ddymunol wedi ei hadeiladu ar lànau y Bhine. Y cyfryw benodiad sydd brawf diamheuol o dra-ragoriaeth talentau Vinet, ac o'r bri uchel a gyrhaeddasai efe fel ysgolhaig, hyd yn nod yn y cyfnod boreuol hwnw o'i fywyd. Yn 1819, ymwelodd â Lausanne mewn trefn i fyned o dan yr arhol- iadau gofynol, ac i dderbyn ordeiniad fel gweinidog yr efengyl. Dychwelodd yn ol i Basle, ac arosodd yno hyd 1837, fel proffeswr yr iaith Ffrengiga llëenyddiaeth. Yn ystod ei arosiad jana y cyhoeddodd efe y rhan fwyaf o'i ysgrifeniadau boreuol, ac y sefydlodd efe ei gymenad fel pregethwr; ac yma hefy'd, debygid, y ffurfiodd efe y golygiadau ysbrydol ardderchog hjmy am grefydd, y rhai a ddadblygir mor Çglur yn'ei bregethau a'i ysgrifeniadau oll. Y'mddengys fod dylanwad efengylaidd, i raddau mwy neu lai, wedi parhau i fodoli yn Basle, er amser y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Y pryd hwnw breintiwyd y lle â gweinidogaeth rymus CEcolampadius, yr hwn ydoedd un o bregethwj-r mwyaf 35