Skip to main content

Rhif. 156.] GORPHENAF, 1848. [Cyf. XIII. PLANIAD CRISTIONOGAETH. GAN Y PARCH. NOAH STEPHENS, SIRHOWY. " Y fatli ydym ni ar air trwy lythyrau yn absenol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bre- senol :" 2 Cor. x, 11. Gwelodd Duw yn addas egluro ei ewyllys i beehadur. Mae hyn yn destun rhy- feddod mawr ar y naill law, ond yn rhesymol iawn ar y llaw arall. Mae mawredd v Duwdod, mewn cyferbyniad i iselder pechadur, yn gwneyd i ni synu am i'r Dlaenaf ddadguddio ei ewyllys i'r olaf. Ond y mae cymeriad haelfrydig y Duw tragywyddol, ac angen arbenig y creadur dirywiedig, yn hollol gydweddol â'r gosodiad a gredir genym, sef fod Duw wedi dweyd ei feddwl wrth ddyn. Dyma osodiad sydd yn eithaf cyson ar dir rheswm, ac yn anwadadwy ar dir tystiolaethau. Nid arunwaith yr anrhegwyd y byd â'r fendith yma, ond trwy ddadblygiad graddol. Y rheswm dros hyn yma yw, nid am na allasai yr Hollwybodol ddweyd 'y cwbl ar unwaith, ond am nad oedd dynolryw mewn sefyllfa i dderbyn ond ychydig ar y tro. Nid am na ŵyr yr athraw y gramadeg y rhydd ef y pleutyn i ddysgu yr egwyddor yn gyntaf, ond am fod yn rhaid dysgu yr egwyddor cyn gwybod cystrawen iaittí. Pan fydd dyrnaid o Brydeinwyr wedi croesi Môr y Werydd er sefydlu trefedigaeth ar gyfandir y gorllewin, cynwysir eu cyfreithiau, nid'mewn ugain o gyfrolau unplyg, ond mewn ychydig o osodiadau syml. Mae un egwyddor yn yr enghreifftiau a nodwyd yn hollol gymhwysiadol at y gyfrol ddwyfol, sef dad- 'bhjgiad graddol yn ol sefyììfa y gymdeithas ddynol. Gan mai yn raddol y rhòdd'wyd yr ewyllys Ddwyfol, mae yn naturiol i'r amryw- iol ranau ddwyn gwahanol enŵau,—megys y gyfraith, y Salmau, a'r proffwydi. Pan gauwyd eanon-lyfr yr Hen Destament, yr oedd angen rhyw un gair yn cynwys y canon-lyfr i gyd. Y gair, neu yn hytrach y geiriau a ddefnyddiwyd oedd " yr ysgrythyrau." Ychwanegwyd at " yr ysgrythyrau" yn yr oes apostolaidd; ac wedi cau canon y Testament Newydd, gwelwyd yn angenrheidiol cael un enw er dynodi yr ewyllys ddwyfol i gyd. Ŷr enw dewisedig yw " y Bibi." Mae gosodiadau " y Bibl" yn aml, a'i athrawiaethau yn lliosog, gan hyny mae duwinyddion wedi dewis enw arbenig i bob athrawiaeth. " Mae amgylchiadau weithiau yn galw am un gair cynwysfawr yn cofleidio holl athrawiaethau y Bibl. Cristionogaeth yw y gair i'r pwrpas. Dyma air, ond ei ddefnyddio yn ei ystyr helaethaf, sydd yn cynwys ynddo ei hun holl athrawiaeth.au sylfaenol, arosol, ahanfodol y dadguddiad Dwyfol. Ynddo y golygir " y gwr perffaith," ac ynddo y cysylltir yr holl aelodau yn un corff. I. Ciustionogaeth cyn YR oes APOSTOLAiDD.—Wrth yr oes apostolaidd y deallir y cyfnod pwysig hwnw o enedigaeth Iesu hyd farwolaeth y diweddaf fu yn cydgrefydda â'r apostolion. 1. Äddatoydy gyfundrefn Gristionogol cyn yroesapostolaidd.—Aâàawydhiyn union i Adda yn " had y wraig"—i Jacob yn y_gair " Siloh"—i Esaia yn y " bach- gen a anwyd, a'r mab a roddwyd"—i Daniel yn mherson y Messia, ac yn y deyrnas ar yr hon ni bydd diwedd—ì Ezekiel yn y planhigyn a dyfai—i Zechariah jti y ffynon adarddai—ac i Malachi yn yr haul a gyfodai. Mae yn aros heb ei bender- fvnu faint oedd y proffwydi yn ddèall o'r hyn a broffwydent: tybia rhai y deallent v cwbl, ereill na ddealleni: ddim. Pa faint bynag oedd y proífwydi yn ddeall eu 27