Skip to main content

Rhif. 151.] CHWEFROR, 1848. [Cyf. XIII. SERYDDIAETH. GAN Y PARCH. D. HUGHES, TRELECH. canedig yn nghyfundrefn y bydysawd. Dosbarthiad Seryddiaeih.—Y rhan o'r wyddor perthynoli symudiadau, maintioli, pellderau, ac amserau cylch-dröadau y bodau wybrenawl, a elwir seryddiaeth ddar- luniadol; a'r rhan o honi a eglura yr achosion o'u symudiadau, a'r deddfau wrth ba rai y gweithreda yr achosion hyny, a elwir scryddiaeth naturiaethol. G-eiriadaeth Seryddiaeth.—Mewn pwynt penodol o'r nefoedd, ymddengys i ni fod symudiad y bodau wybrenawlyn dybenu; y pwynt hwn a elwir y pegicn (pole), o herwydd fod' y nefoedd wybrenawl mewn ymddangosiad yn troi arno. üan y tybir fod y ffurfafen nefol yn gronen neu bellen, y mae dau o'r pwyntiau hyn; yr un sydd yn weledig yn ein hannergrwn ni ydyw y pegwn nefol gogleddol, a'r un sydd yn weledig yn yr hannergrwn cyferbynol ydyw'r pegwn nefol deheuol. Bchel (axis) y ddaear, yr haul, neu blaned, ydyw llinell ddychymygol trwy eu eanol o un pegwn i'r llall, oddiamgylch i'r hon y cyflawnant eu chwyldro dyddiol. Y cylch a derfyna ein golygiad o bob tu, a elwir gorwel neu derfyngylch (horizon) ; gelwir ef hefyd y gorwel nefol neu resymol, i'w wahaniaethu oddiwrth y gorwel ymddangosiadol, a derfyna ein golygfeydd ar arwynebedd y ddaear. Cylch darben- awl (perpendicular) i'r gorwel, yn myned trwy'r pegynau a'r zenith, a eíwir y nawn- gylch (meridian) ; rhana yr hannergrwn nefol i ddwy ran gyfartal, fel ag y mae'r 'bodau wybrenawl y fynyd y cyrhaeddant y cylch hwn, yn nghanol-fàn eu gyrfa ym- ddangosiadol, a mynedfa yr haul dros y cylch hwn a benoda y canol-ddydd. Yr amser a dreulir gan y ser i dramwyo o'r cylch hwn trwy'r bellen wybrenawl, a dychwelyd i'r un pwynt, a elwir dydd serol, ac y mae ychydig yn llai nâ phedair awr ar hugain. Mewn pellder cyfartal oddiwrth y pegynau y mae cylch a ddos- bortha y gronen nefol i ddwy ran gyfartal, yr hwn a elwir y cyhydedd (equinoctial). Y cyhydeddau (equinoxes) ydynt ddau bwynt cyferbyniol yn arwydd yr Hwrdd ac arwydd y Fantol, lle y mae cylch y dyflygion yn croesi y cyhydedd. Dau gylch cyfochrawl â'r cyhydedd, 23 o raddau a 28 o fynydau oddiwrtho bob tu, a elwir trofanau (tropics.) Cylch^ y diffygion (ecliptic) ydyw y cj'lch mawr yn y nefoedd, trwy' hwn, (solsti y difl'ygion yn cyífwrdd â'r trofanau. Ysidydd (zodiac) ydyw y gwregys dychymygol a amgylchyna y nefoedd, 18 gradd o led, yn nghanol yr hwn y mae cylch y diffyg- ion. Arwydd (sign) ydyw y ddeuddegfed ran o gylch y diflygion, neu 30 o raddau. Y pwynt yn yr wybren yn iawngyrch uwchben, a elwir y zenith ; a'r pwynt sydd yn iawngyrch dan ein traed, neu gyferbyn â'r zenith, a elwir y nadir. Cylchdro (orbit) ydyw y cylch a ffurfia planed yn eì thaith neu ei thröad oddiamgylch i'r