Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 150.] IONAWR, 1843. [Cyf. XIII. SEFYDLIADAU CREFYDDOL YN ERBYN RHYDDID CEEFYDDOL. " I HATE TOLEUATION, FOE I LOVE LIBERTY." —Lord Stdtlhope. Golyga Rhyddid, yrhawl neu y rhagorfraint o feddwl, o ddilyn argyhoeddiad cyd- wybod, o amddiffyn ein barn, aco ymarweddu mewnbywyd yn unola'n golygiadau, heb fod hyny yn un anfantais i ni ein hunain, nac yn niwed i ereill :■—heb ei fod yn rhwystr i ni ein hunain, oblegid fod pob ataliad i ryddid yn ormes ar yr hawl; ac heb fod yn niwed i neb arall, oblegid fod pob camwri a gynygir i arall, dan gysgod rhyddid, yn ormes o'r fath waethaf. Pa beth bynag, gan hyny, a atalio y rhydd-ymarferiad o'r oruwchfraint hon, y mae yn fradwriaeth ar wir ryddid, pa un bynag a fyddo ai y llwgr-wobrwyaeth sydd yn hudo, ai yr erlidigaeth sydd yn bwgwth—unrhyw beth a ddylanwado ar ddyn er ei lithio i feddwl mewn rhyw ffordd neillduol, neu a'i cospo am feddwl mewn rhyw ffordd arall. Y mae cymeryd mantais annheg ar feddwl dyn drwy hudoliaeth neu fygythiad, pa mor ddibwys bynag y gallo ymddangos, yn drosedd euog o lygru a chadwyno y gydAvybo*d. Haera rhai nad yw atal manteision, neu elw, neu ddylanwad oddiwrth ddyn, yn unrhyw drais, am nad yw hyny yn cynwys gweithreâol ormes, ond yn ataliad o fraint—gweithred o esgeulusiad neu omeddiad ; ond yn nghlorian gwiríonedd ymddengys y naill yn drosedd fel y llall, yn hollol yr un fath o ran egwyddor, ond ei fod yn fwy dirmygedig o ran cymeriad. Dywedodd Esgob Lincoln, wrth draddodi ei gynghor i'r gweinidogion ieuainc, yn y flwyddyn 1812, fel hyn,—"Nid yw cau dynion allan o awdurdod yn cynwys erlidigaeth, oblegid nad yw hyny ond gweithred nacäol yn ei nhatur—nid yw hyny yn ddim ond cyhoeddi nad yw rhai o ddaliadau neillduol i gael mwynhau y cyfryw freintiau; ac y mae hyny, ar yr un pryd, yn caniatau perffaith ryddid iddynt ddal y syniadau a fynont." Y mae yn burion i'r byd nad yw y fath "gynghorion" yn dibynu ar gysondeb ymresymiadol eu hawd- wyr." " Nicî yw cau allan o awdurdod yn erlidigaeth," medd yr esgob. Y mae y gosodiad hwn yn datguddio ei dwyll ei hun, ond ei gymhwyso at amgylchiad fel hyn,—Ni byddai cau dyn mewn carchar, allan o oleuni y dydd a'r awyr agored, ac oddiwrth ymborth a dillad, nes trengu yno, yn erlidigaeth, gan na fyddai y dyn yn cael ei lofruddio yn weithredol, oblegid y byddai achos ei farwolaeth yn gwbl nacäol. Wedi eynyg egluro pa beth nad yw yn erlidigaeth, elai yr esgob rhagddo i ddangos pa beth ydyw. " Y mae erlidigaeth (medd efe) yn gorfodi dynion i dderbyn rhyw gred ffurfiedig neillduol, neu i oddef colli eu rhyddid, eu meddianau, neu eu bywydau !" Y mae yn dywedyd. nad yw cau allan o awdurdod yn erlidig- aeth. Y mae cau allan o awdurdod yn golled, ac felly y mae dyn yn cael ei ddi- feddianu o awdurdod, ac "y mae erlidigaeth yn gorfodi dynion i golli eu medd- ianu;'' o ganlyniad, rhaid fod cau alian o awdurdod yn erlidigaeth. Ý mae yn ddiau fod genym ryddid i farnu, meddwl, a theimlo fel y mynom, ac y mae hon yn oruwch- fraint na all neb ein difeddianu o honi; ond, eto, ni chawn weithredu yn unol â'r rhyddid hwn, heb oddef anfantais, sarhad, a dirmyg i gael ei orlwytho arnom. Y mae y weithred leiaf o ddarostyngiad gwladol a roddir arnom, oblegid ein syniadau crefyädol, yn cynwys holl egwyddorion creulonderau y Star Chnmber. Y cyhuddiad" a ddygwn yn erbyn sefydliadau gwladol o grefydd, gan hyny, yw, eu