Skip to main content

Y DIWYGIWE. Rhif, 137. RHAGFYR, 1846. Cyf. XI. ANERCHIAD. Hynaws Gydwladwyr,—Yn ein hegnion i ddiwygio y byd a gwella yr eglwys, a'n gadael yn burach a pherffeithach nag y cawsom hwynt, y mae o gryn bwys i ni sylwi yn ddifrif-bwyll ar hanesiaeth yr amseroedd a aethant heibio, ac i ddal yn fanylgraff ar arwyddion yr amserau presenol, modd y gallom rag-ganfod y pethau sydd raid fod ar ol hyn. Heb hyn, nis gallwn wneydyrhagbarotoadau, na mabwysiadu y mesurau a sicrhant i ni lwyddiant yn ein hymosodiadau ar lygredd yr oes hon, a'n hymdrechion i lesoli yr oes a ddel. Cawn gan hyny daflu cipolwg ar amgylchiadau yr oesoedd gynt, dremio ar agweddpethau yn awr, a rhagolygu yr hyn sydd ar ddyfod. Ar y boreu dyddorol pan anwyd Ty- wysog ein hiechydwriaeth, cyhoeddwyd egwyddorion y gyfundrefn fendigaid sydd i adgenedlu y byd, gan genad nefol a r lluaws oedd gandáo, " Gogoniant yn y goruchaf iDduw, ary ddaear tangnefedd, 1 ddynion ewyllys da." Mae holl ddar- bodaethau, rheolau, addewidion, bygyth- ion, a gorchymynion Cristionogaeth yn ymwneyd at ogoneddu Duw, llesoli y ddaear, a chadw dyn i fywyd tragywydd- ol: mae ei thuedd i oleuo y byd am Dduw, mae ei hergyd ar hunanoldeb yr eglwys, a chynygia at ddiwreiddio drwg- anwydau yr hil ddyDol, i "grynhoi ynghyd yn Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear ynddo ef," ac i ffurfio cymdeithas heb un canolfur rhwng yr Iuddew a'r Groegwr, y Barbar- iad a'r Scythiad, y caeth a r rhydd, "fel y byddont yn un' mewn rhagorfreintiau a dyogelwch yn Nghrist ; ond er cyr- haedd y baradwys lwysaidd hyfryd hon, a gwneyd " Y ddaear hon yn ddelw gu O'r nefoedd ogoneddus fry," rhaid i egwyddorion purion Cristionog- aeth ymhd a dyfetha pob peth gwrth- rywiol a ehroes iddynt eu hunain. Daeth Tywysog Tangnefedd gan hyny "nid i roddi heddwch ar y ddaear, ond yn hy- trach ymrafael:" daeth "i fwrw tàn ar y ddaear," a'i awydd mwyaf oedd ei weled yn cyneu, a ehanfod ei athraw- iaethau yn puro, yn profi, ac yn ysu' pob peth anghydweddol a hwynt eu hunain yn ulw. Nid oedd heb wybod y buasai hyny yn cynhyrfu cynddaredd dynion anianol, yn berwi gwledydd i'r gwaelod- ion, yn rhanu teuluoedd, ac yn gosod perthynasau yn erbyn eu gilydd. Ni achlysurodd dim erioed gymaint o gyn- hwrf a chymaint o ystwr yn y byd ag " Efengyl y Tangnefedd:" bwriodd i lawr orseddfeydd, dymchwelodd frenin- oedd, a dyrnodd genedloedd o herwydd eu gwrthuni a'u cyndynrwydd. Er nad oes a fyno crefydd fel y cyfryw â gwlad- eidiaeth, eto, gan na adewid llonydd iddi gan wladwyr, mae wedi ysgrîfenu ei henw â phin o haiarn ac â phlwm yn hanesiaeth gwledydd, ac yn nghroniclau breninoedd y ddaear. Ei holl amcaa ydyw, tymheru y byd i'r un ansawdd â hi ei hun, a chaethiwo pob meddwl i ufydd-dod Crist, heb waethygu dim ar neb fel deiliaid cymdeithas. Pan ym- ddangosodd Crist, yr oedd y byd yn ochain dan orlwyth o seremoniau Iu- ddewaidd a defod.au Paganaidd, ac yn awyddu am waredigaeth—yr urdd offeir- iadol hunan-eneiniedig oedd wedi ymgodi rhwng dynion a Duw, ac wedi gosod y werin i weithio yn galed, i ddyoddef penydiau gerwin, ac i dalu yn ddrud am fywyd tragywyddol, er methu ei gyrhaedd yn y diwedd—cyhoeddodd Eneiniog y Tad ryddid i'r caethion, ac agoriad earchar i'r rhai sydd yn rhwym; bwr- iodd i lawr offeiriadyddiaeth uchelfrydig —"Na'ch galwer chwi Rabbi, canys un ydyw eich Hathraw chwi, sef Crist: ehwithau oll brodyr ydych;" a dangos- odd y modd i gyfiawnhau dyn gyda Duw—«<Hon yw'r dystiolaeth roddi o Dduw i ni fywyd tragywyddol, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef." Dwy brif egwyddor fawr Cristionog- aeth, a'r hyn a'i gwahaniaetha oddiwrth bob crefydd arall yw, eyfartahwydd dyn- ion, a rhadlonrwydd yr ìeehydwnaeth; ac i'r graddau y byddo crefydd yn dirywio y mae y rhai hyn yn myned o'r golwg, a phan adgyfodir hwynt y mae yn ad- fywio. I osod yr egwyddorion hyn i fynu yn y byd yr aeth yr apostoüon allan, a mawr y cynhwrf a wnaethant, a'r twrw a achlysurasant ar y ddaear: ni fynai yr offeiriad ildio ei urddas, a disgyn i gyfar- 46